Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

O dîar! Mae’n ofnadwy - o’n i’n trio cynllunio be’ i ddweud yn nes ymlaen, a fedrwn i ddim…
“Και” (Grêt - dw i’n cofio sut i ddweud ‘ac’)
“Και pan” - na, dydy ‘pan’ y gair yng Ngroeg - “όταν”.
“Και όταν dw i eisiau” - damn it - “όταν θέλω”.
Hurrah! Mae’n mynd yn well rŵan!
“Και όταν θέλω dweud rhywbeth…”
Wwps.

1 Like

Chwerthin yn fan hyn :smiley: :smiley::smiley:

Es i i sports day y plantos y bore ma, a wnes i rhedeg yn ras y taid. Dw i erioed wedi bod yn sporty, hyd yn oed pan o’n i’n eu oed nhw, a llonydd wnes i gyrraedd yn olaf ond un, ond o’n i eisiau dangos (a na dim ond dweud) bod o’n bwysig cymryd rhan. (Ac o’n i’n gwybod bydden nhw di bod yn siomedig taswn i ddim…)

Ond eleni wnes i… disgyn i lawr. Ac rŵan mae ysgraffiniad ar fy mraich ac mae fy nglin yn brifo…

1 Like

Dw i’n newydd yma, ac dw i wedi wneud hwn mewn topic gwahanol yn Saesneg ond o’ n i isio trio i ddeud o yn y Gymraeg.
Pan nes i deud i fy ffrind Cymres am tasc wythnos 'ma mewn 6mth wythnos 19 oedd hi ofyn i mi i fynd efo hi a ychydig o frindiau i gwneud Helfa Drysor ac mynd am swper yn y Gymraeg y gyd.
Mi ges i amser gwych.
Mae dysgu Cymraeg wedi agor cymaint o drwsau a cymaint o cyfle newydd a cymaint o ffrindiau newydd. Diolch yn fawr iawn i SSiW.
Gobeithio mi fedri di dallt hwn.

3 Likes

Dw i wedi deall popeth - da iawn ti! Ti wedi sgwennu’n dda, a llongyfarchiadau am fynd i swper yn Gymraeg! Gwych! :slight_smile:

2 Likes

Bore da @RichardBuck ti wedi fy atgoffa i un o fy hoff gair yn Gymraeg - Mabolgampau - sports day. Dw i’n dwlu ar sut mae’n swnio.

Mae’n ddrwg gen i i glywed oedd gent ti broffiad negyddol. Dw i’n gobeithio byddet ti’n wella

2 Likes

Nos Iau wnes i ddim gweithio, yn annisgwyl. Felly roedd amser sbâr 'da fi. Heddiw, wel, ddoe nawr, dw i wedi bod yn ysgrifennu rhan un o fy ngwaith cartref a’i anfon i fy nhiwtor. Ar ol i fi gwrdd a fe ar ddiwedd y mis, bydda i’n rhoi fe ar fy mlog. Hefyd, wnes i houmous, wnes i weithio ar dapestri ar gyfer cystadleuath a dw i wedi gwrando ar Down Under, llyfr gan Bill Bryson am ei daith o gwmpas Awstralia, cyhoeddwyd yn 2000.

4 Likes

Mae’r dewis rhwng edrych ar 'Strictly Come Dancing ’ ag ymarfer ar y piano yn hawdd iawn ac yn amlwg iawn :notes:

3 Likes

Wel! Mae’n amser hir ers i fi bostio unrhywbeth o gwbl neu wneud gwersi. Mae teclynnau clywed newydd wedi gwneud popeth yn sŵno gwahanol iawn na fy hen teclynnau clywed; dipyn bach o her eto i settle i lawr a deimlo yn iawn eto!

Nawr cwpl o misoedd wedyn, wnes i sylwi heno bod y heriau gwrando ar lefel dau yn sŵno weird cwpl o awr yn ôl. Nid siŵr amdani ond nawr, maen nhw’n sŵno yn arafach i fi! Hefyd, ailwneud her 25 ar lefel dau, ac her 17 ar lefel tri jyst nawr, dwi wedi sylweddoli nifer o pethau na glywes i ddim cyn nawr … wwps!

