Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

tapini? Beth yw’r cyd-destun?

Sai’n gwybod ond fi wedi ffindio’r ateb - “Ta beth yw hynny”.

http://www.bbc.co.uk/cymru/cymraeg/safle/tafodiaith/tudalen/tafodiaith_deorllewin.shtml

Ateb gan Deric gynt o Bontardulais yn y “link” uwchben ond nagw i’n gwybod sut i ddefnyddio fe

Beth ydy “ta Beth yw hynny”? Dwi’m yn deall…

na fi hefyd os fi’n bod yn honest. Heno fi ‘di trio esbonio i yn merch gan ddweud wrtho ti ei fod e’ n “ta beth yw hynny” a nag oedd hi’n deall o gwbl Felly wedais i wrtho ti yn Saesneg “anyway, about that” ond mae’n anodd iawn i fi ddeall hefyd.

Felly dyna rheswm i postio hwnna fan hyn. fi ‘di gweld ta waeth hefyd a taw dyna’ r problem i fi hefyd. galla i ddeall “ta beth” ond sai’n gwybod ta beth yw hynny neu tapini.

Mae’r plant yn nerfys i ofyn cwestiynau i’r athrawes achos mae hi’n hoffi gweiddi ata nhw ond taw dyna’r peth arall.

“ta beth” ydy 'r un peth fel “beth bynnag”, dw i’n meddwl.

Dw i ddim yn nabod yr ymadrodd “ta beth yw hynny” sut bynnag.

Sori - ta beth am hynny ond mae’n dal yn od yndyw e.

Yr enghraifft yn y “link” uwchben yw “simo i’n mynd ‘na tapini’” - fi 'di cyfiethu e fel “dydw i ddim yn mynd yna tapini”. Felly dw i’n meddwl bo fe’n “tag”, yn tebyg fel ta beth, neu “ta beth” am rhywbeth neu am hynny? Ond sai’n gwybod.

Mae eisiau i fi help - @iestyn. nei di helpu fi yma. Beth yw “Tapini”

dw i wedi gofyn rhywun heddiw a ti’n cywir - tapini yw “whatever”

1 Like

Dydy hi ddim yr un peth, ond mae’n atgofio fi o’r ymadrodd “dim gobaith caneri”.

Efallai rhywbeth i’w wneud gyda ‘ta beth’?

Wedi cael x-ray y bore 'ma ac oedd y nyrs yn gwisgo lanyard Cymraeg! (Yay!) Wedi llwyddo esgus bo fi’n siarad Cymraeg yn rhugl am ychydig o funudau (yay!) - nes iddi hi fwmian rhyw gwestiwn nag o’n i’n deall yn gyfan gwbl. (Diwedd y yay.)

Wedi ystyried bod y sefyllfa’n bwysig, bod y nyrs yn brysur, a bod hi ddim yn diwtor Cymraeg. Wedi newid i Saesneg.

:unamused:

2 Likes

Mae hynny’n hollol iawn. Elfen gwbl normal o ddwyieithrwydd ydi defnyddio’r ddwy iaith ar adegau gwahanol am resymau gwahanol… :slight_smile:

2 Likes

Diolch Aran! Yn ffair Nadolig yr ysgol heno, mae rhedeg gem “tynnu darnau tinsel byr neu hir mas o focs i enill haribos” wedi fy nhrechu fi hefyd! (Dim fy syniad i, sut ges i’r job 'na…?) Efallai bydd gweiddi ar plant pobl eraill yn sgil nesaf i ymarfer!

1 Like

Taset ti ddod i’r Ganolfan Blant Llandochau, baset ti’n ffeindio siaradwyr hefyd :smile:

Dyna pedwar ohonon ni yn yr un swyddfa ac ychydig mwy yn y Ganolfan.

Diolch, ond dw i ddim yn chwilio am blant pobl eraill i ymarfer gweiddi arnyn nhw… (Os taw dyna beth o’t ti’n meddwl!). :slight_smile:

1 Like

Haha, na’ o’n i. Ro’n i’n dweud bod gynnon ni siaradwyr dros yr ysbyty.

Wps, sori! :smile:
Ond dyn ni’n dod â’r plant yna bob blwyddyn oherwydd eu alergeddau, felly bydda i’n edrych mas am y cyfleoedd yna hefyd y tro nesaf.

Nes ti ddim deud “na diolch” yn digon cynnar? :slight_smile:

Hehe, dweud ‘dim diolch’ yn Gymraeg - dyna rywbeth arall i’r rhestr o bethau i ymarfer! Dw i’n tueddi i fod mor hapus bo fi wedi deall y cwestiwn - a bod nhw wedi gofyn i fi yn Gymraeg o gwbl - byddwn i’n cytuno i unrhyw beth!!

2 Likes

Heno, es i i Naw Llith a Charol Glantaf yn yr Eglwys Sant German. Roedd hi’n noswaith hyfryd gyda pherfformiadau gwych gan y disgyblion a’r staff. Lot o ganu a lot o hwyl!

Ro’n i’n eistedd nesa cwpwl o ferched pwy oedd trio’n galed i ennill y sedd ohonaf i. Roeddan nhw’n par o bully fach!! Ond, paid a phoeni! Nes i eistedd cryf a do’n i ddim yn bullied gan cwpwl o merch wyth oed! Dwi’n jocan…naethon nhw ennill…

Roedd hi’n hyfryd i dreulio noson gyda chwmni Cymraeg. I fod mewn lle, ble roedd pawb yn siarad eu hiaith naturol.

Nawr dwi’n teimlo bod y nadolig wedi dechrau!!

3 Likes

Wel, yr wythnos hon, dwi wedi bod ailwneud yr hen cwrs tri.

Hefyd, dwi wedi bod yn darllen y newyddion yn y Gymraeg ac yn defnyddio memrise.

Dwi ddim yn digon amyneddgar. Mae’r llwbr i rhuglder yn hir iawn!

1 Like