2021 Eisteddfod entries - Traditional Song

Traditional Song – Aberdaron sung by a solo singer, a duet, or a group, accompanied by one instrument.

Well, not many participants to this category this year. So no instructions for voting needed! But you can enjoy the performance, and follow the lyrics, and sing along!

Aberdaron

Pan fwyf yn hen a pharchus
Ag arian yn fy nghod,
A phob beirniadaeth drosodd
A phawb yn canu 'nghlod,
Mi brynaf fwthyn unig
Heb ddim o flaen ei ddôr
Ond creigiau Aberdaron
A thonnau gwyllt y môr.

Pam fwyf yn hen a pharchus,
A’m gwaed yn llifo’n oer,
A’m calon heb gyflymu
Wrth wylied codi’r lloer;
Bydd gobaith im bryd hynny
Mewn bwthyn sydd â’i ddôr
At greigiau Aberdaron
A thonnau gwyllt y môr.

Pan fwyf yn hen a pharchus
Tu hwnt i fawl a sen,
A’m cân yn ôl y patrwm
A’i hangerdd oll ar ben;
Bydd gobaith im bryd hynny
Mewn bwthyn sydd â’i ddôr
At greigiau Aberdaron
A thonnau gwyllt y môr.

Oblegid mi gaf yno
Yng nghri’r ystormus wynt
Adlais o’r hen wrthryfel
A wybu f’enaid gynt.
A chanaf â’r hen angerdd
Wrth syllu tua’r ddôr
Ar greigiau Aberdaron
A thonnau gwyllt y môr.

5 Likes

C63 Aberdaron gan Yr Un Hen Ddyn

5 Likes

Bendigedig! :heart:

3 Likes

Hyfryd! Mwynheais iawn.

1 Like

Lovely. And very impressive whistling. B

Hyfryd!

da iawn ! wnes i fwynhau

Gwych

Winners announced!

1 Like