Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

Duw… Am folgi! :joy:

Rŵan hyn, Dw i’n llymeitian (sipping) gwydraid o gwrw hyfryd wrthyf fy hun… dydy hi ddim yn teimlo fel diwedd y cyfnod glo eto…
Dw i’n methu aros nes i ni allu cwrdd pobl eto… dwi wedi bod yn esgeulus i ymarfer fy Nghymraeg yn ddiweddar

Dwi’n isio y bydd rhywun sgwennu wrtha fi er moyn ymarfer siarad a sgwennu Cymraeg yn modd ymlacus (Beth yw’r gair?!) Clare

Dim problem Clare, dach chi yn y lle perffaith. Sgwennwch cymaint â liciwch chi yma yn y Gymraeg. Peidiwch â phoeni am gamgymeriadau chwaith, dan ni i gyd yma er mwyn ymarfer a chefnogi. Croeso.

1 Like

Oedd hi’n ddiwrnod bendigedig ddoe. Aethom ni (fi a fy merch) â’r ci fy mam am dro yn y p’nawn a mi welsom ni dafad efo ei phen yn sownd mewn ffens felly, ar ôl clymu’r ci at goeden, aethom ni ati i’w hachub. Roedd hynna’r tro cyntaf i fy merch cyffwrdd ar dafad, heb sôn am drio ymgodymu ag un, oedd hi wedi cyffroi i’r eithaf. Ac wedyn daeth fy nghath llygoden i mewn i’r tŷ neithiwr, naeth o gymryd bron hanner awr i’w dal oherwydd bod nhw’n gyflym dros ben. Oedd fy merch wrth ei bodd, chwarae teg.

2 Likes

Diolch yn fawr am yr ateb mor gwrtais Dwi’ n dysgu bron â bhopeth ar lein achos dwi’n byw yn Wiltshire Dwi’m edrych ymlaen ar Bwtcamp nesa ond yn y cyfamser dw’n darllen - dwi’n newydd gwblhau Llinyn Trôns Allet ti augrymu llyfr arall sydd ar werth ar lein plîs?

1 Like

Mae 'na 'chydig o siopau sy’n gwerthu ar lein ac yn anfon ar draws Prydain ac y byd hyd yn oed. Chwilio trwy’r cyfres “Stori Sydyn” sy’n anelu at ddysgwyr a darllenwyr amhrofiadol ac hefyd maen nhw’n rhad. Efallai y byddet ti’n ffeindio’r edefyn isod yn ddefnyddiol.

Dysgais i air newydd - "ymgodymu". Diolch, @gruntius.

Croeso, @ClareRussell. Dw i’n byw ger Rhydychen (Oxford), ond dw i’n lwcus iawn. Mae grŵp o ddysgwyr yn yr ardal sy’n cwrdd - ar lein ar hyn o bryd, ond fel arfer mewn caffi neu dafarn. Efallai bod grŵp yn Wiltshire. Cyn y cyfnod clo, roedd Catrin yn sgwennu rhestr o grwpiau yn ei e-bost wythnosol. Gobeithio ar ôl y cyfnod clo bydd rhestr eto. Mae cyrsiau ar-lein ar gael nawr. Gwnes i gwrs o Brifysgol Abertawe wythnos diwethaf. Roedd dyn o Ffrainc ar y cwrs. Dwedon nhw y bydd cyrsiau ar-lein yn y dyfodol, achos mae cyrsiau ar-lein mor boblogaidd.
Sue

2 Likes

Diolch i fy ngeiriadur. :wink:

3 Likes

Stori wych! Mae na un peth am ddefaid, maen nhw’n cyflwyno i’r achosi. Taswn nhw isio bwyta rhwybeth maen nhw’n mynd i’w fwyta beth bynnag y canlyniadau!

1 Like

Sôn am gerdded, dw i’n meddwl am neud cwrs “sgiliau mynydd” yn y haf. Dw i wedi bod yn y brynnau’n aml ond dw i wedi wastad isio teimlo fel
bod ‘na lot mwy i’w ddysgu. A gobeithio, rhyw diwrnod, mi wna i’r cwrs “mountain leader”. Mi liciwn i ddod â grwpiau i mewn y mynyddoedd.

Oes unrhywun arall wedi neud cwrs yn debyg?

1 Like

Dwi’n gwybod sut i ddefnyddio map a chwmpawd, a dwi hefyd yn gwybod i fynd â digon o ddŵr a bwyd mewn ysgrepan ond dyna fo. Pan ti 'di gwneud y cwrs bydd rhaid i ti drefnu “bwtcamp y mynyddoedd”. :wink:

1 Like

Dwi heb 'di neud cwrs sgiliau mynydd go iawn, ond blynyddoedd yn ôl ar ôl neud y “DoE Aur”, o’n i aelod o tîm achub mynydd “Longtown”, felly dysgais i lot o sgiliau dros y cyfnod yna. Os ti’n cael y cyfle, mae’n werth neud cwrs, yn sicr.

