Oh diolch - ydy hyn ar gael gan mwy o bobl na’r BBC?
Be' 'dach chi'n gwneud rwan? A phethau arall yn Gymraeg - A topic to practice Welsh, open to all!
Dw i’m yn meddwl, ond mae ganddyn nhw tudalen rhyngwladol felly mae bobl yn gallu gwylio ychydig o’u sioeau dros y môr.
Rwy wedi bod yn arddio heddiw. Wnes i blannu grug a thynnu lawer o ddrain a planhygion marw. Mae’r ardd yn edrych yn well nawr. Gobeithio fod popeth yn iawn efo pawb eraill.
Shwmae bawb. Tro cyntaf yma i fi.
Joiais i siarad ychydig dyddiau rhan mwyaf wythnos 'ma yn gwaith. Dysgais i rhwybeth newydd am y tafodiaith leol. Heddiw es i i Ty Tawe am goffi ac siarad a gwrando. Neis iawn i gyfarfod gyda frindiau. Felly wythnos da iawn. Diolch am ddarllen, John.
Croeso, John. Rwy heb wneud dim heddi, oherwydd mi wnes i ormod yn yr ardd ddoe! Mae’r hen cric-a-mal yn fy nghosbi!
Sut mae . Dw i’n trio yn darllen beth wyt ti wedi yscrifennu bob dydd, one heddiw dw i dim yn deall dy rhan olaf o gwbl? Hefyd “google auto correct” newid popeth a fy gwneud i’n yn wallgof a crac iawn.
Oedd rhaid i mi chwilio yn y geiriadur - “cricymalau” = “cryd cymalau” =“fever of the joints, i.e. rheumatism”.
Hefyd dw’n gobeithio fod ti’n teimlo’n well nawr Dizzydragon a y cric -a-mal yn diflannu yn gyflym.
Dw i’n gobeithio mod i’n mynd i ysgrifennu yma mwy aml os dw i dim yn teimlo mor swil. Dw i dim yn siarad digon gyda pobl ond ysgrifennu yma ydy yn mawrth gyda fy yn amarfa mwy. Yn anffodus dw i dim gallu yn sillafu yn dda o gwbl felli gwna i eich gwneud chi yn chwerthin neu crio!
Wna neb chwerthin neu crio - wnawn ni dathlu bod ni i gyd yn rhoi ymdrech ar gyfathrebu (communicate - I had to look that one up)
Paid â phoeni am sillafu neu gamgymeriadau, cofia, dan ni’n ysgrifennu ar y fforwm SSiW felly, beth ydy ein mantra? Pethau da ydy camgymeriadau
Dw i ddim wedi ysgrifennu yma am sbel oherwydd dw i wedi bod yn brysur iawn. Mae’n wych i weld cwpwl o bobl newydd yn ymuno â ni
O’n i’n meddwl, beth am bach o gwestiwn i ni i gyd i ymateb?
Mi wna i ddechrau efo rhywbeth eithaf hawdd
O le ydach chi’n dod yn wreiddiol, a lle ydach chi’n byw rŵan?
Mi wna i ddechrau, does dim angen arnoch i ysgrifennu mor gymaint â fi os dach chi ddim isio.
Yn wreiddiol dw i’n dod o Plymouth yn y De Dwyrain Lloegr. Cafodd fy rhieni eu geni a magu yn Llundain ond oedd eu rhieni yn cymysg go iawn! Oedd tad fy mam yn dod o Lundain ond Cymro oedd ei dad, o Amlwch yn Ynys Môn yn wreiddiol. Oedd ei fam yn hanner Eidaleg a hanner Iddewig. Oedd fy nain ar ochr fy mam yn dod o Swydd Defnaint ond oedd ei thad o Iwerddon a’i mam o Lundain.
Oedd rhieni fy nhad yn dod o’r gorllewin Iwerddon. Wnaethon nhw gwrdd â’u gilydd yn Llundain yn 1948. Daeth fy Nhaid i Brydain i weithio ar y reilffordd a fel adeiladwr. Oedd cymaint o waith iddo ar y Blitz!
