2016 Book review - Post-beginners

Adolygiad Llyfr gan Sion y Brag

“Oswald” gan Lleucu Roberts

Llyfr y gyfres “Stori Sydyn” (sy’n cael ei chyhoeddi gan “Y Lolfa”) ydy “Oswald” gan yr awdures Lleucu Roberts. Dydy y gyfres hon ddim yn ddeunydd enwedig i ddysgwyr, ond os dych chi’n chwilio am rywbeth i ddarllen sy’n lai heriol na nofel hyd llawn (ac heb wario llawer o arian!) bydd y llyfrau byrion yma yn addas iawn. Mae’r gyfres yn gynnwys sawl teitl ffeithiol hefyd, os dych chi ddim yn hoffi ffuglen. Oherwydd nad y gyfres ddim yn benodol i ddysgwyr, yn anffodus does dim geirfa ar bob tudalen, felly dych chi angen defnyddio geiriadur da er mwyn deall pob gair – ond dull ardderchog ydy hwn i ddatblygu eich geirfa eich hun.

Ac mae llawer o eirfa “Oswald” yn cysylltu â marwolaeth, angladdau a mynwentydd: ond os dych chi’n meddwl y bydd y llyfr hwn yn ddigalon, peidiwch â phoeni – mae o’n ddoniol iawn mewn gwirionedd!

Cymeriad rhyfedd ac anarferol iawn ydy Oswald ei hun, oedd yn arfer ysgrifennu teyrngedau ar gyfer papur newydd cyn iddo golli ei swydd. Er fod o wedi ymddeol, mae o’n parhau i fynychu cymaint o angladdau â phosib (yn arferol angladdau dieithriaid), lle mae o’n ysgrifennu manylion pob un mewn llyfr bach coch. Y cwestiwn ydy – pam yn y byd, pan oedd o’n medru wedi dewis ffordd o fywyd fwy siriol, a phan fod cymeriadau eraill yn awgrymu iddo y dylai newid sut mae o’n byw.

Yr ateb i’r cwestiwn hwn ydy testun yr holl stori, ond dydy’r llyfr ddim yn rhoi’r ateb mewn ffordd amlwg neu syml – y prif reswm pam y llyfr mor ddiddorol.

Dych chi’n dod i ddarganfod cymeriad Oswald drwy’r manylion bychain o beth mae o’n gwneud - a drwy beth mae o’n meddwl am bethau, yn enwedig pan ei fod yn gartref yn ei gegin o (yr un gegin lle bu farw ei fam sawl blwyddyn yn ôl). Yn fuan mae hi’n dod yn eithaf amlwg bod y perthynas rhwng Oswald ac ei fam (ac ei pherthynas hi gyda ei chariad, Y Major – oedd ei chyflogydd hi hefyd) yn ganolog i sut rhaid i chi ddeall ymarweddiad rhyfedd Oswald.

Mae Lleucu Roberts yn disgrifio popeth Oswald yn gwneud yn ofalus iawn – er enghraifft sut mae o’n paratoi ei frecwast a lapio fflapjac ar gyfer ei ginio mewn ffoil, ac mae pob manwl yn datblygu eich gwybodaeth ohono, gan adeiladu yn araf llun o ddyn dwys, heb ffrindiau go iawn neu bwrpas yn ei fywyd. Dydy o byth wedi gwneud unrhywbeth cyffrous – o leia, dim ers treulio ambell ddyddiau gwyllt ar ôl marwolaeth ei fam, a gwneud y peth drwg (allwedd arall i’w gymeriad) a oedd y rheswm collodd ei swydd.

Ond o’r diwedd mae Oswald yn mynychu un angladd sy’n dod iddo fel syndod a sioc mawr. Yr unig alarwr ydy o, ond enw yr ymadawedig ydy ei enw hun. Cyd-ddigwyddiad ydy hyn? Efallai. Beth bynnag, mae’r angladd hwn yn achosi iddo feddwl am wisgo tei mwy lliwgar!