2020 Eisteddfod entries - Book Review (Post-Beginner)

A short book review, up to a maximum of 500 words, written in Welsh, for learners that are enjoying reading in Welsh and would like to share a favourite book with others.

For the first time, there will be a “Celebrity Judge” (Bethan Gwanas), besides “People’s Choice" - as always.

After the entries, there is a survey where you can choose your favourite.

Y8 “Te yn y Grug (Kate Roberts)” gan Edwina Ely

Mae Te yn y Grug yn stori glasur gan Kate Roberts. Mae’r llyfr yn cynnwys sawl stori am plant sy’n byw ar lechweddau mynyddoedd Sir Gaernarfon ar droad yr 20fed ganrif. Mae’r stori’n dilyn bywydau tair merch fach sef, Begw, Winnie ffini Hadog a Mair. Plant diniwed ydyn nhw ond mae eu byd yn gyfyngedig. Mae nhw’n profi caredigrwydd a creulondeb ond weithiau mae nhw’n greulon ac yn angharedig eu hunain. Trwy feddyliau a siarad y plant gawn i cip clir a chynnull ar eu rhieni a phobl eraill yr ardal.
Mae’r stori’n dechrau yn ystod y gaeaf gydag anobaith Begw yn ddim ond pedair oed. Gollodd Begw Sgiatan (ei chath) a dyma’r diwrnod mwya digalon a gawsai Begw erioed. “Diwrnod du, diobaith er bod pob man yn wyn” meddai Kate Roberts wrth osod yr olygfa. Hoffais lais Begw sy’n ymddangos yn aeddfed iawn er gwaethaf ei hoedran. Ac roedd hi’n ddiddorol darllen am le a chyfnod hwnnu.
Begw , ei chymydog Mair a Winnie, merch Begw yn cwrdd a hi ar y mynydd am y tro cyntaf yw’r tri o blant. Mae bywydau a chefndiroedd y tri chymeriad mor wahanol i’w gilydd. Hoffais i’r ffordd mae Kate Roberts yn portreadu byd yr oedolion trwy safbwyntiau’r plant. Mae’n hawdd dychmygu’r gweithgareddau yn yr ardal yn y cyfnod hwnnw er gwaetha mae hi’n defnyddio iaith glasurol. Mae’n anodd dod o hyd i unrhywbeth negyddol am y llyfr hwn. Roedd Kate Roberts yn cadw ei llygad yn ei lle gyda manylion y stori. Nid oes ‘na ffantasi. Mae portread y stori gan Kate Roberts eitha argyhoeddiadol.
Dyma stori gyfeilligar a phryderon plentynaidd, moethau bach, cosbau cyflym, teithiau cyffrous a siomedig dagreuol. Sut mae plant yn ymdopi gyda byd gelyniaethus oedolion. Mae llyfr hwn yn cyfleu llawer am y natur ddynol yn ei holl gymhlethdod mewn ddim ond 95tudalen. Dyma llyfr sydd yn werth ei ddarllen, ac felly byddaf yn rhoi pum seren allan o bump iddo.

Y15 “Stori mawr cwm bach (Myrddin ap Dafydd)” gan Winci Wen

Prin yw storïau Cymry cyffredin yn maeddu’r cryf a’r cyfoethog - a, fel arfer, mae brwydrau yn hir ac yn anodd. Mae llyfr Myrddin ap Dafydd yn sôn am un o’r brwydrau hynny - pobol Cwm Gwendraeth yn amddiffyn eu tai yn erbyn swyddogion Abertawe i’w stoppio nhw rhag foddi’r cwm.

Mae “Yr Argae Haearn” yn dilyn stori un o deuluoedd y cwm, a, fel yn “Pren a chansen”, stori arall anghofiadwy gan yr un awdur, rydyn ni’n gweld y cwbl trwy lygaid plentyn. Plant tawel ac efallai tipyn bach yn shei ydyw prif gymeriadau’r ddau lyfr, ond maen nhw hefyd yn ddewr ac yn aeddfed. Mae’r aeddfedrwch hon yn eu galluogu nhw i weld pethau yn glirach na siwd mae oedolion yn eu gweld. Dim ond rhyw ddarn o wlad i ddefnyddio i arlwyo dwr i Abertawe yw Cwm Gwendaeth i’r swyddogion ac i’r barnwr sy’n penderfynu beth bydd yn digwydd i’r lle. Ond, i Gareth, y bachgen sy’n adrodd y stori, mae’r cwm yn fydasawd bach ble mae popeth yn bwysig iddo fe: ei goeden e, ei gae arbennig e - cae’r cwningod, ac atgofion o’i dad-cu. Dyna’r rheswm pam mae symud a gadael y lle i gael ei foddi yn swnio’n amhosib - yn wall-gof. Nid yn unig achos y ffermydd a’r tai (sy’n rheswm digon cadarn, wrth gwrs) ond achos lle arbennig iawn yw e, a does dim lle tebyg.

