Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

Dyn ni’n mynd i dreulio’r penwythnos hir yn Kosiče, Slofacia heno gyda cwpwl o ffrindiau. Dw i erioed wedi clywed o Kosiče cyn iddyn nhw drefnu’r Air BnB…methu aros!!

3 Likes

Tasech chi’n edrych am rhywle i fynd i eistedd yn teras stryd, bwyta bwyd blasus, yfed cwrw a choffi, a wedyn cerdded o gwmpas dinas hanesyddol cyn i chi eistedd lawr eto i fwyta bwyd blasus ac yfed cwrw a choffi, gad imi argymell Kosiče.

Roedd y pobl yn gyfeillgar iawn. Roedd y tywydd yn braf. Doedd y ddinas ddim yn drud. Felly, roedd hi’n penwythnos bendigedig!

1 Like

Dw i newydd cyrraedd gartre ar ôl te prynhawn gyda fy mam, fy mamgu a fy modryb. Aethon ni i “The Old Barn Tearoom” yn Torpantau ar bwys Pontsticill. Roedd e’n lush. Ond, dw i wedi bwyta gormod!

2 Likes

Dwi’n gwylio Cymru chwarae RGC. Mae’r gêm wedi bod yn eitha unochrog, ond mae’r cefnogwyr RGC yn dda iawn! Mae’n wych i weld pa mor hir y tîm wedi dod mewn amser byr.

1 Like

Weithiau mae’n wyntog iawn yma ar Ynys Môn. Mae’r tymor tyfu yn eitha byr yn yr ardd. Mae’n cymryd amser hir i lysiau a blodau i ddangos twf. Ond erbyn hyn mae’r tymor wedi 'cicio i ffwrdd!
Mae’r eirin duon, afalau, llysiau a blodau yr ‘eirin ysgaw’ yn tyfu ym mhob man. Mae’r ieir yn dodwy llawer o wyau, ac mae’r gwenyn yn eu ‘cychod’ yn ar frys i baratoi ar gyfer y llif mêl cyntaf y flwyddyn. Dyma yn wir yr wlad Duw!

Nes i ganu gyda Steffan Rhys Hughes heno. Roedd 'na’n profiad arbennig. Mae’n saff i ddwued fydda i ddim yn cystadlu erbyn o yn yr Eisteddfod, ond mae’n wych i ganu gyda rhywun mor dalentog a fo!

Dwi’n darllen “Y ffordd peryglus” gan T Llew Jones ar hyn o bryd. Mae’ pobol o Dregaron newydd glywed rhywbeth drwg. Darllenwyd y lein nesa “roedd yr efail yn llawnach nag arfer”. Do’n i ddim yn gwybod mai lle cyfarfod oedd yr efail?! (Mae efail yn golygu “forge” yn Saesneg).

Cymru, ni’n dod! O’r diweth, mae’r taith yn dechrau bore 'fory. Dw i’n rili disgwyl ymlaen am hynny!

4 Likes

Gwych!! Ble wyt ti’n mynd??

“Rownd-trip“ yw e. Awn ni i Rotterdam cyntaf, gyda “ferry“ i Hull, wedyn Bakewell (Peak District) cyn ni’n cyrraed yng Nghymru. Byddwn ni aros yn Nolgellau am dau noson, wedyn dau noson yn Sir Benfro, ac olaf dau noson yn Nghaerdydd.

1 Like

Gwych!! Dw i’n gobeithio gei di amser da! Ar hyn o bryd mae’r tywydd yn braf. Mae’n teimlo’n fel y haf :smile:

1 Like

Bakewell (Peak District)

Ti’n gorfod blasu yr enwog Bakewell Pudding :yum: - gwell na Bakewell tart yn fy marn i

2 Likes

@hewrop Dw i’n mynd i drio gwneud hyn, diolch. Dw i’n meddwl byddaf i cael gormod i’w fwyta yn ystod y gwiliau! :yum:

1 Like

Yfory, ni’n mynd i adael Lloegr, a ni’n mynd i weld Castell Caernarfon. Dw i’n gobeithio bydd y tywydd yn well na yma yn Loegr… oedd hi’n bwrw glaw bob dydd heddiw yn Chester! (Dw i’n teimlo fel Rob McKenna, Rain God :wink: )

2 Likes

Mwynha! Bydd cyfle i siarad Cymraeg yn Nghaernarfon hefyd.

Dw i newydd ailnewyddu yr enw domain fy mlog am dair blynedd. Darllenwch, os gwelwch yn dda!
www.bywyd.cymru

6 Likes

Dim ond ymarfer ymarfer ymarfer, cyn i fi fynd i’r Eisteddfod yn fuan, bach o phoeni amdani. Dwi ddim yn meddwl bod fy nghraeg yn ddigion dda weithiau; i fod yn onest, dwi’n “bricking it” reit nawr!

Ond, dwi i ddim yn gweithio yn galed i rhoi i ffidyl yn y tô. Dim ond gobeithio dwi ddim yn botel e.

…unrhywun arall mynd i fynd eleni?

4 Likes

Paid â phoeni! Dwi’n siŵr bydd dy Gymraeg di yn ddigon dda. Fyddi di ddim yn deall popeth ond bydd y profiad yn wych.

Alla i ddim mynd eleni. Mae’n rhaid imi weithio wythnos nesa. O’n i’n edrych ymlaen at fynd ond mae gen i fyfyrwr sy’n dechrau ddydd llun.

3 Likes

Es i, gyda fy nai ac ei fam, a ffrind fy mrawd, i deml bore 'ma i gofio’r farwolaerh fy mrawd pum mlynedd yn ôl. Yfory dw i’n gadael Surat Thani a, gobeithio, cyn dydd Sadwrn, bydda i’n cyrraedd Kunming (eto), Zhangjiajie nesa, Wuhan ac, a’r diwedd y mis, Shanghai le bydd fy mam yn hedfan o Lundain cyn iddi ni fynd i Siapan ar fferi ac anturiaethau nesa.

5 Likes

@margaretnock Dwi’n dilyn dy ‘blog’ di ar ‘bloglovin’ rwan. Diolch i ti am rhannu’r straeon dy deithiau.

2 Likes