Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

Rwan dwi’n eistedd tu allan Llys Ynadon 1 yn Caernarfon!!!

Ond paid â phoeni!!! Dwi ddim ar brawf!

Es i feddyg llygaid heddiw ac nawr bydda i’n joyo un wythnos gatre. Dw i’n disgwyl ymlaen.

Cerddais i’r pwll nofio yn Rhydaman bore ma cyn i fi nofio am hanner awr. Nesa, cerddais i’r eglwys yn Nhŷ-croes ble, ar ôl y gwasanaeth byr roedd dathliad pen-blwydd 90ain un o’r aelodau. Naw milltir a hanner i gyd. Rhodd y ficer lifft i fi gytref ac wedyn, prynais tri llyfr trwy’r Kindle. Llyfr Aran, storiâu byrion Aran, a llyfr Leo Babatua sy’n disgrifio sut mae’n teithio heb ormod o stwff. Llyfrau cyntaf Kindle i fi.

2 Likes

Dw i’n meddwl am fynd i’r sesiwn “Sgwrs a Pheint” ym Mhenygroes, ger Caernarfon, heno. Cant a phymtheg (115) milltir o fy nghartref yn Bolton i Benygroes. Taith ddigon fer, tydy? Jyst rownd y cornel i mi ydy Penygroes.

2 Likes

Bob, dwi’n meddwl bo’ ti angen symyd i Gymru mor fuan â phosib!

Dw i wedi glanio mewn ysbyty ers y bore 'ma ac yn dal yn aros iddyn nhw benderfynu os oes pneumonia arna i. Mae menyw ar yr ochr arall wedi dechrau griddfan yn ofnadwy… amser dianc reli! Dim ond wedi gweld un nyrs gyda bathodyn Cymraeg ond doedd y sefyllfa ddim yn ddelfrydol am ymarfer! :wink:

Mae flin 'da fi i glywed dy fod ti’n sal. Ond, mae rhai nyrsys yn siarad Cymraeg heb fathodyn, Dim bathodyn 'da fi.

Ti ddim digwydd bod yn Llandough, @margaretnock? :slight_smile:

Newydd glywed bo fi’n cael mynd adref o’r diwedd - pan fydd rhywun wedi nôl yr antibiotics (gwrthfiotigau?) o rywle ochr arall yr ysbyty…

Brysia wella!

1 Like

Diolch! Teimlo’n well yn barod! Sdim byd fel treilio diwrnod mewn ysbyty i wneud i ti werthfawrogi bod yn sâl adref!

2 Likes

Nadw. Dw i’n byw a gweithio yn Sir Gar. Ond dw i’n falch i glywed dy fod ti’n well na disgwyliedig.

1 Like

Yikes - brysia wella!

1 Like

Wel, heddiw o’n i’n siarad efo rhywun am be’ i wneud nesaf.

Ysgol preifat ella. Neu rhywbeth arall. Bywyd hawdd? Efallai.

Ar y llaw arall, dwi’n dal i licio y syniad hwn. Symyd i Lanrwst neu Gwynedd. Rhaglennydd cyfrifiadurol? Rhan amser? Ella.

Does dim dwywaith amdani. Dwi angen ffeindio rhywbeth i wneud!

Mae ddrwg gen i i glywed dy fod ti’n sal, ond mae’n dda i glywed dy fod ti’n teimlo’n well nawr! Dw i’n gweithio yn Llandouchau. Llawer o siaradwyr yma!

1 Like

Brysia wella!

1 Like

Diolch pawb! Dw i’n teimlo’n llawer gwell nawr o fod adref, a bach yn gywilydd am yr holl ffys! Diolch byth am wrthfiotigau - ond druan am hanner tymor.

@pete Syniad hollol random a gwallgof os ti’n ystyried popeth… Oedd y parafeddygon y bore 'ma yn siarad am gymaint maen nhw’n joio eu gwaith a pha mor dda yw hwn fel ail yrfa. (‘Dim byd i bobl ifanc heb brofiad bywyd!’) Dyna rhywbeth hollol wahanol ble ti’n gallu defnyddio’r Gymraeg hefyd yn yr ardal iawn!
(Gei di anwybyddi fi yn llwyr!)

2 Likes

Mae hynny’n diddorol iawn!! Ond…hen? Fi? Wyt ti angen sbectol newydd? :wink:

Ta waeth, diolch. Dwi’n licio y syniad a gobeithio bod ti’n teimlo’n well yn fuan :slight_smile:

1 Like

Dy eiriau di dim fy ngeiriau i… o’n i jyst yn awgrymu ‘profiadol’! :slight_smile:

1 Like

Mae’n ddrwg gen i…barddoniaeth eto…

Eleni, Cymraeg, wnes i ddechrau dysgu,
Fel arfer pob dydd, a pan o’n i’n cysgu.
Dwi’n sgwennu barddoniaeth,
Weithiau yn yr iaith,
Ddylwn i ddweud llefrith?
Ddylwn i ddweud llaeth?
Pan o’n i’n blentyn,
O’n i’n byw yn y de,
Rwan y gogledd,
Y geiriau? Be’?
Gallu neu medru,
Dwi ddim yn siwr,
ond mae’r iaith yn bwysicach,
Dyna clir, fel y dwr.

3 Likes

Rwan hyn, dwi’n cael brecwast traddodiadol yn y dafarn ac dwi 'di bod yn sgwennu yn Cymraeg am sut dwi 'di ffeindio dysgu’r iaith.

Dim ond dau tudalen hyd yn hyn. Ond rhywbeth gwahanol heddiw. Dwi’n gobeithio fod o’n helpu.