Progess? :star2:

Shwd ydych chi i gyd yn dweud “proper weird” yn Gymraeg?

3 Likes

baswn i ddeud “proper weird” debyg. :slight_smile:

1 Like

Mae’r pwnc’ma bach yn dawel yn ddiweddar, ondife? Dwi’n eistedd fan hyn ym maes awyr Düsseldorf ar hyn o bryd, yn aros am awyren i Birmingham. Dw i’n disgwyl ymlaen yn ofnadwy at weld pawb sydd yn y parti a’r bwtcamp mawr!

4 Likes

…cyffrous iawn! Dw i’n genfigennus iawn…

Bydd yn bendigedig!

Rich :slight_smile:

Rwyf ami ysgrifennu rhestr o bethau maen rhaid i mi bacio yfory. Rwy’n mynd i Kent i wersyllu efo Symydiad y Merched (Women’s Institute) Y pethau myaf pwysig i bacio yw’r diodau (gin), biscedi siocled a rhywbeth i gweu! (knit)

4 Likes

Ar wahân i yfed eich diodydd a ngwau, beth ydy’r Sefydliad wedi trefnu dros yr wythnos?

Mi fydd siawns i wneud coron o flodau, taflu tomohawks, mynd ar zipwire, gyrru biec quad, ac ati . Fydd un ohonno ni yn siarad am fod yn Autistic, rhywun arall yn son am fwyta fel refugee am wythnos. Rwyf fi am siarad am y fydiad Freegle, a threfnu bwrdd lle gall pobl rhoi pethau dyn nhw ddim eisiau, a chymryd pethau eraill - ychydig fel ‘swap shop’ (Mae’n rhaid i mi ddysgu sut a gael to bach ar rhai llythyrau!)

Mae hynna’n swnio’n fel wythnos cyffrous! Wyt ti’n aelod o Ferched y Wawr hefyd?

Mi fydd yr holl bethau 'na yn digwydd dros dim ond penwythnos! Rwyn mynd i ymweld a ffrindiau eraill ar y ffordd, gan fod y gwersyll mor bell i fwrdd.
Roeddwn i’n aelod o Ferched y Wawr am flywyddyn tra roeddwn i’n byw yn Sir Fon, rhyw deugain mlynedd yn ol, ond rwyn byw yn Lloeger ers hynnu.

1 Like

S’mae bawb?

Fel llawer ohonoch chi’n gwybod yn barod, dw i wedi bod yn herio fy hun i wneud rhywbeth yn Gymraeg pob dydd ers 63 diwrnod yn ôl. Yn ystod y her ro’n i’n canolbwyntio ar siarad yr iaith a thrio ei defnyddio hi efo Emma (fy ngwraig). Mae her wedi bod yn lwyddianus iawn! Dan ni’n siarad mwy a mwy Gymraeg efo’n gilydd na erioed o flaen.
Oherwydd 'mod i’n siarad yn fwy aml, dw i wedi sylweddoli ar beth bod rhaid i mi weithio, sef geiriau. Dw i’n darllen rhywbeth yn Gymraeg pob dydd, ac mae hynna’n helpu. Ond, dw i’n cael hi’n anodd i gofio’r geiriau newydd oherwydd nad ydw i’n eu defynddio nha. Felly dw i wedi penderfynu 'mod i isio ymarfer ysgrifennu.
Fy nghyllun i ydy i ysgrifennu ar y fforwm, yn y llinyn hwn. Mi fyswn i’n crosawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer pynciau, neu fydda i’n rhedeg allan yn gyflym iawn :joy:

Reit te! Mae’n amser gwely oherwydd bod rhaid i mi ddreifio i Fryste y peth cynta’ bore fory.

Nos da!

4 Likes

Da iawn ti! Dw i ddim yn siwr os ti 'di clywed am y grwp Telegram, “Dysgu a siarad cymraeg”… dyn ni’n tecstio yn Gymraeg fan’na. Dyma’r linc:

1 Like

Naddo! Diolch yn fawr, dw i’n ai lawrlwytho rwan hyn :slight_smile: