Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

Longyfarchiadau anferth Anthony. Dyna newyddion bendiblydigedig!

2 Likes

Pen-blwydd hapus i dy fam-yng-nghyfraith, @AnthonyCusack . Dyw 60 ddim yn hen o gwbl! A llongyfarchiadau am yr ail fabi sy’n dod.

Ti’n haeddu gorffwys, @gruntius. Mae gardd llawer o waith, ynte? Does dim gardd gyda fi nawr achos dw i’n byw mewn fflat. Mae deg ohonon ni’n rhannu gardd fach - dim ond glaswellt - ac mae garddwyr yn dod i dorri’r lawnt. Dyn ni’n talu llawer o arian iddyn nhw. Weithiau dw i’n difaru diffyg gardd fy hun, ond weithiau dw i’n cofio pa mor galed ro’n i’n gweithio i dyfu llysiau a dw i’n hapus.

Dw i wedi ymddeol ers mwy na deg blynedd - ond bydd yn benwythnos prysur. Bydda i’n gweithio yn y siop leol ddydd Sul fel arfer, ond bydda i hefyd yn gweithio ddydd Llun 3ydd Mai, i roi saib i’r bobl sydd fel arfer yn gweithio ar ddydd Llun. Bydd dydd Sul a dydd Llun yn wahanol iawn. Dydd Sul dyn ni’n pobi croissants ac mae yna lawer o gylchgronau a hysbysebion i’w roi yn y papurau newydd. Dydd Llun bydd dynion yn dod gyda bara, llaeth a phethau arall, a bydd rhaid i ni archebu pethau. Bydd y rheolwr yn ysgrifennu nodiadau yn y dyddiadur i’n hatgoffa ni.

4 Likes

Bore da bawb. dwi’n dal lan gyda waith heddiw yn barod am yfori. Oedd y rhagolygon yn wael, ond mae’n yn union iawn. Ta beth. Efallai, byddai’n mas p’nawn 'ma.

Taith gerdded hyd yn oed yn wylltach.

Dydd Iau, gerddon ni i Radley Isaf, wedyn ar hyd yr hen ffordd i’r pyllau graen a thywod. Caeodd y pyllau flynyddoedd yn ôl, a wnaethon nhw gael ei llenwi gan ludw (fly ash) o’r orsaf trydan. Mae’r giât ar glo nawr, ac mae’r tir yn breifat, ond mae’n bosibl cerdded yn y cae wrth y ffens. Roedd y glaswellt yn dal, yn dalach na ni, ond gwnaethon ni llwyddo cerdded ar draws y cae. Ar ôl y cae, roedd llwybr cul iawn, rhwng y ffens a’r rheilffordd. Mae’r rheilffordd yn brysur. Mae’n lle da i wylio trenau. Roedd danadl poethion a mwyar duon ar draws y llwybr, ond ro’n i’n defnyddio secateurs, a gwnaethon ni gerdded yn araf ar hyd y llwybr.

Cyrhaeddon ni “Sounding Bridge”, pont fach neu dwnnel o dan y rheilffordd gydag atsain wych. Yn lle cerdded o dan y rheilffordd, aethon ni yn syth ymlaen i gae lle bechgyn weithiau’n reidio beiciau modur, er na ddylent. Ar ôl llwybr cul arall, cyrhaeddon ni’r hen lifddorau a choredau, lle roedd dŵr o’r pyllau yn llifo i’r afon. Daeth y llwybr ar ben, gyda giât wedi cloi, felly aethon ni yn ôl i lwybr sy’n arwain ar bont arall o dan y rheilffordd.

Yn y gaeaf, ac ar ôl glaw, does dim posibl mynd yno achos bod yr holl dir dan dŵr. Hyd yn oed ar ôl tywydd sych a phoeth, roedd dŵr o dan y bont. Aethon ni o dan y rheilffordd ac i fyny i grŵp arall o hen byllau. Ychydig ohonyn nhw wedi cael eu llenwi, ond dwy wedi cael eu hachub. Nawr maen nhw’n llynnoedd, ac mae llawer o adar yn byw yno.

Cerddon ni o gwmpas, wedyn ar hyd hen reilffordd sy wedi cael ei gau gan Dr Beeching. Cyrhaeddon ni Sounding Bridge, ac aethon ni o dan y rheilffordd ac yn ôl ar yr un llwybr. Cafodd y planhigion eu dial am y secateurs. Ges i frech goslyd gas ar fy nwylo a breichiau.

