Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

Heddiw mi es i gyfarfod SSIW yn Thornbury. Roedd tua dwsin o bobl yno, a mi ges i amser wych!

3 Likes

S’mae, bawb. Dwi’n mwynhau fawr iawn fy amser fi yn yr ardal o Gaernarfon. Llawr o sgwrsau yn Gymraeg. Wel, I dweud y gwir - mae bron pob sgwrs yn gymraeg. Rhan myaf o bobl yma yn siarad Gymraeg. Roedd hi’n gwych I siarad gyda Aran a Catrin. Hefyd diolch I nhw I dweud popeth yn Gymreag I helpu fi I golli fy ofn fi.

Mae hi’n grêt I siarad gyda Siaron, hefyd at y Galeri (Man o Parti deg blwydden SSiW).

Ocê, felly arol dwy wythnos o sgwrsau, math o bwtcamp bersonol, yn fyw fel person dwy iaithog, dwi’n teimlo mwy hyderus nawr. :slight_smile:

3 Likes

Helo! Dyn ni wedi gwneud mainc ar benwythnos. Fedra’ i ddim prynu mainc esgidiau bod o’n i isio, felly dw i wedi gwneud y mainc gyda fy ngŵr.

2 Likes

Llongyfarchiadau! Mae’n edrych yn wych.
Sue

1 Like

Noswaith dda, pawb. Dyma fy post cyntaf yma (dw i’n nerfus iawn)

Heno, dw i wedi mynd am siopa a dw i wedi prynu blueberries. Ond maen nhw’n sur iawn. Wel, dylwn i ddim prynu blueberries ym mis Tachwedd …

3 Likes

Croeso mawr i chi ddwy (@VArakawa ac @Irina)

Da iawn am gymryd y cam ofnus a’n hymuno ni fan hyn :slight_smile:

@Irina da iawn efo’r fainc! Bysai rhywbeth fel 'na yn fy nghymryd i fwy na benwythnos! Wyt ti a dy wr yn gwneud o bren yn aml?

@VArakawa dwi’n gwybod y profiad. Dwi wedi stopio prynnu pethau fel llus (blueberries) allan o’i thymor achos nad ydyn nhw’n blasu’n dda.

1 Like

Diolch Sue ac Anthony! :smiling_face_with_three_hearts:

Fedra’ i ddim yn gwneud rhywbeth a bren o gwbl, ond o’n i angen cael mainc am dwy flynedd! :see_no_evil: Felly o’n i’n trio. (Fedra’ i ddim yn dweud bod efo “ni” hyd yn hyn, sorry!) Dyn ni’n mwynhau gweithio a bren nawr, felly dyn ni’n mynd i drio gwneud silff lyfrau wedyn.

1 Like

Waw! Da iawn ti! (Wyt ti’n golygu dweud “o’n i’n” efo ni? dydy o ddim yn wahanol iawn, o’n ni’n :wink: (oeddan ni))
Taswn i’n trio gwneud rhywbeth basai fo’n cymryd 2 i 20 wsnos nid 2 ddiwrnod!

Diolch @AnthonyCusack!
Fella o’n ni’n mwynhau chwarae o bren. Dyn ni’n mynd i ymarfer mwy.

1 Like

Sut hwyl pawb?

Ar hyn o bryd dw i’n gwneud cwrs graenus i ymarfer fy ngwaith ysgrifinedig. Felly, ro’n i’n meddwl baswn i’n rhoi her i chi i gyd, tasech chi isio?

Dw i ddim isio i chi boeni am y safon eich iaith, cofiwch “Pethau gorau ydy camgymeriadau”! (Mae hynna’n odli!)

Felly, i ddechrau:

Tasech chi’n byw unrhylwe yng Nghymru lle fasech chi’n byw?