Mae’s llyfr yn llawn darnau emosiynol iawn, a gyda’r holl emosiynau o’n i’n teimlo, deallais i, efallai, un o syniadau pwysicaf y stori - bod pob cartref yn arbennig i rywun a mae’n werth ei amddiffyn, hyd yn oed pan mae’r bobl cryf yn dy erbyn di. Mae Myrddin ap Dafydd yn cofio,

mwy nag unwaith, digwyddiadau hanes a chwedlau Cymru gan ddweud y stori - cae Gwenllian, Cantre’r Gwaelod - a, wrth gwneud hynny, mae’n cysylltu stori cwm bach â stori mawr y wlad.

Peth lwcus iawn oedd bod gyda phobl Cwm Gwendraeth ddigon o ddewrder i beidio cael ofn ac ildio. Ennillon nhw’r frwydr yn erbyn Abertawe - ni chaeth y cwm ei foddi. Ond dydy diwedd y llyfr, er ei fod e’n dda, ddim yn llawen. Cath Cwm Gwendraeth ei fuddugolieth, ond mae cysgod Tryweryn - a llefydd eraill, - yn tywyllu’r llwyddiant hwn. Does dim modd ennill pob brwydr - ond, fel dwedodd Tad-cu wrth Gareth, “pan fydd y rhai bach yn erbyn y rhai mawr, does neb yn disgwyl iddyn nhw ennill - ond mae’n bwysig fod y rhai bach yn credu y gallen nhw gario’r dydd!”

Y33 “Blasu (Manon Steffan Ros)” gan Merch O Traeth Goch

Mae Blasu yn dechrau efo Pegi, y prif cymeriad, yn rhannu ennyd o llonydd efo ei mab, ar ôl y parti ar gyfer ei phenblwydd yn wyth deg. Mae o’n rhoi iddi llyfr nodiadau, yn gobeithio y bydd hi’n cofnodi rhan o ei atgofio hi.

Wedyn, mae hi’n mynd am tro, drwy’r pentre bach lle oedd hi’n byw ei holl bywyd a lle mae cysgodion o’r gorffennol yn aros yn bob cornel.

Oddi yno, mae stori yn mynd â ni yn syth i mewn stori ei bywyd, yn dechrau pan oedd hi’n wyth oed. Yn brwnt a llwgu, mae hi’n ffoi’r tŷ lle mae ei mam yn eistedd yn siglo ei hun, er mewn pledio am help o cymydog.

Mae bob pennod yn dechrau efo rysáit, ac mae bob un yn cael ei adrodd gan person arall – rhywun y cyffyrddodd Pegi â’i fywyd trwy fwyd. Dan ni’n cyfarfod ei nain a ei thaid, ei gwr, ei meibion, ei ffrind gorau – ond hefyd pobl bod hi’n cyfarfod dim ond o ddamwain.

Mae rhan mwyaf o pobl yn cael ei hudo gan Pegi a’i charedigrwydd go’ iawn a’i haelioni. Ond mae ychydig ohono nhw yn synhwyro rhywbeth tywyll tu mewn iddi. Yn bendant, mae’r ffaith bod hi bron â llwgu fel plentyn yn rhoi iddi perthynas afiach gyda bwyd. Ac mae Pegi ei hun yn aflonyddu gan y ofn y medrai dilyn llwybr ofnadwy ei mam. Ond mae dim ond yn tudalennau olaf y llyfr bod ni’n ffeindio allan y gwir torcalonnus yng ganol ei thywyllwch.

Mewn cyfres o cip tirion a chlir, mae Ross yn archwilio cariad, cyfeillgarwch, mamedd, meithrinodd ac esgeulustra, afiechyd meddwl a chorfforol, a henaint. Mae ei iaith ardderchog yn consurio y aroglau a blasau o’r bwyd bod hi’n disgrifio, yn ogystal â’r tir garw a thymorau cyfnewidiol Gogledd Cymru.

Profiad wahanol iawn ydy darllen y llyfr hwn yn y Gymraeg. Pan dw i’n darllen yn Saesneg, dw i’n llawcio pennod ar ôl pennod. Ond fel dysgwyr Cymraeg, rhaid i mi mynd yn araf, yn datglymu fesul brawddeg. Efallai dyna pam delweddau Ross yn aros yn fy meddwl mor glir.

Dw i’n wrth fy modd efo’r llyfrau Manon Steffan Ross, ond dyna fy hoff un. Dw i’n ei argymell o yn gryf.

  • Y8 “Te yn y Grug” gan Edwina Ely
  • Y15 “Stori mawr cwm bach” gan Winci Wen
  • Y33 “Blasu” gan Merch O Traeth Goch

0 voters