Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

dw i’n meddwl hefyd ei bod hi wedi copio’r peth am rhywun arall. Mae’n amhosib i fi feddwl rhywbeth arall ond falle nawr, wel falle dw i’n gobeithio eu bod nhw’n warae mwy yn yr iaith ac warae gyda’r peth.

2 Likes

Roedd fraint, yn ddiweddar, i gwrdd â @Novem yn Helskinki, @janetmackenzie yn Munich, Munchen, @Susa1999 ym Merlin a @philipnewton yma yn Hamburg. Mae @Novem a @Susa1999 wedi bod yn dysgu ers llai na dwy flynedd ond maen nhw’n awyddus iawn i symud i Gymru. Mae Iestyn, Aran a’r gymuned SSIW wedi eu dysgu nhw yn dda iawn sut i siarad Cymraeg. Tan ddydd Gwener diwetha mae @janetmackenzie ddim wedi cael sgwrs Cymraeg wyneb i wyneb o gwbl, a dim ond un sgwrs Skype. Roedd hi’n siarad Cymraeg dros y penwythnos heb broblemau. Rhoddodd @philipnewton cinio bach i fi heddiw ac aethon ni ar gwch bws a’r Elba. Roedd ein sgwrs yn holloll yn y Gymraeg. Sai’n moyn gadael @seren achos roedd fy ymweliad â hi nôl ym mis Mawrth ond roedd hi a’i theulu’n caredig iawn hefyd.

Cwrddais llawer ar fy nheithiad ond roedd y SSIWers ymhlith y gorau.

Dw i ddim yn gwybod os bydd dim ond pobl caredig a llawagored yn dysgu Cymraeg neu os bydd dysgwyr Cymraeg yn troi mewn pobl caredig a llawagored ond oedd e wedi bod braint i gwrdd â nhw. Diolch o’r galon i chi i gyd.

A chroeso i Sir Gar ar eich ymweliadau nesa.

11 Likes

Ardderchog!!!

Ysbrydolus! :star: :star2:

Dw i yn y Costa Del Sol rwan. Felly dw i’n neud SSI Spanish bob dydd. Mae h’in helpu fi lots. Ond dw i dal ymarfer Cymraeg. Pan dw i’n mynd i cerdded o gwmpas y dre dw i’n cadw y llyfr Bywyd Blodwen Jones efo fi. Weithiau dw i’n darllen fo hefyd. :slight_smile: Dw i wedi bod yn edrych ar Un Bore Mercher. Heddiw, mi wnes i edrych ar y pennod ola. Rhaid i mi findio peth arall i edrych.

3 Likes

O’n i’n gwylio Wil ac Aeron a’r Inca ac wnes i sylweddoli, ar y cychwyn y rhaglen, pan oeddan nhw’n siarad efo’r pobl lleol oeddan nhw’n defnyddio Saesneg serch nad ydyn nhw ddim yn siarad Saesneg. Oedd hynna’n ddiddorol oherwydd tasan nhw ddim yn mynd i fod yn cael eu deall. Felly pam nad siarad Cymraeg? Erbyn y diwedd y rhaglen, ar ôl iddyn nhw fynd i’r cefn gwlad, oeddan nhw’n siarad Cymraeg efo phawb. Felly, dw i’n meddwl a naethon nhw sylweddoli na doedd o ddim yn bwysig pa iaith oeddan nhw siarad doedd neb yn mynd i’w deall. Ond oedd o’n ddiddorol a oeddan nhw’n defnyddio Saesneg. Mae’n rhaid mai rhywbeth seicolegol yn digwydd - Cyfarfod efo rhywun di-Gymraeg felly siarad Saesneg.

2 Likes

Mae’n ddrwg gen i, nes i roi’r neges 'na yn y lle anghywir. Do’n i ddim yn bwriadu torri’r rheolau :disappointed:

4 Likes

Mae’n iawn, doedd neb yn sylwi! :slight_smile:

2 Likes

Pan mae’r lleuad yn diflannu dros y cribell ac mae’r haul ar fin gwawrio dwi isio dymuno pob un ohonoch blwyddyn newydd anhygoel a gobeithio bydd hi’n blwyddyn ffyniannus a llwyddiannus. :grinning:

Dwi, ar hyn o bryd, yn gweithio. :money_mouth_face::confused:

6 Likes

I tithau hefyd! a dw i’n gobeithio bydd gent ti ddiwrnod hawdd yn gwaith heddiw!

