Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

Mae’n swnio fel oedd stori hir cyn ddoe. Sa i’n gallu dweud gobeithio ti’n iawn achos dw i’n siwr bydd pethau yn annodd am sbel, ond dw i’n gobeithio dy fod ti’n wella ar ôl y sbel.

1 Like

Diolch margaret. Oedd yn anodd iawn a neis iawn heddiw. Oedd hi’n gwybod bod fi yno. O’n i’n dal ei llaw hi. Oedd hi isio i mi wneud o.

Rwan dwi’n ar y trên adre. Yn drist ond yn hapus hefyd. Gobeithio bod ti’n deallt.

1 Like

Newyddion ddrwg ac ati…

https://youtu.be/xaxssieakaE

Nawr dw i’n paratoi gadael Wuhan yn gynnar 'fory, ar y trên i Kunming, ar ôl wedi cael bron wythnos gyda fy mrawd ac ei wraig. Ar ôl i fi gyrraedd Kunming mae llawer o gynlluniau ond prinder o wybodath am sut i deithio, yn union, i Thailand.

5 Likes

Dwi wastad wedi bod isio mynd i Kunming - o’n i fod i fynd yno efo VSO ers talwm iawn, ac wedyn wnaeth Chris Patten ypsetio Tseina… :frowning:

Mae flin 'da fi ond, gobeithio, bydda i gyrraedd a gadael ymhen dim ond awr neu ddwy. Nawr mae system metro yn y ddinas a galla i gyrraedd gorsaf bws de Kunming ar y trên lleol cyn i fi fynd i Jinghong ac nesa i’r fin gyda Laos. Bydd y ffyrdd yn dda yn Tseina. Na fydd y ffyrdd yn dda yn Laos. Sa i’n gwybod pa ffordd i’r fin gyda Thailand bydda i cymryd.e

2 Likes

Ble oedd dy hoff lle hyd yn hyn?

Mongolia, i fy syndod mawr. Roedd fy host AirBnB yn garedig iawn, gyda llawer o wybodaeth am y hanes, hen a diweddar y wlad a’r dinas Ulan Bator. Aeth hi â fi i’r deml, nid fel safle am dwristiaid, ond achos bod hi’n mynd ambellwaith. Os oedd y dentydd yn gweithiio, byddwn ni wedi ei ymweld. Mae UB yn dinas gyda mwy nag o’n i’n disgwyl.

5 Likes

Ar hyn o bryd, dw i’n yng Nghaerlŷr ar y cwrs seiciatrig - ar dy ben dy hunan :disappointed:

Heddiw, dwi wedi dechrau darllen Matilda yn Gymraeg (yn araf iawn) :books:

3 Likes

Da iawn! os ti’n mwynhau darllen yn Gymraeg mae’r llyfrau gan T Llew Jones yn dda hefyd :slight_smile:

A hefyd, fi’n meddwl bod gan Memrise gwersi ar gyfer y llyfrau Rhold Dahl :slight_smile:

1 Like

Bore da! Ooooooo diolch. Ydy llyfrau T Llew Jones yn Gymraeg De? Bydda i’n edrych yn llyfrau a Memrise.

2 Likes

Dw i newydd derbyn siaced!

Anrheg roedd o, ond oedd rhaid i mi dalu £50 fel Treth ar Werth a toll :frowning:

Ac roedd y swyddog tollau’n flin efo fi achos roedd “$10” wedi’i sgwennu ar y a bocs fel gwerth y siaced a dim “$150”…

1 Like

Ydyn! Roedd e’n enwog iawn yn Sir Benfro a Cheredigion (a Thu Hwnt). Dwi bron di gorffen y Noson Tywyll. Mae’n llyfr am yr amser o’r Merched Beca a’r tollbyrth yn Sir Benfro a Sir Gar.

Mae’r Gymraeg yn eitha wahanol ond Mae’n dda i’w darllen.

1 Like

Ah grêt. Byddai’n edrych a’r llyfrau. Diolch :slight_smile:

1 Like

Dwi’n mynd maes i Parc y Scarlets yn y minyd (?), i gweld y Scarlets yn Chwarae acTommo yn siarad/gweithu :slight_smile:

1 Like

Dwi wirionedd yn hoffi ei sioe fe! Mae’n berffaith i wrando arno ar fy ffordd adref :smile:

Gobeithio bod y gêm yn dda :smile:

2 Likes

Dw i’n gwylio Game of Thrones ac aros am fy mwyd i (stêc, tatws, madarch a pys).

Aethon ni i Llanfair-ym-Muallt heddiw.

3 Likes

Sori am fy Cymraeg rwtsh. On i’n brysio.

Doedd Tomo ddim yno. Ond oedd rhwyun arall, sy’n wedi siarad Cymraeg da, ond Sesneg ddim yn dda. Tu ôl i mi oedd pobl yn siarad Cymraeg hefyd. Felly, noson Cymraeg da. Roedd y sgor terfynol: Scarlets 51 - 5 Benetton Treviso :slight_smile:

1 Like

Hei, cofia’r rheolau, paid â phoeni am gamgymeriadau, felly paid â ymddiheuro :wink:

Welais i’r diwedd o’r gêm ar ôl yr ail cardyn melyn. Gaeth Van der Merwe noson dda!!

2 Likes

Ar ôl y post Aran am sut i wneud y fforwm mwy gyfeillgar, ro’n i’n meddwl y gallwn ni ddechrau sgwrsiau, yn Gymraeg, fel y post Catrin. Felly, dwi’n mynd i’w ddechrau gyda chwestiwn syml:

1/ Ble hoffwch chi eisiau mynd yng Ngymru? Pam?

(Os dych chi’n meddwl am gwestiwn each bod chi eisiau gofyn, baswn i’n dwlu ar glywed ohonoch :slight_smile:)

3 Likes