2 Likes

Ohhhhh rwan te! Mae na’n syniad diddorol!

1 Like

Byddai hynna’n rhywbeth mi fyswn i’n licio wneud ‘swn i’m gweithio dros benwythnosau yn barod. Dydw i’m licio’r syniad o weithio rhai benwythnosau a wedyn bydd ar alw dros y tim achub mynyddoedd hefyd. Mi liciwn i weld fy mhlant a fy ngwraig rhywpryd!

Ar y pryd o’n i’n gweithio mewn siop, felly o’n i’n gweithio bob dydd Sadwrn. Oedd y hyfforddiant cymorth cyntaf un nos Llun bob mis, ac roedd y hyfforddiant ar y mynydd un dydd Sul bob mis os dwi’n cofio’n iawn, ond wrth gwrs ti’n “ar alw” trwy’r amser. Ond wrth gwrs nid pawb yn y tîm oedd yn gallu troi allan bob tro, dyna pam bod hi’n well cael lot o aelodau yn y tîm i sicrhau bod na digon i troi fyny ar ‘showt’. Oedd fy ngŵr (cyn-ŵr rwan) yn aelod hefyd, ond doedd gynnon ni dim plant, felly oedd hi’n haws. Ond ie, bod rhan o dîm achub mynydd yn tipyn o ymroddiad.

Dan ni wedi bod yn gwylio llawer o Cyw yn ddiweddara. Guto Gwningen ydy’r hoff un “fy mab” (hoff un fi i ddweud y gwir :flushed:). Mae’n helpu fy Nghymraeg yn bendant. Ddoe nes i ddysgu’r gair “trachwantus” oherwydd oedd y llwynog, Mr Cadno, yn drachwantus. Barus ydy’r gair fi’n defnyddio

Beth ydach chi’n mwynhau ar S4C ar hyn o bryd?

2 Likes

On i arfer gwneud yr un peth efo fy merch ond dwi ddim yn cofio enwau y rhaglenni bellach heblaw Rapsgaliwn ond dwi yn cofio dysgu llawer o eiriau newydd tra’n eu gwylio nhw i gyd. A rhan o beth dwi’n eu mwyhau ar hyn o bryd … yr un pethau drosodd a throsodd sef RaR, PyC, Garddio a Mwy, Sgwrs dan y Lloer ac, wrth gwrs, Iaith ar Daith.

2 Likes

Penwythnos yma ydy penblwydd fy mam yng-nghyfraith, bydd hi’n 60 oed! Dan ni’n mynd i gael parti bach efo’i theulu agos yn ei gardd. Efo chariad fy chwaer yng-nghyfraith, dwi’n coginio bwyd y Caribî fel reis a phys, cyw iâr jerk a phethau fel ‘na. Dan ni’n mynd i anwybyddu’r dywydd.

Ydach chi’n gwneud unrhywbeth arbennig dros y penwythnos?

3 Likes

Pen-blwydd hapus i dy fam-yng-nghyfraith. Pob lwc efo’r tywydd hefyd.

Dwi ddim ‘di bod yn y gwaith am 12 diwrnodau ac mae heddiw ydy’r un olaf felly dyna be’ dwi’n gwneud dros y penwythnos … gweithio. Dan ni 'di bod yn eithaf prysur yn yr ardd ac wedi cwblhau ychydig o orchwylion yn cynnwys cludo 2 dunnell o bridd i fyny i’r darn uchaf yr ardd ac yn wastatáu yr ardal er mwyn gwasgaru hadau glaswellt, wedi peintio llawer o baneli ffens, wedi glanhau y patio i gyd, ac wedi paratoi’r wal yn barod i beintio hefyd (dyma’r gorchwyl am heddiw os mae’r haul yn rhwystro’r cymylau glaw). A dweud y gwir dwi bron yn barod i ddychwelyd yn ôl i’r gwaith er mwyn cael gorffwys. :joy:

1 Like

Dwi’m yn synnu!! Ti ‘di bod yn brysur!! Dan ni’n symud tŷ yn fuan a dwi’n edrych ymlaen at gael gardd go iawn! Dan ni’m yn mynd i wneud loads rwan hyn oherwydd bod gynnon ni fab bach a dan ni’n disgwyl ein hail ym mis Hydref. Ond bydd o’n braf iawn i gael lle diogel ar eu cyfer.

1 Like