Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

Dwi angen ffeindio allan os galla i ganu yn gyntaf!

1 Like

Ga i fod y barnwr?

haha, siwr…ond bydd rhaid i ti aros

Efo rhywbeth i roi yn fy nghlustiau? Jyst rhag ofn wrth gwrs.

Gobeithio bydda i’n well na hwnna :smile:

1 Like

Dw i’n eistedd yn fflat @seren ar ôl oriau gyda hi yn ei hoff dinas, Vitebsk. Cyrhaeddais i bore ma a dyn ni wedi bod yn siarad Cymraeg, 95% trwy’r dydd. Wedi gael taith o gwmpas Vitebsk, ar draed, ac yfory bydd mwy i’w wneud.

6 Likes

Neis iawn. Gobeithio bod ti’n mwynhau dy deithiau

Dw i newydd ddarllen brawddeg

Pan mae gen i broblemau yn fw mywyd, dw i’n canu –
a dw i’n gweld bod fw mhroblemau efallai yn ddrwg, ond y lleiaf maen nhw’n well na fy nghanu!

Mae hynny’n swnio’n gwych iawn!

1 Like

Mae @seren yn arbennig o dda, ar ôl deunaw mis o ddysgu Cymraeg. Aethon ni heddiw i weld y tŷ plentyndod Marc Chagall, ac mewn archfarchnad achos fy mod i’n fusneslyd iawn, a siop crefftiau hefyd.

4 Likes

Wel fel arfer, un awr o memrise a duolingo ar ôl i mi ddeffro.

Yn nes ymlaen, dwi’n mynd i Gaer a felly bydda i’n ailwneud her o lefel tri.

Heno, dwi’n gobeithio mynd i Saith Seren ond dwi angen gorffen ffurflen gais a hefyd paratoi ar gyfer cyfweliad ddydd iau.

Ond rwan amser i gael rhywbeth i fwyta cyn i fi yrru i Gaer.

Roedd e’n fy mhenblwydd penwythnos diwetha. Ges i’r penwythnos gorau!! Naeth fy nghariad drefnu i fy nheulu i gyd (Mam, nhad, 3 brawd, 3 chwaer yng nghyfraith, 2 nai (3 mis yw un), wncl ac anti), ei theulu, a fy ffrindiau gorau i fynd i Centre Parcs. Byse rhaid iddo her enfawr!!! (Herding cats yn Saesneg)

Roedd e’n wych i eu cael nhw i gyd yn yr un lle!! Roedd y gêm nos wener yn ddiddorol (Gwyddelod yw fy nhad a fy wncl). Dwi ddim yn synnu mod i’n teimlo’n sal nawr! Roedd e’n werth popeth.

2 Likes

Wel heddiw af i i ynys môn. Mini bŵtcamp dau! Felly y bore 'ma es i i’r siopau er mwyn prynu bwyd a gwin. Heno bydda i’n coginio pasta a tarte tartin hefyd.

Dwi isio mynd rwan ond dwi angen casglu fy mab o’r ysgol.

Dwi’n gobeithio y bydd y penwythnos yn llwyddiannus a hefyd y bydd pawb yn mwynhau’r cyfle i siarad cymraeg.

Bydd yn neis iawn i gyfarfod pawb a dwi’n siwr y byddwn ni’n dysgu llawer o bethau newydd dros y penwythnos.

2 Likes

'Dych yn mynd I wylio pob tair gem yfory, neu dim ond Ffrainc - Cymru?

Byddai’n gwylio pob gêm, dwi’n disgwyl. Beth amdanat ti?

Fi’n siwr eich bod chi’n mynd i ddysgu llawer o bethau!! Pob lwc, ond dwi’m yn meddwl dy fod ti ei hangen hi!

1 Like

Pob gêm!

1 Like

Dw i newydd gorffen her wyth… ond wnes i chwerthin yn galed at Cat a @iestyn pan iddyn nhw dweud “BETH MAEN NHW’N MOYN NAWR??”. Oedd rhaid i fi stopio am pum munud. Mae’n ddrwg 'da fi, allwn i ddim helpu fe! (sori!) :rabbit2:

3 Likes

Wel neithiwr, pump awr heb saesneg. Ac wnes i addo dweud pa mor dda ydy @Richmountart. Wel, dweud y gwir, mae o’n gwneud yn arbenning o dda.

Yn fuan, amser i godi er mwyn coginio brecwast. Tôst, wyau, madarch, selsig, bacwn, tomatos, ffa pob, sudd oren, te a coffi.

Wedyn, awn ni i oriel ynys môn cyn y gêm y prynhawn 'ma.

Dwi’n wrth fy modd efo mini bwtcamp.


Ond, pa mor uchel.oedd y jenga?

2 Likes

@Pete2
Cwestiwn - beth ydy ‘y jenga’?
O, ac, os medrwch chii gyd 'r bwyta’r brecwast 'na, dwi’n meddwl dim cwrw neithiwr!
Mae.n ddrwg gen i am y Gymraeg drwg!

Paid a ymddiheuro! Mae’n wych eich bod chi eisiau trio!

2 Likes