Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

Dw i wedi jyst darllen bost o @gruntius … Wnaeth fe fel yn ffilm “Ghost” pan wnaeth e newydd yr bost … - haha Ych chi’n gallu ddychmygu fy syndod. :slight_smile:

Neithwr aethon ni allan gyda cwpwl o ffrindiau. Aethon ni i “Time & Beef” yng Nghaerdydd, a dw i’n cyntuno gyda’r erthygl walesonline bod gynnyn nhw’n byrger gorau yng Nghaerdydd.
Penwythnos nesa awn ni weld tŷ ar bwys i Barc Victoria, dim hir i Time & Beef, fe fedrai o beryglus!

Wedi bod i’r eglwys bore ma. Wedi bwydo’r ieir. Wedi postio rhywbeth eitha gwleidyddol ar y fforwm. Mynd i gwneud bowlen ffelt.

1 Like

Rwan dw i newydd cyrraedd adre ar ôl mini bootcamp…neu bŵtcamp bach…diolch @gruntius …ac hefyd yn ymweld @aran a teulu.

Wnes i mwynhau’r penwythnos…heb saesneg…llawer o geiriau newydd a rwan dw i ‘di sylweddoli bo’ fi angen ymarfer mwy a dysgu mwy hefyd.

Felly yfory, Saith Seren eto. :slight_smile:

3 Likes

Dw i’n hapus i glywed dy fod ti wedi ei fwynhau! O fy mhrofiad, nes i ffeindio 'mod i newydd ddechrau teimlo’n gyffroddus ar ôl tri dydd o bwtcamp. Felly, dw i’n meddwl dy fod ti 'di gwneud yn dda iawn gyda dim ond penwythnos.

Tria mynd ar bwtcamp go iawn nawr!! Alla i ddim ei gymeradwyo fe’n gymaint!

3 Likes

Mae dy Gymraeg di yn wych, Peter - dylet ti fod yn falch iawn ohonot ti dy hun :star: :star2:

1 Like

Diolch yn fawr iawn. O’n i isio aros ond oedd rhaid i mi fynd achos o’n i’n mynd allan.

Oedd y penwythnos yn grêt. A hefyd, oedd yn neis iawn i gyfarfod fy arwr!

1 Like

Diolch @AnthonyCusack . O’n i wedi syniad i drefnu bŵtcamp bach.

Do’n i ddim yn sîwr beth oedd yn mynd i ddigwydd.

Ond, oedd yn hwyl fawr.

Felly, efallai bŵtcamp mawr y blwyddyn nesa.

3 Likes

Byddet ti’n wych ar bwtcamp hir. Dwi’n meddwl fod gent ti’r agwedd i fod yn help mawr i’r ddysgwyr eraill!

Diolch yn fawr iawn. Heddiw dw i’n teimlo fel rhywun sy’n medru siarad cymraeg a dw i’n edrych ymlaen at dysgu mwy. :slight_smile:

Diolch Peter, mor garedig. :wink:

1 Like

Ha ha…ond wnes i ddim ychwanegu “eto”, felly dw i’n tybio bod ti angen ymarfer darllen :wink:

Felly wyt ti’n dweud bo’ fi ddim yn dy arwr? Mae gen i deimladau, t’bo!

Wel, fy ysbrydoliaeth 'te.

1 Like

Mae hwna’n wych!

Esboniodd Iestyn bod y broses dygsu fel spiral. Weithiau, dan ni’n teimlo fel y fedrwn ni siarad Cymraeg, a wedyn, medrwn ni deimlo fel dan ni ddim wedi gwneud cynnydd o gwbwl!

Mae’n bwysig iawn i gofio sut ti’n teimlo heddiw! Ti’n teimlo fel medri di siarad Cymraeg, achos dy fod ti’n medru siarad Cymraeg! Mae dal gynnon ni gymaint i ddysgu, ond dan ni’n medru siarad yr iaith!

2 Likes

Dw i’n cytuno. Mae’n bwysig i gofio hwnna.

Fel wythnos 'ma, dw i’n teimlo fel dw i’n meddwl yn saesneg mwy na Gymraeg. Dw i’n gwybod y medra i ddeall mwy na cyn imi wedi mynd i Dresaith gyda Bwtcamp. Felly, dw i’n gwybod fy mod i wedi cyrraedd ar lle newydd ar y spiral ond mae’n annodd i fod yn bositif weithiau!

1 Like

Mae hyn yn digwydd i mi hefyd pan dwi’n treulio gormod o amser ar y fforwm - paid a rhoi amser caled i ti dy hun!

2 Likes

Diolch Aran! Dw i’n meddwl bod fy nghariad wedi drefnu noson Gymraeg i ni ddydd Sadwrn. Gobeithio ei fod o’n helpu!

Efallai, na i dreulio bach o amser i ffwrdd y fforwm hefyd.

1 Like

Paid a phoeni. Mae dy Gymraeg yn adderchog. Weithiau ti angen treulio amser heb siarad cymraeg.

2 Likes