2017 EISTEDDFOD ENTRIES - Welsh language poetry - Short Poem

Short poem - max 20 lines, written free verse, on the topic “Ydw i’n breuddwydio?”

YDW I’N BREUDDWYDIO ?
gan Goggodda

O’r ben y lon dwi’n gweld o, dwi medri gweld y pentre
Pentre o fy nheulu, cartref o fy nhaid a nain
Nain a taid syn aros yna, aros imi gyrraedd
Cyrraedd i ymweld nhw, yn eu bwthyn bach.

Bach ydi’r bwthyn ac yn hen. Gefail oedd o unwaith
Unwaith, ond rwan cartref cysurus, croesawu ydi o
Croesawu fel fy nhaid a nain, hapus i weld ein wyr
Wyr pwy syn caru nhw, rhan fawr o fy mywyd ydyn nhw.

Nhw , henoed rwan, dim ar wahan dros saith deg mlynedd
Blynyddoedd hapus. Tri blant gynnon nhw a wyrion
Wyrion sy’n hoffi mynd i’r pentre i ymweld nhw.
Ymweld nhw? Ydw i’n breuddwydio?, does neb yna rwân.

Rwân.mae nhw’n gorwedd yn y mynwent heddychol
Mewn hedd mae nhw’n gysgu efo ffrindiau a deulu
Teulu mawr sy’ wedi diflannu yn hollol o’r pentre
Pentre o dieithriaid ydi hi’n bellach, does neb yn eu gofio nhw.

Cadair Idris
gan Gwion Morgannwg

Clirio’r haen cymylau gwynion
Datgelu’r elltydd glaswellt a’r cerrig gleision
Sefyll wrth ben y brodydd hanesyddol
Ffurfio breichiau yr orsedd awdurdodol.

O’r copa hwn, sefyll y Brenin Cawr
Arsyllu’r byd, ei deyrnas fawr.
Rhostir, dolydd, nentydd disglair
Drostynt galw ei ryfelwyr

Canu’r curiad uwch eu gorymdaith
Codi calonnau a deffro eu gobaith
Cydio eu harfau â gafael dynn
Ar hyd yr wal eu ffaglau ar gynn.

Ymosodwyd y frwydr yr oesodd gynt,
Wynebon eu herbyn y llusoedd dwyreinwynt.
Arhosodd ddoe yr adlais y trwst,
Cofion eu hymdrech fel dyrru dwst.

Er hynny! Trystio eu hunaniaeth a hegni,
Tyfu eu hyder, cychwyn eu dadeni.
Gwawr newydd y wlad ydy digwydd
Ydw i’n breuddwydio? Gobaith yw hon nid darfelydd

YDWI’N BREUDDWYDIO?
gan Dan y Bryn

Ydwi’n breuddwydio?
Na, mewn hunllef dwi nawr.
Mwd, mwd ym mhobman
Tynnu fy nghorff i lawr.
Swn y brwydr a drewi nwy
Croeso i’r Rhyfel Mawr.

Anghyfannedd yw’r lle hwn.
Dim glaswellt neu gan yr adar
Gorwedd mewn ffos llawn dwr
Fel llygoden fawr annifyr.
Gwyllt a ffyrnig yw Brwydr y Somme
A milwyr dewr a beiddgar.

Ffrindiau da sy gyda mi.
A phan teimlo’n ofn a gwan
Mi glywaf lais Taffy Bass
"Bois, beth am bennill o “Galon Lan”?
A chanwn ni gyda deigryn hallt
Ar ein hwynebau fel baban.

Ydw, dwi’n breuddwydio.
Am hedd - mewn byd creulon.

Awyr Y Nos
gan y Lloffwr

O fin nos i ganol nos
Heb na siw na miw
Hwnt ag yma, yma ag acw,
Dym prysurdeb
Y sêr a’r lleuad yn ymddangos.
Dwi’n tybio, weithiau,
Sut mae’r cymylau llwyd a’r tywyllwch
Yn rhoi genedigaeth i’r sêr ac i’r lleuad.

Y bore bach,
A thoriad y wawr
O gam i gam
Cerdded ling di long,
Canu’n iach
Cyfarch ac ymadael
Bob yn un.
Un tro; Un lle;
Ble y lleuad lladd gwair ei ffordd
Yn yr awyr, lled cae.
Roeddwn i’n effro, gweld hyn
Huddoliaeth. Swynion.

Breuddwydio
gan Machlud Haul

Ydw i’n breuddwydio?
Dw i yng Nghymru
Yn cerdded yn y mynyddoedd
yn teimlo’r awel ar fy wyneb
yn clywed yr adar

Dw i yng Nghymru
Ar lan y môr
Yn cerdded ar y traeth
yn teimlo’r niwl ar fy wyneb
yn gwrando ar y tonnau

Dw i yng Nghymru
yn cerdded yn y dre
yn teimlo gwên ar fy wyneb
yn siarad Gymraeg gyda ffrindiau

Dw i’n breuddwydio
Dw i’n byw dros y môr
yn teimlo hiraeth am wlad
Dw i erioed wedi gweld

Vote for your choice here:

  • Goggodda
  • Gwion Morgannwg
  • Dan y Bryn
  • Lloffwr
  • Machlud Haul
  • No Award

0 voters