Dw i newydd gyrraedd adre o waith (o’n i ar alw neithiwr), felly da ni’n fach fel llongau yn y nos…

5 Likes

Dw i newydd cyrraed maes awyren Düsseldorf, i hedfan i Birmingham. Wedyn dw i’n mynd ar y trên i Gaerdydd. Ac yfory - bwtcamp! Wi ffili aros, a dw i’n dishgwl ymlaen gymaint at cwrdd â pawb yn Nhresaith!

10 Likes

Dw i ‘di cael syniad am ailenwi Pont Hafren - beth am i ni newid enw’r pont cyntaf yn hytrach na’r llall? Felly bydden nhw’n Bont Siarls a Phont Dau…? Ond dwi’m yn siŵr be’ byddai Camilla’n dweud…

:thinking:

Dw i’n gweithio yn galed yn y swyddfa… :smiley: Wel, dim yn galed… wel… dim gweithio…

1 Like

Ha ha. Dwi yn ardal iaith Cmraeg heddiw. Dwin gwiethio am cwsmer syn mamiaith Cymraeg ond mae en brusia iawn,. Felly mae fen ddim n siarad i fi. :dizzy_face:

Felly dwin siarad gyda Jack Margaret a Bronwrn ar Slack!.

Dwin Methwyl mwy o bobl yn Tasi yn moyn siarad na yn Pembrey :grimacing:

1 Like

Wedi cerdded o Gefneithin i Cross Hands, wedi dal y bws 5.59 i Gaerfyrddin, wedi cerrded i’r pwll nofio a nofias am 50 munud. Wedi cerdded yn ôl i’r dre ac eistedd yn yr haul ac aros am fws arall i Landeilo. Ar y bws nawr ac yn fuan bydda i’n cyrraedd i siarad Cymraeg gyda’m ffrindiau mewn cafe. Hanner dydd bydd fy ffrind, yn rhoi lifft i fi nôl i Gaerfyrddin cyn i fi gael pryd o fwyd gyda ffrindiau newydd ddychwelyd o Ddamascus. Dw i ddim wedi gweld nhw am ddwy flynedd oherwydd o’n i yn Asia haf diwetha, pan oedden nhw yn Sir Gar eu tro diwetha.

Wyt ti’n wedi bod yn brysur iawn heddiw. Dw i’n meddwl bod dylet ti’n ymlacio prynhawn 'ma.

Dyma fy mywyd.

Dwi’n gweithio ar hyn o bryd ond byddai mynd adref yn fuan. Wedyn, byddai ymlacio efo teulu :slight_smile:

1 Like

Wel, dw i 'di cytuno i fynd bore yfory i weld gwraig cydweithiwr fy mhartner, i helpu hi ymarfer ei Saesneg. Maen nhw’n Roeg, ac achos i fi ddim eisiau iddyn nhw fy nalu, ddudais i bod ni’n medru ailnewid Saesneg a Groeg – bydd hi’n trio gwella ei Saesneg, a bydda i’n trio siarad Groeg.

Dw i ddim wedi trio siarad Groed ers blynyddoedd. Mae @aran yn gwybod pa mor anodd oedd i fi trio siarad catalaneg efo fy mhen i llawn Cymraeg: llwyddiant bydda’ i’n ei alw fo, os medra’ i ddweud unrhywbeth yfory sy ddim Catalaneg neu Gymraeg. O’n i’n meddwl am esbonio wrthi hi pam bydda’ i’n gwneud llawer o gamgymeriadau wŷrd iawn, a wnes i ffeindio’r gair ‘Cymraeg’ yn fy ngeiriadur Groeg; ond pam o’n i’n trio meddwl am y brawddeg Μαθαίνω Ουαλλικά (dw i’n dysgu Cymraeg), beth o’n i eisiau dweud oedd Dw i’n dysgu Ουαλλικά !

2 Likes