Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

Haia Irina. Na anfodus sgen i ddim KTM, ond dwi licio nhw. Mae gen i Norton yn ei darnau, yn aros i fi i trwsio hi :grinning:. Nes i prynu hi yn y 70au ac es i o gwmpas Ewrop efo hi.

Mae’n ddrug gen i, nes i ddim gweld o! Dw i’n hoffi beic hen ond fedra i ddim reidio o gwbl!

1 Like

Dw i di gwneud ffeil swn am fy ffrind heddiw. Mae hi’n dysgu Almaeneg, mi fedra hi darllen a siarad typyn bach ond mi fedra hi ddim dallt unrhyw beth. Felly dw i di recordio ffeil fel yma, yn gyflymach na’r arfer (faster than normal) achos mae o’n helpu fi yma efo Cymraeg.

1 Like

Dwi isio dysgu Almaeneg, mae hi ar fy rhestr ond dwi’n trio ffeindio’r system gorau (fel SSiW) i’w ddefnyddio.

Wyt ti’n dod o’r Almaen?

Dw i’n byw yn Awstria ond dw i’n dod o Rwsia. Dw i di dysgu Almaeneg yma achos o’n i isio siarad Almaeneg yn pryfysgol blwyddyn llawer yn ol. Mae’n ddrug gen i ond dw i ddim yn gwbod system da am Almaeneg :frowning:

Paid â phoeni!! Does dim bai arnat ti, Dwi’n gweld y bai ar @aran ac @Iestyn oherwydd mor dda ydy SSiW, maen nhw wedi’n sbwylio ni :joy:

Lle yn Awstria wyt ti’n byw? Dwi’n licio Awstria! Mae fy mrawd yn byw yn Munich felly, pan oeddan ni yno, aethon ni i Salzburg. Dan ni wedi mynd i Wien hefyd, dinas enfawr!

Dw i ddim isio dysgu iaith efo unrhyw beth arall! Mae SSiW yn dda iawn :smiling_face_with_three_hearts:
Dw i’n byw ger Graz ond dw i’n ymweld a Salzburg a Wien llawer.

Mae 'na gwrs oedd yn debyg i SSiW, er bod Aran wedi dweud fod o di newid yn dipyn i ddod yn gwrs mwy traddodiadol/gramadegol rŵan:

2 Likes

Mi wna i edrych arno, diolch Richard

Nes i wylio „The Crown“ ar Netflix. Hapus i dweud fod llawer o Gymraeg yn yr episod „Tywysog Cymru“. Gobeithio, bydd fyw o gyfresau Cymraeg ar gael ar Netflix yn y dyfodol.
(oes episod am Aberfan yn y trydydd tymor hefyd, ond ni siaredir Cymraeg)

1 Like

Dw i’n cerdded adre ar ôl shifft nos, Parc Cerdded (dim Parc Rhedeg), ac ar ôl i fi ffili cael fflŵ jag yn y fferyllfa lleol. Wedi blino yn rhacs ond dyma fy mywyd.

Dw i ddim wedi bostio yma am amser hir - rwy wedi bod mor brysur! Rwy wedi bod ar gwyliau ystudio un yr Aifft, yn ymweld â themlau a beddrodau ger Luxor, a gwrando â ddarlithoedd gan yr egyptolegydd Dr Aidan Dodson. Roedd na ugain ohonon ni, ac roeddwn ni’n nabod ein gilydd cyn fynd, rhai ohonnon ni’n ffrindiau mawr. Dyma fi ym medd Ay, y Pharoh ar ol Tutankhamun - a hyn oedd yn bosib wedi ei ladd.


Heddiw mi drefnais parti penblwydd ein WI. Roedd tua 70 o bobl, ac mi drefnais pryd o ham, caws, wyau, salad, bara, coleslaw, tomatoes, ac ati, a wedyn cacan hufen, a bag parti efo teisen bach ac ychydig o losin. Rhoedd gen i griw da iawn o fenywod yn helpu, ond o, rwy wedi blino’n lân!

3 Likes

Dw i’n bod I gwaith heddiw, orffen am 10 o’r gloch.
Dim gwaith yfory felly dw i’n mynd siopau yn Caerdydd.
Nos da.

2 Likes

Dw i’n eistedd ar y soffa gyda fy mam sy’n gwneud Sudoku. Mae fy ngŵr yn darllen ar y cyfrifiadur, pethau am Sbaen a cherdded. Mae fy mhlant yn ymweld â chymydog i siarad am eu bywydau yn Llundain, a dw i’n gwau menig gyda gwlân a brynais yn Riga, Latvia, dwy flynedd yn ôl.

2 Likes

Heddiw, bydd her i fy nghymraeg, dan ni’n mynd i ddosbarth cyngeni! Dymunwch lwc i mi!!

4 Likes

Dosbarth cyn geni yn y Gymraeg? Waw!

1 Like

Heddi rwyn crio, yn hollol digalon. Mi ddylai pobl cyffredin fod yn mwy caredig i natur a’r blaned.
Yfory rwyf am ddechrau trefnu pethau i’r Dolig, felly mae’n rhaid i mi sgwennu rhesri mawr o bethau i wneud a phrynu - ni all fod Dolig heb ysgewyll neu pannas!

2 Likes

Heddiw rwy wedi cael trin wallt, ac ar ol yfed panad o de, mae’n rhaid i mi addurno’r coeden Dolig. Hefyd mae’n rhaid i mi sgwennu rhestr o bethau i brynu. Rwy wedi prynu’r pannas, ond dim ysgewyll eto. Fe fydd pump ohonnon ni yn dathlu’r Dolig ar y 27ed. Un yn bwyta bob dim, myfi sy’n bwyta bob dim, ar wahan i llaeth, ac ati, un vegetarian a dau vegan!

Nes i gwylio caneuon Cymraeg ar YouTube a des i o hyd i fersiwn ultimate (?) o „Yma o Hyd“

3 Likes

Heddiw dw i’n lapio anrhegion Nadolig.

1 Like