Roedd e’n werth gwneud taith cerdded mor anodd. Roedd llawer o flodau gwyllt, un cynnwys dau degeirian y wenynen, ychydig o degeirianau bera a llawer o degeirianau brychion. Gwelais i gorfanhadlen roedd yn tyfu gyda meillionen. Parasit yw gorfanhadlen. Does dim dail gwyrdd gyda fe. Mae e’n cymryd bwyd o’r feillionen neu blanhigion eraill. Roedd gormod o flodau eraill i sôn amdanyn.
Sue

2 Likes

Dwi’n eistedd yn fy nghwely i gyda iogyrt a llyfr achos dwi ddim isio bod rhywlle arall.

3 Likes

Dw i’n eistedd â’r ail fws o dri o fy mhentref i Drefach i Gaerfyrddin i Fronwydd cyn i fi gerdded i Llannewydd er mwyn gwau gyda fy ffrindiau nyddu. Cyn covid oedden ni cwrdd yn y dre ond pethau wedi newid…

1 Like

https://drive.google.com/file/d/1zkxWzkH1n1c4j3WA_LL3YbIuNGMeTGf3/view?usp=drivesdk

Practising speaking.

Shwmae @yr1arall Would you mind writing a little more about what it is? People (including me) are naturally wary of clicking on links without knowing anything about it.

Swhmae bawb. Gobeithio, Chi gyd yn iawn. Newydd codi nawr am un o’r gloch yn y bore :smiley: .

Es i i wely am 5 or gloch arol sift nos, ac yn dihinio am saith i talu golchwr fenestri :slight_smile:

1 Like

Gweddio mewn Cymraeg.
Pray in Welsh.

1 Like

Bore da bawb! Dw i ddim wedi ysgrifennu yn Gymraeg ers amser maith (wel, teimlo fel ‘na). Sut ydych chi gyd?

Mae hi di bod blwyddyn brysur i nheulu bach. Mi gaeth ein hail fab ei eni ym mis Hydref, ac mae dau o dan dau’n her iawn! Ond mae’n her mor hwyl siwr o fod!

Oes bwriadau nadolig gynnoch chi? (Os dan ni’n medru wrth gwrs!)

2 Likes

Llongyfarchiadau, Anthony. Wi’n iawn diolch. Maen prysur ian yn gwaith, a win ymuno grwpiau sgwrs go iawn syn aildechrau. Hefyd wi’n gwirfoddoli at canalfan achub ci.

2 Likes

Llongyfarchiadau mawrion mawr @AnthonyCusack! Mae hynny’n newyddion gwych!

Dw i’n bwriadu mynd i’r Almaen ar gyfer Nadolig a Blwyddyn Newydd ond … dw i ddim mor siŵr bo fi’n moyn mynd nawr gyda’r newidiadau diwetha Cofid. Gawn ni weld!

3 Likes

Diolch i chi ddau!

O’ ie, mae’n edrych fel fe fydd hi’n nadolig “wahanol” eto. Dan ni dal yn gobeithio y fydd fy mrawd a’i deulu’n dod o’r Almaen dros ‘Dolig. Dwi ddim wedi’u gweld nhw ers 2 flwyddyn a nad ydyn nhw wedi cyfarfod â Trystan eto, let alone Macsen, a nad ydw i wedi cyfarfod â’i fenga chwaith! Felly, bysedd croesi bydd popeth yn well na nhw’n edrych ar hyn o bryd.

2 Likes

Shwmae bawb.
Wi ddim yn siarad cymraeg yn dda felly dwn i ddim be’ dweud yma…

1 Like

Dwi wedi newydd ffeindio y thread 'ma. Dwi’m teimlo bod yn syniad da iawn.
Dwi’n newydd ddechrau fy shiffy nos i mewn ffatri yn Weston-super-Mare.

1 Like

Dwi’n edrych ymlaen i wylio’r rygbi y pnawn 'ma. Ond dwi’n tipyn bach yn nerfws. Mynd Amdani Cymru ! :grinning::black_flag:󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

2 Likes

O wel, falle yr penwythnos yma 'te? Bysedd sy’n croesi. Cwm on bois!

3 Likes

helo pawb
mae gen i sgwrs yn y gymraeg ar whatsapp am y tro cyntaf gyda ffrind lleol - dw i’n mor hapus:)

4 Likes

Dwi’n trio:


:slight_smile: