Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

Dan ni newydd orffen bwyd yn yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd gyda fy chwaer yng nghyfraith a nai. Dan ni ddim wedi gweld nhw ers fis Mehefin. Oedd y ferch sy’n gweithio yno yn dda iawn. Oedd hi’n siarad efo fy chwaer yng nghyfraith yn Saesneg a hefo ni yn Gymraeg :slight_smile:

2 Likes

A wedyn, dwi newydd brynu fy modrwy priodas! Mae’n o ddifri nawr!!!

5 Likes

Llongyfarchiadau! :slight_smile:

1 Like

O, Margaret! Mae hynny’n edrych yn boenus iawn! Brysia wella!

O fi hefyd! Cer yn ofalus, Margaret fach!

1 Like

Dw i’n meddwl bo’ fi 'di rhoi earworm i fy hun y bore 'ma…

3 Likes

Dw i’n typyn fach wedi meddwi ond dw i ddim yn gofal. Es i i gig at Clwb Ifor Bach i weld Cpt Smith a Omaloma heno. Dw i ddim gwybod, mae siarad yn gymraeg yn hawddach yn ol ychydig o gwrw. Hyd yn oed efo hogan hardd iawn iawn. Pob un siaradwyr Cymraeg yn dwli am siarad efo dysgwyr, oedd yn wych i treulio mor cymaint o amser yn siarad cymraeg yn unig. Ges i cyfarfod dyn pwy sy’n byw drws nesaf i’r fferm lle oedd fy nhaid oedd tyfy fyny hyd yn oed. dw i’n dwli am yr iaith. Pawb yn Gymru yn licio yr iaith, wel mwyaf o bobl, ond dysgu cymraeg yn anodd iawn, felly dyn ni angen pethau fel SSiW mor cymaint. Mae pobl Cymru pwy sy’n byw yn yr cymoedd yn sylweddol sut mor bwysig yr iaith, ond mae nhw angen yr cyfle i defnyddio’r iaith pob dydd. Dylan ni siarad yn Cymraeg pob dydd, fel dim ond ‘diolch’ neu ‘Shwmae’ i helpu pobl gwybod fod ychydig o siarad yn Cymraeg yn iawn.
Ges i llawer o sgwrs am y pwnc ydy ‘eitha cwl’ yr un peth fel ‘rather cool’ yn Saesneg, dim quite dw i’n credu, Diolch Omaloma.
Mae peth pwysig ydy siaradwyr cymraeg yn licio dysgwyr a pobl sy’n medru deud typyn fach fach o cymraeg. Felly dwlyn ni ddim boaeni am trio defnyddio ein Cymraeg.
Nos dda!

4 Likes

O’n i mor falch neithiwr. Dywedodd ffrind Emma wrthon ni bod hi’n trio dysgu Cymraeg erbyn ein priodas, ac mae hi’n defnyddio SSiW!! Mae hi’n gweithio yn Abertawe a dywedodd hi bod ganddi cleifion sy’n fodlon i weithio gyda hi oherwydd bod hi’n dechrau pob sgwrs yn Gymraeg :smile:

5 Likes

Dw i’n falch o’r waith y ddau ohonoch chi’n gwneud i hybu dysgu Cymraeg yn y GIG mewn ardalloedd nid di Gymraeg ond llai Gymraeg. Wedi bod claf yn Abertawe bron wyth mlynedd yn ôl, ar y dechrau fy naith dysgu Cymraeg, dw i’n cofio gwrando dim ond ar Saesneg. Ond roedd y ffisio yn Langwili, gyda’i chalon Gymreig!

2 Likes

Dwi wedi bod yn gweithio’r penwythnos 'ma gyda fy myfyrwyr. Mae un ohonyn nhw yn medru Gymraeg (Lizzie ydy ei henw hi) Mae 'na glaf yn ein ward arall nad ydw i ddim yn gweithio ynddo. Ysgrifennodd un y tîm nad ydy hi ddim yn gweithio gyda ffisio. Wel, fi’n gwybod bod hi’n siarad Cymraeg felly es i a Lizzie i’w weld hi. Wel, oedd hi wrth ei bodd i weithio gyda ni!! Doedd na ddim golwg nad oedd hi isio gweithio gyda ffisio. What a difference a language makes!!

2 Likes

Wnes i ennill tanysgrifiad i gylchgrawn Golwg fel gwobr yn yr Eisteddfod ar-lein - gwobr hael iawn - a wnes i dderbyn y rhifyn cyntaf ddoe. Ar hyn o bryd, dw i newydd orffen darllen yr erthygl ‘Steil’, am wallt a dillad a cholur ac ewinedd…! Fyddwn i fyth yn darllen rhywbeth fel 'na yn Saesneg, ond oedd yn neis iawn sylweddoli cymaint o’n i’n medru deall heb eiriadur :smile:

5 Likes

Dw i wedi bod yn sownd yn y tŷ trwy’r dydd heddiw! Mae’r tywydd mor rhywstredig! Bob tro pan mae’r haul yn dod mas dw i’n meddwl - Aha, amser mynd am dro - ond cyn i fi allu hyd yn oed gwisgo fy siaced, dw i’n clywed swn glaw trwm, neu cesair, ar y to! Dw i wedi rhoi gorau nawr. Man a man i fi ganolbwyntio ar sgwennu’r ebost wythnosol :relaxed:

9 Likes

Dim glaw 'ma (De Swydd Rhydychen) - mae’n heulog braf … ond oer iawn!

Eistedd yn fy ystafell gwely yma yn Ne Korea, feddwl am ATM i gael fwy o arian cyn i fi fynd i bentre hanesyddol. Mae’n dechrau oeri yma hefyd.

3 Likes

Dw i newydd ffonio asiant gwerthu tai yng Nghaernarfon i drefnu apwyntiadau i mi weld tai yn yr ardal. Y holl galwad ffon yn Gymraeg wrth gwrs!

Oedd angen i mi ofyn i’r person ar ben arall y llinell ffon ailddweud rhai pethau, ond o’n i’n llwyddiannus i drefnu popeth trwy’r Gymraeg :smile:

7 Likes

Helô! Dw i’n hapus i ddweud rhywbeth yn y Gymraeg :slight_smile: Wnes i orffen unediad 16 ac unediad 17 (Course 1) heddiw. Dw i’n awyddus i glywed unediad 18 yfory! Dw i’n dweud beth bydda i’n gwneud yn y Gymraeg yn aml: “Dw i’n mynd i agor y ffenest!”, Dw i wedi cau’r drws!", a “Mae’r coffi yn aros!” (wrth fy ngŵr, achos mae o wedi gwneud y coffi, ond wnaeth o ddim yfed o!) :smile:

Dw i wedi blino rŵan. Dw i’n gobeithio cysgu yn dda heno. Nos da! :slight_smile:

7 Likes

yw “wmpa lwmpa” Cymraeg?

Yndi, ond mae “hwntw” yn fwy cwrtais, dw i’n meddwl. :smile:

3 Likes

Da iawn @aderyn mae’n braf i glywed dy stori di. Ers faint wyt ti’n dysgu?

3 Likes

mae hi mor Gymraeg â umpa lumpa ydy Saesneg, fi’n meddwl.

3 Likes