"Sgŵp" gan Lois Arnold
gan Darllenwr Hapus
O’n i’n joio darllen Sgŵp. Mae e’n llyfr ar gyfer dysgwyr lefel Sylfaen Dau/Canolradd. Mae’r stori am Lowri Glyn, gohebydd ifanc sy’n gweithio i bapur lleol mewn tre fach o’r enw Pen-y-Bae. Mae hi’n breuddwydio am ysgrifennu storïau pwysig mawr ar gyfer papur enwog, gyda ei henw hi ar y tudalen blaen. Ond pan mae’r stori yn dechrau, mae hi’n ateb y ffôn yn yr ystafell newyddion, teipio llythyrau hir (ac yn arferol diflas!) gan pobl lleol, ac ysgrifennu dim ond storïau bach. Wil a Nia yw’r gohebyddion go iawn yn y swyddfa.
Mae teulu diddorol gyda Lowri. Hipis yw ei rhieni hi. Pan oedd Lowri yn blentyn, o’n nhw’n teithio o gwmpas mewn camper fan. Nawr, mae’n nhw’n byw ym Mhen-y-Bae mewn tŷ gyda enfys mawr ar y wal ffrynt. Mae Lowri yn caru ei rhieni hi, ond byddai hi’n hoffi prynu ei fflat ei hun rhyw ddiwrnod.
Un diwrnod, mae rhywun yn hala neges at y papur am fandaliaeth ym mharc Happy Haven. Oedd Lowri yn arfer byw yna pan oedd hi’n blentyn. Felly, mae Gwenda, y golygydd, yn rhoi’r stori iddi hi. Mae Lowri yn hapus. Mae hi’n moyn dechrau ymchwilio’r stori yn syth. Pan mae hi’n cyrraedd at Happy Haven, mae hi’n cwrdd â dyn cas ac ei gi mawr. A felly mae ei hanturiaeth hi yn dechrau.
Mae Lowri yn garedig ac yn ddoniol. Dw i’n hoffi’n enwedig sut mae hi’n delio gyda nai perchennog y papur newyddion. Mae Anthony yn ddyn ifanc lletchwith sy’n hoffi gwisgo “fel Dracula”, ond mae Lowri wastad yn garedig wrtho fe. Mae synnwyr digrifwch yn y llyfr. Er enghraifft, mae cyfweliad Lowri gyda’r deintydd newydd yn y dre yn ddoniol iawn. Mae llawer o ddigwyddiadau yn y stori, ac yn y diwedd, mae’r trywyddau yn dod gyda’i gilydd er mwyn cyrraedd at ddiwedd cyffrous. Dw i ddim yn moyn dweud y manylion i gyd wrthot ti, achos dw i’n meddwl dylet ti ddarllen y llyfr ‘ma!
Mae’r llyfr ‘ma yn dda i ddysgwyr am sawl rheswm. Mae’n ddefnyddiol i gael geirfa ar y gwaelod o bob tudalen. Dim ond unwaith neu ddwywaith oedd rhaid i fi chwilio am gair yn y geiriadur. O’n i’n gallu darllen ac joio’r stori heb llawer o odoriadau. Mae dim ond pedwar neu bum tudalen yn bob pennod, felly o’n i’n gallu darllen dim ond un pennod os doedd dim llawer o amser gyda fi. Mae llawer o ffurfiau byr yn y llyfr, achos mae’n ysgrifennu yn yr amser gorffennol. O’n i’n meddwl ei fod e’n brofiad da i ddysgu mwy amdanyn nhw.
Oedd e’n braf iawn i ddarllen llyfr sy’n teimlo fel nofel “go iawn”, yn lle stori byr. Mae dau gant saith o dudalen ac hanner cant o bennodau gyda’r llyfr. Mae llawer o cymeriadau a digwyddiadau, ac mae’n cymryd amser i dod i nabod y pobl ac yn gwylio’r plot yn datblygu. O’n i’n joio darllen Sgŵp yn fawr iawn, a dw i’n gobeithio byddi di’n ei ddarllen e ac ei joio fe hefyd.