Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

I ddechrau, mae rhaid i ddiffinio (define) rhuglder. Pan dyn ni’n gwybod, efallai, byddwn ni’n gwybod pan dyn ni wedi cyrraedd. I ormod, mae rhuglder yn fel pen yr enfys, like the rainbow’s end, ever elusive, evet somewhere over there, never here, never now. Ti’n gallu penderfynu dy fod ti’n rhugl nawr, gyda iaith digon dda, nawr. Paid â chymysg rhugl a pherffaith. Don’t mix fluent and perfect. Ond ydy, mae’n taith hir. But yes, it’s a long journey.

4 Likes

Siŵr o fod, wrth gwrs. Ond dwi’n dal i fwynhau’r taith.

Does dim angen gwneud unrhyw beth arall. Dim ond ymarfer, siarad, darllen ac yn y blaen.

Wel efallai y lefel newydd yn fuan :slight_smile:

1 Like

Dw i ddim yn teimlo rhugl oherwydd nad ydw i’n teimlo digon hyderus i ddefnyddio fy nghymraeg yn gwaith.

Ond…ti wedi gwneud yn dda iawn a hefyd, ti’n medru siarad yr iaith efo pawb.

Felly, ti wedi gwneud yn arbennig o dda. Siaradwr wyt ti. A hefyd, ti’n digon rhugl.

1 Like

Diolch Pete, ro’n i’n dweud bod gen i syniad o beth dwi’n golygu gan ‘rhugl’

Yn union.ti’n gwybod bod dy gymraeg yn gwych yn barod. Da iawn i ti.

Dw i wedi cael y fraint , ers dydd Gwener diwetha, i gwrdd â theulu newydd gyrraedd o Syria, teirgwaith.
Does dim llawer o Saesneg gyda nhw, ond mwy Saesneg na fy Arabeg. Maen nhw’n yma ar y cynllun llywodraeth San Steffan i dderbyn 20,000 teuluoedd o’r gwersylloedd yn y Canol Dwyrain yn ystod y pum mlynedd nesa. Yn ôl y ffigurau does dim rhaid i Sir Gar i dderbyn mwy nag ugain o deuluoedd ond dw i’n mwyn llongyfarch pwy bynnag wedi awgrymu i’r cyngor i dderbyn chwedeg, ac i’r cyngor sy wedi derbyn y syniad yn unfrydol. Mae’r teulu mor neis, mor garedig, mor awyddus i ddysgu Saesneg, i weithio.
Daethon nhw i fy nhŷ heddiw i ddefnyddio’r ein Wi Fi i siarad â theulu yn Iraq ac yr Almaen. Bwyton nhw fwyd coginiwyd gan fy ngŵr a phan es i â nhw gartre roedd rhaid i fi dderbyn bwyd wedi eu coginio gan fam y teulu. Gyda dim byd, maen nhw’n rhoi o’u calonnau.

9 Likes

Da iawn ti (a chi). Mae’n rhaid i nhw ffeindio y sefyllfa yng nghymru efo ddwy ieithoedd tipyn bach cymhleth.

Wel, heddiw dwi wedi bod i’r siopau unwaith eto! Pam? Wel wnes i anghofio’r blawd pasta ddoe, a heddiw o’n i isio gwneud pasta ffres, tortellini, a dwi wedi ffeindio bod blawd pasta yn well na blawd bara.

Ta waeth, wnes i fo efo fy mheiriant pasta a llawer o amser. Rwan hyn, dwi’n coginio’r saws.

Pwy sydd isio dod am cinio?

1 Like

Siaradais i gyda thad claf heddiw! Nawr, dwi wedi dweud wrth rhieni mod i’n siarad Cymraeg ond dwi’n newid nôl i Saesneg yn gyflym. Heddiw, gaethon ni sgwrs hir am Gymraeg a Chaerdydd. Gobeithio bydda i’n medru gwneud y holl apwyntiad yn Gymraeg. Dwi’n meddwl mod i’n gwybod digon o Gymraeg i siarad am bethau ffisio. Ond dwi dal yn poeni mwy yn y sefyllfa proffesiynol.

Felly, bydd 2017 y flwyddyn Cymraeg yn gwaith!

2 Likes

Beth am ysgrifennu dy gofnodi?

Ond, dw i wedi clywed am seiciatrydd a oedd yn sgrifennu dwywaith, yn Saesneg a Chymraeg, pan roedd rhaid ido fe ‘section’ pobl.

Dyn ni’n defnyddio rhaglen ar lein ar gyfer ein cofnodi ni, ar hyn o bryd dw i’m yn gwybod un rhwyun sy’n ysgrifrennu yn Gymraeg. Mae fy ffrind i yn defnyddio ei Chymraeg hi gyda llawer o gleifion ond mae hi’n teimlo fel mae rhaid iddi ysgrifennu ei chofnodi yn saesneg.

Ond, efallai na i ei ddrio fe pryd mae gen i ddigon o amser i eu hysgrifennu nhw dwywaith.

Neithiwr, gwyliais i raglen ar Gwylio S4C am T Llew Jones heb isdeitlau. Nawr, dw i’n meddwl y o’n i’n deallt ond roedd 'na’n darn ar y diwedd am fenyw pwy yw perthnasu i T Llew Jones, ond dw i ddim yn siwr sut. Dw i’n meddwl ei bod hi’n ei nith e. Ydy un rhywun arall wedi ei weld e?

Naddo, sori - ond da iawn am ddallt gweddill y rhaglen! :star2:

1 Like

Wel ar hyn o bryd dwi’n paratoi popeth…y bore 'ma wnes i gasglu y bwyd o Morrison’s, a wedyn wnes i ddechrau gwneud y bwrdd.

Ac wrth cwrs, dwi wedi rhoi potel o champagne yn y oergell :slight_smile:

2 Likes

Dw i’n newydd wedi bod i gwasanaethau nadolig yn Cymraeg. Roedd yn mor hyfryd a wnes i deall llawer a does dim deall llawer hefyd. Mwynhais i canu yn Cymraeg a sgwrs efo’r ficer yn Cymraeg hefyd.
Nadolig llawen i chi gyd!

4 Likes

Y Daith Fawr

Dw i wedi newydd brynu fy nhocyn cyntaf ar gyfer fy nhaith fawr i Asia. Felly, nawr, mae rhaid i fi fynd! Mae rhaid i fi orffen siarad amdano fe a dechrau gwario arian difrifol! Roedd cynnig gan Eurostar os prynais docyn cyn diwedd heddiw. Ar ôl tipyn o drafferth gyda thechnoleg (cyfrifiadur, argraffwr a thaliad ar lein) rydyn ni bod yn llwyddiannus a nawr bydd fy nhocyn cyntaf yn mynd â fi o Lundain i Ferlin, trwy Brussels a Cologne ar 4ydd Mawrth. Bydd fy ngham nesa i brynu tocyn i Warsaw.

Llun ar fy mlog. www.bywyd.cymru

5 Likes

Scrabble yn Gymraeg. Yn wir? Dwi ddim yn dda iawn o gwbl!

2 Likes

Yay! Twll is one of the words that during those years, back in the day, when Welsh & Wales for reasons various slipped down the list of things that were important to me I never ever let go. The h word was just too feeble.

2 Likes

Dwi’n mynd I Newcastle o Abertawe trwy Bowys a Wrecsam ar y ffordd. Dwi’n gobeithio i gwrdd â rhai siaradwyr Cymraeg, ond dwy’n meddwl bydd eu bod i gyd yn abertawe yn gwylio’r rygbi: Ospreys erbyn Scarlets!