2 Likes

Taswn i’n byw unrhylwe yng Nghymru lle faswn i’n byw?
Cwestion anodd. Ges i llawer o gwyliau gwych yng Ngogledd Cymru. O’n i’n wrth fy modd yng Ngaernarfon, Criccieth, Porthmadog, Conwy, Llandudno, cerdded yn y mynyddedd, ayyb. Ond, a dwaed y gwir, y Gogledd yn teimlo tipyn bach fel gwlad arall, gwlad hyfryd, ond nid fel cartref.
Beth am Sir Benfro? Roedd llawer o fy nheulu’n byw yno. Baswn i’n gallu darllen y geiriau ar eu beddau nhw, cerdded ar lan y mor, a treulio amser yn yr Archifdy Sir Benfro yn Hwlffordd. Na, mae rhaid i fi bod yn ymarferol. Dw i ddim yn gyrru a dw i’n hen nawr. (Ond dw i wedi archebu gwyliau yn Sir Benfro am 2020.)
Dw i’n meddwl, rhaid i fi dewis Abertawe. Gaeth fy nhad ei geni ac ei fagu yno. O’n ni’n ymweld â chefndryd yno pan o’n i’n ifanc. Ges i amser da’n chwarae ar y traeth. Mae gyda fi lawer o atgofion gwych am Abertawe a Gŵyr. Wedyn, symudodd Mam a Thad i Abertawe ar ôl ymddeol. Ro’n ni’n ymweld â nhw’n aml. Yn ddiweddar, symudodd fy mrawd i Abertawe.
Mae’n bwysig i fi’n gallu fynd i Derby, Fryste ac Abingdon (ger Rhydychen). Mae’n eitha hawdd dal y trên o Abertawe. Dw i ddim wir yn disgwyl symud i Gymru, ond dwi’n gallu breuddwydio.
Sue

Camgymeriad - Cwestiwn!

5 Likes

Ie nes i joio fawr iawn ein gwiliau ni ger Gaernarfon. Ond eodd hin braf i dod nol i sgiwen. Golwg neis or ffenest a clos i siopau. Mae Gaerdydd yn iawn hefyd. Felly, unrhyle yn Ngymru yn fein gyda fi :laughing:

3 Likes

Taswn i’n byw unrhylwe yng Nghymru lle faswn i’n byw?

Wn i’m? Eleni, on i’n mwynhau fy ngwyliau yng Ngogledd Cymru, yn enwedig Llandudno. Ond does dim car ‘da fi, felly mae Gogledd Cymru’n tipyn anghyfleus, falle.

O’n i’n mwynhau fy ngwyliau yn Ne Cymru, hefyd. Yn enwedig Caerdydd (wrth gwrs, fel fan Dctor Who). Ond ar hyn o bryd, oes llawer o newidiadau i adeiladau y ddinas. Mae’n well ‘da fi adeiladau gyda traddodiad a “character”.

3 Likes

Ella (falle) bod Abertawe yn gartref priodol i chi/ Efo cysylltiadau teuluol ac y modd i gyrraedd llefydd arall dach chi isio (moyn) mynd, mae Abertawe yn swnio fel cartref potensial ymarferol.

Fi? Mi wnes i symud flwyddyn yn ol (efo fy ngwraig ac ein merch iau ni) i Lanrug yng Ngwynedd. Mae Llanrug yn hanner ffordd rhwng Caernarfon a Llanberis, ac mae’n bentref mwyaf Cymraeg ei iaith yn y byd, efo 88% o bobol fa’ ma yn siarad Cymraeg. Ar ol croesi’r stryd, mi fedra i weld copa’r Wyddfa!

Mae Llanrug yn siwtio ni, ond ella byddai Abertawe yn siwtio chi. Pob lwc efo’ch breuddwydon :slight_smile:

4 Likes

Ie mae Llanrug a lanberis yn neis iawn. Wel y holl ardal i fod yn honast. Aethon ni ymweld y Pig Pottery, mond fynny y fford. Hefyd y siop anhreg yn Llanberis, ar bwys a grferbyn y co-op. Oedd y fenw mewn siop gyfeithgar (frendly?) Iawn. Oedd hin hapus i siarad am hanner awr gyda ni a gofyn am lle on nin aros yn yr ardal.

3 Likes

Dw i’n hoffi Caerdydd a Bae Caerdydd. Hoffwn i berswadio fy merch i ddod i Gaerdydd gyda fi am benwythnos yn y gwanwyn.
Sue

3 Likes

Mainc braf, Irana. Da iawn I ti.
Beic neis hefyd :slight_smile: Yw e /Ydy fo KTM?

Dw i newydd gyrraedd adre o Gaerfyrddin, y Lyric, lle welais fi a @Billigog sioe Ellis James, wedi cael ei ffilmio gan S4C. Doniol iawn.

3 Likes

Dwi’n byw yng Nghaerdydd, a mi faswn i’n dweud bod ardaloedd tu allan canol y dref gan gymeriad. Ond dwi’n cytuno mewn ffordd. Mi faswn i wrth fy modd gan ffermdy yn y Gogledd yn agos at y mynyddoedd. Ond taswn i’n symud i’r fan 'na mi faswn i’n methu’r ddinas.

2 Likes

Diolch ac ydy, mae’n KTM! Oes gynnyt ti KTM hefyd? Neu beic arall?