Rŵan dw i’n byw yng Nghaerdydd efo fy ngwraig.
Diolch i ti @anthonycusack am rhoi bywyd newydd i’r llinell 'ma.
Bydda’n trio ateb dy cwestiwn.
Ges i fy ngeni yn Reading. Roedd fy mam yn dod o Gaerfyrddyn. Aeth hi i Reading am fil naw pedwar tri. Wnaeth hi ddeuchrau dysgu fel athrawes mewn ysgol yn Reading. Aeth hi i Reading achos bod ei chwaer’n byw yn Reading. Athrawes roedd hi hefyd. Roedd llawer o bobl o Dde Cymru yn Reading. Roedd e’n hawdd dal y trên yn ôl i Gymru a roedd e’n hawdd dal y trên i Lundain.
Roedd fy nhad yn dod o Abertawe. Aeth e i Reading am fil naw pedwar chwech ar ôl gadael y RAF. Roedd ei rieni wedi symud o Abertawe i Reading. Athro roedd fy nhad. Wnaeth rhywun trefni daith i Bournemouth ar gyfer athrawon o sawl ysgol. Wnaeth fy rhieni cyfarfod ar y bws. Briodon nhw chwe mis yn ddiweddarach.
Nawr dw i’n byw ger Rhydychen.
Sue
Diolch i ti am gymryd rhan! Diddorol iawn!! Felly, oeddech chi gyd yn mynd nôl ac ymlaen i Gymru yn aml? Oes gent ti deulu yng Nghymru y dyddiau hyn?
Iawn dw i’n mynd i trio I ateb dy question.
Yn wreddiol dw i’n dod o East Anglia ar y môr. Ond roedd ni’n symud sawl gwaith. Pedair blyddyn yn Devon, ar y de ochr o Dartmoor. Weddyn yn tri blyddyn yn Hoddesdon dim ond y gogledd o’r M25, ugh-a-fi. Y tro nesa, tri blyddyn yn Kernow ar y afon Tamar, y afon brydferth iawn. Nesa wyth blyddyn yn Suffolk cefn gwlad yn y hen bwyddyn. Wyth blyddyn pan on i’n yn Kernow eto a nawr yn y hen cymraeg ffermty, yn Sir Benfro.
Wel, gwnaethoch chi ofn!
Yr union, on i’n byw ar bwys yr ysgol. Dw i wedi anghofio wyt ti’n gwybod yr ardal’na.
Pan o’n i’n ifanc, roedden ni’n mynd i Gaerfyrddyn ar y tren ddwywaith neu tair gwaith yr flwyddyn, i ymweld â mam-gu a thad-cu yn Stryd Y Priordy. (Priory Street) O’n ni’n cerdded i mewn i’r dref heibio’r hen dderwen enwog. Roedd dim ond ychydig bach o dderwen a llawer o goncrit y dweud y gwir. Roedd ein ewythyr Bill yn byw drws nesa gyda’n modryb Megan, a’n tri chefnder. Mae ein cefndryd yn dal i fyw ger Caerfyrddin ond wnes i ddim eu gweld nhw ers amser maith.
Roedd gyda fy nhad llawer o ewythrod, modrybedd a chefndryd yn Abertawe. Ro’n ni’n arfer mynd i Abertawe yn yr haf. Roedd gyda fy mam llawer o ewythrod, modrybedd a chefndryd yn Sir Benfro. Yn anffodus, doedd neb yn siarad Gymraeg â ni - y cefndryd Seisnig.
Ar ôl ymddeol, aeth mam a thad i fyw ger Abertawe, ar lan y môr. Roedd hynny tua deg mlynedd ar hugain yn ôl. Dyddiau hapus!
Sue
Ble yn Sir Benfro, ga i ofyn? Roedd fy nheulu yn ffermwyr ger Trelettert (Letterston), St Nicholas a Tyddewi.
Sue