Y53 “Cwestiwn Rhyfedd” gan Mab Gwyn
Roedd y flwyddyn 1973. Mi ôn i’n arfer teithio yn yr Unol Daleithiau i fusnes. Ar y diwrnod penodol hwn glaniodd fy hediad yn Mobile, Alabama.
Darllenodd “Welcome home y’awl” y faner fawr iawn a oedd i’w gweld yn glir trwy’r ffenestr yr awyren.
Roedd “y’awl” yn y achos hwn yn cyfeirio at y milwyr yn dychwelyd o’r rhyfel yn Fietnam. (Roedd America yn y broses o dynnu ei milwyr yn ôl o Fietnam y flwyddyn honno).
Arhosais wrth y giât am fy hediad cysylltiol i New Orleans.
Wel rwân, o ran cyflwyno eu hunain i ddieithriaid, dan ni i gyd yn gwybod bod ein ffrindiau Americanaidd ddim yn araf wrth ddod ymlaen.
Felly, doedd dim yn syndod fy nhynnu i mewn i sgwrs efo’r dieithryn llwyr hwn yn fuan.
Efo drawl ddeheuol dwfn, gwnaeth sylwadau ar fy acen a gofynnodd wrthaf fi o le des i.
Pan ddatgelais fy mod yn dod o Gymru, daeth ein ffrind yn gyffrous iawn iawn.
“Wales!” adleisiodd o. “Tell me, would ya know David Jones in Wales?”