Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

Cymru am byth!

(football, ddim rygbi. dwi’n mwynhau y cerddoriath hardd)

Da iawn ti! :+1:

Nes i gael lawdriniaeth hernia dydd Gwener diweddaf (6th mis Mai). Rwan, dwi’n ymlacio yn blaen y teledu yn gwylio Seiclo Giro d’Italia.
Dim drwh i gyd - mae’n debyg am tua chwech wythnos i ffordd fy ngwaith i! :grinning:

Es i i’r eglwys bore 'ma ac ar y ffordd adre es i i weld ffrind o Uzbekistan, ei gwr o Wlad Pol ac eu babi eitha newydd. Ro’n ni’n siarad a’i theulu yn Samarkand ar WhatsApp. Ar ol i fi ddweud am daith i Foel Fryn (Malvern) 'fory i wasgaru lludw fy mam gaethon ni sgwrs am amlosgiad ac amslosgfeydd. Mewn gwledydd Mwslimaidd mae’n syniad newydd ac eitha drwg iddyn nhw.

Brysia wella, @CrisLeaman ond joio’r 6 wythnos o ymlacio hefyd!

Diddorol iawn, Margaret. Samarkand yw un o’r lefydd yn byd bo fi wastad wedi moyn ymweld â fe. Mae’r bensaernïaeth yn edrych yn ysblenydd ac siŵr o fod mae’r diwylliant yn ddiddorol iawn. Un dydd …

1 Like

Diolch yn fawr iawn Deborah. Gwerthfawrogi’n iawn :+1:

Mewn byd ar ôl Covid… ac heb rhyfel … Aeth fy fam yn y 70au, ac i Tashkent a Bukhara.

1 Like

Am un adeg oedd dyn sy’n siarad Esperanto yn cynnig llety am ddim yn Tashkent ar yr amod bo ti’n siarad dim ond Esperanto gyda fe. Sa i’n gwybod pa mor hen oedd e ar y pryd, ond falle mae fe dal yno!

Dydd Sul heddi ac mae dyna llawer o waith i’w neud yn yr ardd yn gofalu am fy goed bonsai i. Mae’n edrych fel diwrnod braf yn barod. Garddio hapus pawb.

3 Likes

Dwi’n eistedd mewn hen neuadd eglwys ac yn cael arddangosfa bach cwiltiau fy mam a fy grefftiau am bythefnos.

2 Likes

Ges i wyliau gwych yn Llandudno gyda grŵp o’r pentref. Aethon ni ar y bws i Fiwmares dydd Mawrth. Dydd Mercher aethon ni ar y bws i Fetws y Coed, wedyn i’r amgueddfa llechi yn Llanberis. Ges i gyfle i siarad Cymraeg yn yr amgueddfa. Gaethon ni diwrnod rhydd Dydd Iau. Gwnes i sylweddoli bod trên yn mynd o Landudno i Flaenau Ffestiniog, felly es i ar y trên. Mae’n daith arbennig, i fyny’r dyffryn Conwy, wedyn i fyny yn y mynyddoedd a trwy dwnnel hir. Cyrhaeddon ni Blaenau Ffestiniog, ac wedyn cyrhaeddodd y trên o Borthmadog - trên bach Rheilffordd Ffestiniog gydag injan “Merddin Emrys” sy’n Fairlie dwbl. Roedd rhaid i fi aros mwy na tair awr cyn y trên nesa yn mynd i Landudno, felly cerddais i o gwmpas y dre, wedyn i fyny’r ffordd i geudyllau Llechwedd. Es i ddim ar y zipwire. Es i nôl i Landudno ar ôl diwrnod bendigedig. Dydd Gwener aethon ni adre.
Sue

5 Likes

Gwych Sue, Mae’n swnio fel gwyliau braf iawn…

Shwmae Bawb. Es i i Llanymddyfr (De Dwyrain Sir Gar) yn ystod y gwyl banc cyntaf, sef Dydd Iau.
Tref braf yw hi gyda digon o siopiau, tafarnau a cafès. Mae bobl yn deall Cymraeg os ti’n fansi ymarfer. Nes i ddim yn clywed llawr o cymraeg tro 'ma, er dwedodd y fenw ifanc yn y cafe bo hin siarad hi typun bach. Chwarae teg iddi.

1 Like

Gwych Sue, dwi’n dwli Llandudno a Lanberis hefyd. Dwi’n mwynhau iawn, iawn yn seiclo yn yr ardal 'ma.
Ac dy Gymraeg di’n wych hefyd.
Hwyl, Cris

Diolch yn fawr, @CrisLeaman.
Mae rhaid i fi gyfaddef - dw i’n ysgrifennu’r darn yn MS Word, wedyn dw i’n defnyddio’r “app” Gwirio. Mae Gwirio yn dweud “Does dim treiglad yma”. Neu “Mae angen treiglad yma”. Dw i’n ochneidio “Wrth gwrs, wrth gwrs”.
Dw i’n ddwli ar yr ardal hefyd, ond dyw e ddim yn hawdd mynd yno o’r De Loegr yn defnyddio cludiant cyhoeddus, felly dw i ddim yn mynd yno yn aml y dyddiau yma. Da iawn ti am seiclo yn y mynyddoedd!
Hwyl, Sue

1 Like

Shwmae @JohnYoung.
Dw i ddim yn nabod yr ardal Llanymddyfr yn anffodus. Dw i’n siŵr mae’n lle hyfryd. Mae’n dda pan pobl yn fodlon siarad Cymraeg. Daeth fy nheulu o Sir Gar, ond o Gaerfyrddin, Llanelli a Llanarthne, sy’n fwy i’r gorllewin.
Hwyl, Sue

Dwi’n ar ‘the Sick’ ar hyn o bryd ar ol lawdriniaeth hernia.
Dwi’n joio ddarllen llyfr ‘Welsh Whisperer’ sydd enw " Ffyrdd y Wlad" a lyfr troseddu gan John Alwyn Griffiths, " Dan Bwysau", sydd o’i gyfres arbennig ‘Dan …’.

1 Like

Gobeithio byddi di’n well yn fuan, @CrisLeaman. Dw i’n hoffi llyfrau ditectif. Dw i wedi clywed am gyfres “Dan…”, ond dw i ddim wedi eu ddarllen nhw eto. Joiais i “Ar Drywydd Llofrudd” ac “Ar Lwybr Dial” gan Alun Davies.
Sue

Diddorol iawn Sue. Mae gen i gopi o ‘Ar Trywydd Llofrudd’ i ddarllen pan dwi wedi gorffen y cyfres ‘Dan …’ !
Hwyl fawr, Cris

1 Like