Dw i wedi deall popeth - da iawn ti! Ti wedi sgwennu’n dda, a llongyfarchiadau am fynd i swper yn Gymraeg! Gwych!
Bore da @RichardBuck ti wedi fy atgoffa i un o fy hoff gair yn Gymraeg - Mabolgampau - sports day. Dw i’n dwlu ar sut mae’n swnio.
Mae’n ddrwg gen i i glywed oedd gent ti broffiad negyddol. Dw i’n gobeithio byddet ti’n wella
Nos Iau wnes i ddim gweithio, yn annisgwyl. Felly roedd amser sbâr 'da fi. Heddiw, wel, ddoe nawr, dw i wedi bod yn ysgrifennu rhan un o fy ngwaith cartref a’i anfon i fy nhiwtor. Ar ol i fi gwrdd a fe ar ddiwedd y mis, bydda i’n rhoi fe ar fy mlog. Hefyd, wnes i houmous, wnes i weithio ar dapestri ar gyfer cystadleuath a dw i wedi gwrando ar Down Under, llyfr gan Bill Bryson am ei daith o gwmpas Awstralia, cyhoeddwyd yn 2000.
Mae’r dewis rhwng edrych ar 'Strictly Come Dancing ’ ag ymarfer ar y piano yn hawdd iawn ac yn amlwg iawn
Wel! Mae’n amser hir ers i fi bostio unrhywbeth o gwbl neu wneud gwersi. Mae teclynnau clywed newydd wedi gwneud popeth yn sŵno gwahanol iawn na fy hen teclynnau clywed; dipyn bach o her eto i settle i lawr a deimlo yn iawn eto!
Nawr cwpl o misoedd wedyn, wnes i sylwi heno bod y heriau gwrando ar lefel dau yn sŵno weird cwpl o awr yn ôl. Nid siŵr amdani ond nawr, maen nhw’n sŵno yn arafach i fi! Hefyd, ailwneud her 25 ar lefel dau, ac her 17 ar lefel tri jyst nawr, dwi wedi sylweddoli nifer o pethau na glywes i ddim cyn nawr … wwps!
Progess?
Shwd ydych chi i gyd yn dweud “proper weird” yn Gymraeg?
Mae’r pwnc’ma bach yn dawel yn ddiweddar, ondife? Dwi’n eistedd fan hyn ym maes awyr Düsseldorf ar hyn o bryd, yn aros am awyren i Birmingham. Dw i’n disgwyl ymlaen yn ofnadwy at weld pawb sydd yn y parti a’r bwtcamp mawr!
…cyffrous iawn! Dw i’n genfigennus iawn…
Bydd yn bendigedig!
Rich
Rwyf ami ysgrifennu rhestr o bethau maen rhaid i mi bacio yfory. Rwy’n mynd i Kent i wersyllu efo Symydiad y Merched (Women’s Institute) Y pethau myaf pwysig i bacio yw’r diodau (gin), biscedi siocled a rhywbeth i gweu! (knit)
Ar wahân i yfed eich diodydd a ngwau, beth ydy’r Sefydliad wedi trefnu dros yr wythnos?
Mi fydd siawns i wneud coron o flodau, taflu tomohawks, mynd ar zipwire, gyrru biec quad, ac ati . Fydd un ohonno ni yn siarad am fod yn Autistic, rhywun arall yn son am fwyta fel refugee am wythnos. Rwyf fi am siarad am y fydiad Freegle, a threfnu bwrdd lle gall pobl rhoi pethau dyn nhw ddim eisiau, a chymryd pethau eraill - ychydig fel ‘swap shop’ (Mae’n rhaid i mi ddysgu sut a gael to bach ar rhai llythyrau!)
Mae hynna’n swnio’n fel wythnos cyffrous! Wyt ti’n aelod o Ferched y Wawr hefyd?
Mi fydd yr holl bethau 'na yn digwydd dros dim ond penwythnos! Rwyn mynd i ymweld a ffrindiau eraill ar y ffordd, gan fod y gwersyll mor bell i fwrdd.
Roeddwn i’n aelod o Ferched y Wawr am flywyddyn tra roeddwn i’n byw yn Sir Fon, rhyw deugain mlynedd yn ol, ond rwyn byw yn Lloeger ers hynnu.
S’mae bawb?
Fel llawer ohonoch chi’n gwybod yn barod, dw i wedi bod yn herio fy hun i wneud rhywbeth yn Gymraeg pob dydd ers 63 diwrnod yn ôl. Yn ystod y her ro’n i’n canolbwyntio ar siarad yr iaith a thrio ei defnyddio hi efo Emma (fy ngwraig). Mae her wedi bod yn lwyddianus iawn! Dan ni’n siarad mwy a mwy Gymraeg efo’n gilydd na erioed o flaen.
Oherwydd 'mod i’n siarad yn fwy aml, dw i wedi sylweddoli ar beth bod rhaid i mi weithio, sef geiriau. Dw i’n darllen rhywbeth yn Gymraeg pob dydd, ac mae hynna’n helpu. Ond, dw i’n cael hi’n anodd i gofio’r geiriau newydd oherwydd nad ydw i’n eu defynddio nha. Felly dw i wedi penderfynu 'mod i isio ymarfer ysgrifennu.
Fy nghyllun i ydy i ysgrifennu ar y fforwm, yn y llinyn hwn. Mi fyswn i’n crosawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer pynciau, neu fydda i’n rhedeg allan yn gyflym iawn
Reit te! Mae’n amser gwely oherwydd bod rhaid i mi ddreifio i Fryste y peth cynta’ bore fory.
Nos da!
Da iawn ti! Dw i ddim yn siwr os ti 'di clywed am y grwp Telegram, “Dysgu a siarad cymraeg”… dyn ni’n tecstio yn Gymraeg fan’na. Dyma’r linc:
Naddo! Diolch yn fawr, dw i’n ai lawrlwytho rwan hyn
Mae hynny’n wir. Fi hefyd. Wnes i deall bron popeth ti wedi’i ysgrifennu, ond mae ychydig o eiriau newydd i mi. Byddai’n trio eu cofio nhw! Dw i’n edrych ymlaen am y neges nesa.
Sue
Es i am dro ddydd Sadwrn gyda ffrind o’r pentref. Aethon ni ar y bws i Kidlingdon (i’r gogledd o Rhydychen). Cerddon ni heibio’r eglwys, wedyn i mewn cae mawr. Ar ochr arall y cae mae coedwig hyfryd gyda onnynn ifanc a bedw arian. Yn anffodus roedd hi wedi bwrw glaw dydd Gwener, felly roedd y llwybr trwy’r coedwig yn wlyb iawn. Roedd llawer o fwd llythrig a roedd y llwbr yn cul rhwng llawer o danadl poethion. Wrth gwrs, wnes i llithro i’r danadl poethion. Roedd fy llaw chwith a fy nghoes yn brifo. Wnes i ddod o hyd i ddail doc, roedd yn helpu. Cyrhaeddon ni “Annie’s Tea Room” yn Thrupp, a chaethon ni ginio. Mae Thrupp yn lle tlws gyda llawer o gychod cul wedi’u peintio yn lliwiau llachar. Wedyn cerddon ni ar hyd y gamlas yn ôl i Kidlington.
Sue
Rwy newydd ddod adre ar ol wersyll wlyb iawn yn dde Lloegr. Mi ges i ddigon o hwyl, ond mae’n braf fod yn sych ac yn gynnes unwaith eto!
Heddiw mi wnes i lawrlwytho “Telegram”. Mae’n ap fel “whatsapp” ond da chi’n gallu ymuno grwpiau gan chwilio amdanyn nhw. Diolch i @Hendrik am ddweud wrtha i amdani. Dw i wedi ymuno’r grwp Dysgu a Siarad Cymraeg. Mae o wedi bod yn arbennig yn dda i gwrdd â’r grwp o ddysgwyr eraill sy’n defnyddio’r ap.
Heno, tra mae Emma yn gweithio (mae hi ar alw heno ) mi wnes i wylio’r rhaglen “Llanw” ar S4C. Mae’n rhaglen am y mor a sut mae llanw yn effeithio ar gymunedau ar draws y byd. A hefyd, edrychodd y pennod cyntaf ar lanwau unigryw fel y eger Hafren, un yn Tseina, Norwy, Nghanada, a’r Alban. Mae’n ddiddorol iawn sut mae gwaelod y mor yn cael effaith ar y llanw. Fel enghraifft, mae cerrynt yn Norwy, (yr un cryhaf yn y byd!), yn digwydd oherwydd y mor yn cyfarfod efo dyfroedd y fjord sy’n cael ei dywallt trwy graig o dan y dwr. Cafodd y craig ei greu pan wnaeth rhewlif toddi ar ôl Oes yr Iâ. Pan mae’r dyfroedd yn cwrdd â’u gilydd maen nhw’n creu trobwll. Mae’n arbennig i’w weld.