SSi Forum

Be' 'dach chi'n gwneud rwan? A phethau arall yn Gymraeg - A topic to practice Welsh, open to all!


#837

Duw… Am folgi! :joy:

Rŵan hyn, Dw i’n llymeitian (sipping) gwydraid o gwrw hyfryd wrthyf fy hun… dydy hi ddim yn teimlo fel diwedd y cyfnod glo eto…
Dw i’n methu aros nes i ni allu cwrdd pobl eto… dwi wedi bod yn esgeulus i ymarfer fy Nghymraeg yn ddiweddar


#838

Dwi’n isio y bydd rhywun sgwennu wrtha fi er moyn ymarfer siarad a sgwennu Cymraeg yn modd ymlacus (Beth yw’r gair?!) Clare


#839

Dim problem Clare, dach chi yn y lle perffaith. Sgwennwch cymaint â liciwch chi yma yn y Gymraeg. Peidiwch â phoeni am gamgymeriadau chwaith, dan ni i gyd yma er mwyn ymarfer a chefnogi. Croeso.


#840

Oedd hi’n ddiwrnod bendigedig ddoe. Aethom ni (fi a fy merch) â’r ci fy mam am dro yn y p’nawn a mi welsom ni dafad efo ei phen yn sownd mewn ffens felly, ar ôl clymu’r ci at goeden, aethom ni ati i’w hachub. Roedd hynna’r tro cyntaf i fy merch cyffwrdd ar dafad, heb sôn am drio ymgodymu ag un, oedd hi wedi cyffroi i’r eithaf. Ac wedyn daeth fy nghath llygoden i mewn i’r tŷ neithiwr, naeth o gymryd bron hanner awr i’w dal oherwydd bod nhw’n gyflym dros ben. Oedd fy merch wrth ei bodd, chwarae teg.


#841

Diolch yn fawr am yr ateb mor gwrtais Dwi’ n dysgu bron â bhopeth ar lein achos dwi’n byw yn Wiltshire Dwi’m edrych ymlaen ar Bwtcamp nesa ond yn y cyfamser dw’n darllen - dwi’n newydd gwblhau Llinyn Trôns Allet ti augrymu llyfr arall sydd ar werth ar lein plîs?


#842

Mae 'na 'chydig o siopau sy’n gwerthu ar lein ac yn anfon ar draws Prydain ac y byd hyd yn oed. Chwilio trwy’r cyfres “Stori Sydyn” sy’n anelu at ddysgwyr a darllenwyr amhrofiadol ac hefyd maen nhw’n rhad. Efallai y byddet ti’n ffeindio’r edefyn isod yn ddefnyddiol.


#843

Dysgais i air newydd - "ymgodymu". Diolch, @gruntius.

Croeso, @ClareRussell. Dw i’n byw ger Rhydychen (Oxford), ond dw i’n lwcus iawn. Mae grŵp o ddysgwyr yn yr ardal sy’n cwrdd - ar lein ar hyn o bryd, ond fel arfer mewn caffi neu dafarn. Efallai bod grŵp yn Wiltshire. Cyn y cyfnod clo, roedd Catrin yn sgwennu rhestr o grwpiau yn ei e-bost wythnosol. Gobeithio ar ôl y cyfnod clo bydd rhestr eto. Mae cyrsiau ar-lein ar gael nawr. Gwnes i gwrs o Brifysgol Abertawe wythnos diwethaf. Roedd dyn o Ffrainc ar y cwrs. Dwedon nhw y bydd cyrsiau ar-lein yn y dyfodol, achos mae cyrsiau ar-lein mor boblogaidd.
Sue


#844

Diolch i fy ngeiriadur. :wink:


#845

Stori wych! Mae na un peth am ddefaid, maen nhw’n cyflwyno i’r achosi. Taswn nhw isio bwyta rhwybeth maen nhw’n mynd i’w fwyta beth bynnag y canlyniadau!


#846

Sôn am gerdded, dw i’n meddwl am neud cwrs “sgiliau mynydd” yn y haf. Dw i wedi bod yn y brynnau’n aml ond dw i wedi wastad isio teimlo fel
bod ‘na lot mwy i’w ddysgu. A gobeithio, rhyw diwrnod, mi wna i’r cwrs “mountain leader”. Mi liciwn i ddod â grwpiau i mewn y mynyddoedd.

Oes unrhywun arall wedi neud cwrs yn debyg?


#847

Dwi’n gwybod sut i ddefnyddio map a chwmpawd, a dwi hefyd yn gwybod i fynd â digon o ddŵr a bwyd mewn ysgrepan ond dyna fo. Pan ti 'di gwneud y cwrs bydd rhaid i ti drefnu “bwtcamp y mynyddoedd”. :wink:


#848

Dwi heb 'di neud cwrs sgiliau mynydd go iawn, ond blynyddoedd yn ôl ar ôl neud y “DoE Aur”, o’n i aelod o tîm achub mynydd “Longtown”, felly dysgais i lot o sgiliau dros y cyfnod yna. Os ti’n cael y cyfle, mae’n werth neud cwrs, yn sicr.


#849

Ohhhhh rwan te! Mae na’n syniad diddorol!


#850

Byddai hynna’n rhywbeth mi fyswn i’n licio wneud ‘swn i’m gweithio dros benwythnosau yn barod. Dydw i’m licio’r syniad o weithio rhai benwythnosau a wedyn bydd ar alw dros y tim achub mynyddoedd hefyd. Mi liciwn i weld fy mhlant a fy ngwraig rhywpryd!


#851

Ar y pryd o’n i’n gweithio mewn siop, felly o’n i’n gweithio bob dydd Sadwrn. Oedd y hyfforddiant cymorth cyntaf un nos Llun bob mis, ac roedd y hyfforddiant ar y mynydd un dydd Sul bob mis os dwi’n cofio’n iawn, ond wrth gwrs ti’n “ar alw” trwy’r amser. Ond wrth gwrs nid pawb yn y tîm oedd yn gallu troi allan bob tro, dyna pam bod hi’n well cael lot o aelodau yn y tîm i sicrhau bod na digon i troi fyny ar ‘showt’. Oedd fy ngŵr (cyn-ŵr rwan) yn aelod hefyd, ond doedd gynnon ni dim plant, felly oedd hi’n haws. Ond ie, bod rhan o dîm achub mynydd yn tipyn o ymroddiad.