Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

Na fydd, bydda i’n gweithio yn anffodus. Mwynha dy hun. :blush:

Wel, wnes i defro yn hwyr! O wel. Efallai yr wythnos nesa!

Sori, do’n i ddim yn gwybod fod o’n dydd Mercher heddiw. Dyna gweithio shifftiau i chi! :joy:

Pawb, wel, rwan dwi ddim yn gweithio. Stori hir. Felly 'set ti’n licio sgwrs, anfona neges i mi ac efallai defnyddio skype.

Mae ddrwg gen i glywed dy newyddion. Nes i weld dy neges arall am symud i Gaernarfon, syniad da! Dw i’n gobeithio 'fod ti’n gallu ffeindio cyfle positif o’r ddigwyddiad.

1 Like

Diolch yn fawr. Ar hyn o bryd dwi ddim yn siwr be’ i wneud nesa. Stori hir. Ond dim ond trio bod yn bositif!

1 Like

Bore ma wnes i brynu ffrwythau ar gyfer gwasanaeth cwrdd diolchgarwch yfory. Es i â nhw i’r eglwys cyn i fi fynd i Aldi i wneud siopa. Ar ôl Aldi es i i’r llyfrgell le roedd rhaid i fi dalu £17.80 fel taliad am ddau lyfr hwyr. Aw!

Ar ôl cinio bach roedd cyfle i fi siarad â’r Novem ardderchog ar Skype.

Pnawn ma sgrifennais fy mlog ( www.bywyd.cymru ) a heno wnes i goginio swper i fi a fy mab.

Nesa bydd badd hir. Cawod yn y pwll nofio ond badd gatre.

2 Likes

Dylet ti wedi prynu y llyfrau!

1 Like

On i’n teimlo’n siomedig iawn ar y penwythnos achos welodd ym merch ci yn y stryd fawr ac oedd hi’n moyn stroco fe. On ni’n croesi’r ffordd pan glywais i’r fenyw yn siarad Cymraeg gyda’i ffrind.

Nesa, wedodd ym merch i fi - yn Saesneg “go on ask” a wedais i wrth y fenyw yn Saesneg, popeth yn Saesneg. Wnes i ddim gwybod sut i ddweud beth o’n i’n moyn dweud yn Gymraeg ar y pryd.

Dwi’n dal yn meddwl am y peth achos dw i’n moyn gwybod sut i ddweud rhywbeth fel hon yn y dyfodol. Dw i’n siwr bydd yr un peth yn digwydd eto.

Ga i drio bach o bethau arnoch chi achos sai’n gwybod sut i ddweud e yn gywir ac yn naturiol?

Sut Mae - Gaiff hi stroco’r ci?

Sori - mae ym merch newydd weld y ci - gaith hi stroco fe?

Hiya - mae ym merch wedi gweld y ci, bydde fe’n bod yn iawn sai hi’n gallu stroco fe?

dwi’n methu helpu chdi…ond byddwn i’n trio dweud rhywbeth yn y Gymraeg er mwyn dechrau sgwrs.

Wedyn, fedri di ofyn iddi nhw sut i ddeud be’ ti isio dweud.

1 Like

Os tasai hwna’n yn digwydd eto, meddwl o gwmpas be dach chi’n trio dweud. Felly, “mae fy merch isio stroco eich ci, ydach chi’n Meindio?”

Dw i’n deall sut ro’ch chi’n teimlo. Dan ni’n meddwl gormod cyn i ni siarad ein bod ni’n poeni nawn ni gamgymeriad.

Bydd y gamgymeriadau yn digwydd, felly mae’n bwysig i fod yn gyfforthus gyda nhw.

Ond, i fod yn glir, “gawn ni…?” Yn golygu beth oeddoch chi isio dweud.

1 Like

Wel rwan hyn dwi’n trio penderfynu be’ i wneud heddiw.

Gad i mi feddwl.

Ddylwn i ddysgu Cymraeg neu ddylwn i ddysgu Cymraeg.

Mae’n anodd i ddewis. Felly, mae brecwast yn bwysicach!

Diolch yn fawr - on i’n synnu os fi’n bod yn honest a ches i ddim digon o amser i meddwl am unrhywbeth. on i ffaelu cofio sut i ddweud “can she”, ac on i’n gorfod ddweud rhywbeth yn glou, neu sefyll yna fel twpsin ac yn ddweud dim byd. Oedd popeth yn digwydd yn rhy glou a ches i ddim amser i paratoi, neu meddwl o gwbl yn Gymraeg.

Slicio - diolch yn fawr. Eneth yw gair newydd i fi hefyd.

Dwi erioed wedi clywed neb yn dweud ‘slicio’ - lle wnest ti ffeindio hynna, @HowlsedhesServices?

Byddwn i’n dweud ‘mwytho’ - ‘geith hi fwytho’, ‘geith hi roi mwytho’, ‘ydi hi’n iawn iddi fwytho’ - roedd popeth ddudest ti uchod yn iawn mwy neu lai, ag eithrio ‘bydde fe’n bod yn iawn’ - jesd ‘fydde fe’n iawn’ sydd isio fan’na…:slight_smile:

2 Likes

Diolch yn fawr iawn - fy hoff ffurf yw - “yw hi’n iawn iddi fwytho” - mae’n syml iawn.

2 Likes

Od - mae’r GPC yn rhoi ‘tynnu llaw, rhoddi mwythau, mwytho, maldodi, sbwylio, anwylo, cofleidio’ pan dwi’n rhoi ‘stroke’ i mewn (ac yn dewis ‘to caress’). Ond ti wastad yn cael mwy o bethau hanesyddol yn y GPC - bydda i’n defnyddio Bruce (a dyna lle mae’r cyfieithwyr dwi’n nabod yn mynd yn aml).

Ond ar lafar - mwytho, neu anwesu, gan amlaf (yn y Gogledd).

1 Like

Sori os mae hon yn teimlo fel “ground hog day” ar y fforwm ond mae mwytho yn swnio fel “mither” yn Saesneg a fi di ffindio “link” diddorol o’r Telegraph.

Naddo, erioed. Ia, anodd pan dach chi allan o’r wlad. Mae hyn yn enghraifft o’r math o beth lle, i mi, byddai ‘Ydy pobl yn defnyddio ‘slicio’?’ yn ffordd well i’w gyflwyno…

Dwi wedi clywed pobl yn awgrymu bod cysylltiad rhwng ‘mither’ a ‘mwydro’, sydd yn taro fi yn debycach… :slight_smile: