Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

Rwan dwi’n teimlo’n flin. Es i i’r banc achos bo’ fi angen pres. Ond…o’n i’n mynd i ddefnyddio Cymraeg. Ond saesneg yn unig!!! Paid a ddefnyddio Barclays!!!

Dw i newydd orffen sgwrs Facebook gyda fy ngwr a gyrhaeddodd Santiago de Compostella heddiw ar ol mis cerdded 750 o gilometrau draws gogledd Sbaen. Dylwn i gysgu nawr ond dw i ddim yn gweithio heno fel, ‘dim ots’.

A gyda fy merch sy newydd gyrraedd Budapest ar wyliau gyda’i chariad Hwngaraidd.

wel, byddwn i’n gweud “moyther” a "moytherin"yn saesneg ac mae hynny’n fwy debyg na “mither” chwaith.

1 Like

Dwi newydd wylio ‘ironman cymru’ ar bbc iplayer.

Pan o’n i’n iau…wel ella dim :wink:

Do’n i ddim yn siwr am “stroco”, mae’n sownio gormod fel rhywbeth meddygol. Dw i’n hoffi “mwytho”. Dw i’n gwybod bod fy nghariad yn dweud “ga i gyfarfod eich ci?” Neu weithiau, “ga i ddweud “helo” iddo?” - mae hi’n…wahanol…

1 Like

Oh. Dw i’n defnyddio stroco achos sai’n gwybod y gair (giberrish, not even wenglish). On i’n gwybod fod e’n anghywir ond on i’n gobeithio bod rhywun sy’n awgrymu rhywbeth arall - fel Aran a “Mwytho” neu ti a “gyfarfod”. Sai’n gwybod os mae 'na rhywbeth yn y tafodiaieth lle dw i’n byw, yn cwm tawe, ond bydden i’n disgwyl i glywed lot o gair arall am yr un peth.

Dw i’n teimlo (cysurus?) i ddweud “ga i” neu “gawn i” ond dw i byth yn gweud “geiff e” neu “geiff hi” tu fas yn y byd go iawn. Y tro nesa, bydda i’n barod nawr. Don i ddim yn barod o gwbl y penwythnos diwedda, on i’n “caught by surprise - on the hop”.

1 Like

Dw i di dysgu rhywbeth hefyd! Mae fy nghariad yn dweud “smwtho” ond dwedodd ei mam bod 'na yn bratiath. Mae hi’n dweud mwytho (mae hi’n dod o’r Ogledd. Felly, llawer o’r pethau mod i’n dweud bod yn ogleddol ond dw i’n byw yn y De.)

Ble ydach chi’n byw?

Anthony,

Byddai’n ofyn yn mam hefyd fory achos dw i’n siwr bod hi’n gwybod y tafodiaith yn y lle dwi’n byw achos mae hi’n dod o Abertawe a dwi’n n byw ar hyn o bryd ym Mhontardawe. Dwi’n dod yn wreiddiol o bentre bach yn ymyl Gaerdydd.

on i’n meddwl am smwddo ond oedd hi’n meddwl bod hi’n tebyg na smwddio a nagw i’n moyn “iron” ci.

Sai’n gwybod beth dwi’n meddwl am bratiaith achos os unrhywun ddwedodd rhywbeth fel hyn wrtha’i- wel bydden i’n teimlo’n balch ohono fi yn hunan achos bydden meddwl fod yng nghmraeg yn ddigon dda am rhywun i ddweud rhywbeth fel hynny wrtha’i a fydden i’n deimlo’n wrth fy modd am y peth os fi’n bod yn onest.

1 Like

Bydde ym mham i’n ddweud “rhoi maldod i’r ci”. Rhywbeth tebyg iawn i mwytho.

1 Like

Wel heddiw, dw i’n mynd allan. Gwynedd ella. Liciwn i siarad cymraeg swn i’n medru.

Ar hyn o bryd dwi’n trio gwneud rhywbeth pob dydd. SSiW. Neu gwrando ar y radio, gwylio’r teledu. Defnyddio memrise neu app Canolradd.

Felly heddiw dwi’n teimlo’n gyffrous a dwi’n bwriadu ffeindio caffi bach er mwyn siarad. Ond dwi angen penderfynu lle i fynd. Gobeithio rhywle efo awyrgylch neis. :slight_smile:

rwan dwi’n eistedd mewn caffi…wnes i archebu yn y Gymraeg :slight_smile:

2 Likes

Dw i’n mor gyffrous heno. Dan ni 'di penderfynnu i fynd i Gastell Carreg Cennen yn Llandeilo ddydd Sadwrn!! Mae’r ardal yn edrych gwych ar y we.

Beth ydy pawb yn mynd i wneud penwythnos 'ma?

Mae’n lle hyfryd. Dw i wedi nyddu yno dywaith dros y blynyddoedd.

Dw i’n gweithio nos Wener felly sa i’n gwybod beth i wneud dydd Sadwrn. Ond, bydd fy ngwr gatref heno ar ol mis felly bydda i’n hapus iawn i’e weld.

A dydd Llun bydd cyfweliad cyntaf fy mab erioed. Mae’n 25 heddiw. Dw i’n llawn o obaith, ac ofn a’r un pryd.

1 Like

Dw i’n darllen llyfr am bywyd Syr John Morris-Jones. Diddorol iawn. Dwi wedi brynu y llyfr am eBay oddi rhywun sy’n wedi dysgu Cymraeg efo SSiW!
Dwi cyntaf clywyd am Morris-Jones ar fy wyliau, ac oedd e un rheswm dwi wedi dechrau dysgu Cymraeg.
Dwi ddim yn meddwl bod e bydd licio fy gramadeg ofnadwy!

wel dwi’n teimlo’n falch.

Wnes i ddim siarad llawer o Gymraeg heddiw ond do’n i ddim yn teimlo’n nerfus o gwbl.

Oedd yn awyrgylch gwych yn bob man heddiw. O’n i’n darllen popeth yn y Gymraeg…ar y ffordd yno ac yn ôl. Ac o’n i’n gwrando ar radio cymru hefyd.

:slight_smile:

Da iawn! Mae’n dda fod ti’n gwneud cymaint!

Dwi’n gobeithio byddan ni’n gallu siarad lot o Gymraeg penwythnos 'ma. Roeddan ni’n siarad neithwr am waith, allwn i ddim yn deall cymaint. Roedd fy nghariad yn trio gofyn am bethau resbriadol yng Nghofal Critigol…i fod yn onest ges i ddim clem o gwbl. Felly, nes i just dechrau chwerthin…beth arall allwn i neud?! Roedd o’n wych i siarad cymaint…mae dal gen i ffordd hir

1 Like

Dw i’n hoffi dy gariad. Stim ots 'da hi os ti ddim yn deall. Ac ydy, bydd y ffordd hir ond un dydd byddet ti’n sylwyddoli dy fod ti’n deall mwy na hanner. Nawr, yw ti’n gwybod dy fod ti’n gallu dewis dy eiriau ond ti ddim yn gallu dewis y geiriau o’r ymateb. Ond, neb wedi dysgu sut i nofio heb fod yn y dŵr. Mwynhewch y dŵr!

1 Like

Mae hi’n dda, mae hi’n hapus i siarad a, fel arfer, dan ni’n gallu siarad a dw i’n deall mwy na hanner ond neithwr allwn i ddim dilyn y sgwrs. Roedd hi isio bach o gyngor, a felly ro’n i’n poeni am ddeall mwy na gwrando

wel ar hyn o bryd dwi’n eistedd yn Caffi Treferwyn. Wnes i archebu brecwast (yn y Gymraeg wrth gwrs).

Wythnos cymraeg! :slight_smile:

1 Like

Yw Castell Carreg Cennen yn ardal Gymraeg?