Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

Wel oedd hynny’n neis iawn. A hefyd o’n i’n medru dweud rhywbeth newydd wrth y peiriannydd… y gair “peiriannydd” :slight_smile:

Ydy popeth yn gweithio nawr?

Ydy! :slight_smile:

1 Like

Wel rwan dwi wedi cael llond bol. Y bore 'ma, es i i Lerpwl er mwyn ymweld â’r meddyg yn iechyd galwedigaethol.

Dwi’n gwybod bo’ fi’n medru gweithio yn barod.

Ond ar ôl pum mis, dwi’n teimlo y ddylwn i ymddiswyddo.

Penwythnos nesaf af i i gyfarfod rhywun er mwyn trafod dechrau busnes. Dwi’n licio dysgu cymraeg ond dwi’n angen rhywbeth i wneud. Efallai, bwtcamp arall :wink:

Dw i wedi bod yn brysur ers dechrau o’r mis, ond brysur da. Dan ni’n dysgwyl i symud erbyn y dechrau o fis Chwefror. Felly, caethon ni lawer o bethau i drefnu. A hefyd, dwi wedi bod ar alw pedair tro yn barod! Fel arfer, dan ni ar alw unwaith yn neg diwrnod.

Erbyn nawr, dwi wedi mynd i un ddosbarth yn unig (1 o 4). Ar hyn o bryd, dw i ddim yn siwr faint dw i isio mynd i’r dosbarthau. Dw i’n mwynhau dysgu Cymraeg ond dw i’m yn siwr os dw i isio mynd i bedair awr o ddosbarthau’r wythnos i ddysgu pethau fel -wyd, -ir, -id.

Ydy un rhywun arall wedi gorffen lefel uwch? Naethoch chi ffeindio’r cynnwys defnyddiol?

1 Like

Teimlo’n falch rwan…

3 Likes

Mae gen i glaf o deulu Cymraeg. Heddiw, nes i gyfarfod â fo a’i dad o am yr ail dro. Mae ei dad o yn gwybod fy mod i’n dysgu Cymraeg oherwydd gaethon ni sgwrs (yn Gymraeg) y tro diwedda’. Heddiw, dechraodd ei dad o yn Gymraeg. Felly, naethon ni’r apwyntiad drwy’r Gymraeg!! wel, tua phedair-deg o gant, oherwydd fy mod i dal angen newid i Saesneg gyda’r pethau technegol. Roedd o’n gwych i siarad â nhw yn eu hiaith nhw, a nawr, dwi’n teimlo fel nawn ni siarad yn Gymraeg bob tro!!

Nes i ffeindio’r profiad yn ddiddorol iawn, a dwi’n teimlo’n fy mod i’n deallt sut mae’r rhieni di-Saesneg yn teimlo pan maen nhw’n defnyddio’r GIG. Mae gen i “safety blanket” pan dwi’n trio defnyddio fy ail iaith oherwydd fy mod i’n gwybod y galla i newid nol i Saesneg, ond dyna llawer o fy nghleifion sydd ddim yn newid, mae rhaid iddyn nhw gario 'mlaen. Ro’n i’n teimlo’n wrth fy modd ar ôl ein apwyntiad ni, ond mae rhaid iddo fod yn anodd iawn ac mae rhaid iddyn nhw deimlo mor anghyfforddus, pryd arbennig dda maen nhw’n poeni am eu plentyn nhw!

4 Likes

Newydd gyraedd, ugain munud yn gynnar, am fy nosbarth Cymraeg ar ôl wythnos llenwi ffurflennau, ffonio’r asiantaeth, talu arian enfawr, anfon passbort a dogfenni a phoeni am bopeth. Sa i’n wedi talu cymaint mewn wythnos o blaen. Tocynnau trên, gweliau hostel ac Airbnb, cofrestru ffug i hedfan o China i Thailand. A, bob dydd, teimlad o bryder. Gobeithio bydd y bryder yn mynd a bydd y cyffro yn dod.

1 Like

Siwr o.fod Margaret. Profiad arbennig, dwi’n meddwl.

Liciwn i gael y cyfle yn y dyfodol!

Dwi’n gobeithio y bydd gen ti gyfle i rhoi lluniau ar y fforwm hefyd. Dwi’n edrych ymlaen at weld nhw.

1 Like

Ar hyn o bryd dwi’n gweithio. Dwi’n paentio ffrog werdd. Mae’n rhan llun mawr. Rhaid i mi orffen Dydd Iau nesa.

3 Likes

Anhygoel!

Dwi isio i ti llunio llun o mini bwtcamp!!!

1 Like

O’n i’n gwylio Ward Plant heno gyda Mr Philip Moore sy’n gweithio yn Ysbyty Gwynedd. Mae o’n dysgu Cymraeg ers 5 mlynedd nawr. Dwi’m yn golygu i fod yn amparchus o gwbwl ond Dwi’n meddwl bod 'na llawer o bobl yn y fforwm 'ma sydd wedi bod yn dysgu am lai amser gyda Chymraeg gwell. Dwi’n meddwl bod 'na’r wahaniaeth erbyn y patrwm prifysgol a’r SSiW.

3 Likes

Wel dwi’n teimlo’n cyffrous rwan. Pam? Wel af i i Feddgelert yn nes ymlaen, a hefyd ar ôl trio y heriau newydd, dwi wedi sylweddoli bo’ fy Gymraeg yn iawn.

Dwi’n licio’r heriau newydd, ond i fod yn onest, rhaid i mi gyfaddef wnes i ffeindio nhw’n hawdd, ond dim rhy hawdd! Ond dwi’n gobeithio fydd y gwersi nesaf ddim yn rhy anodd!

Mae’n anodd credu fod llynedd, do’n i ddim yn medru siarad Cymraeg. Cwrs arbennig ydy SSIW, dwi’n siwr fod pawb yn cytuno efo fi.

Dwi’n edrych ymlaen at ymarfer fy Gymraeg dros y penwythnos a gwneud gwersi newydd yn y dyfodol.

2 Likes

Pryd wyt ti’n mynd i Feddgelert? Dwi’n hoffi’r pentre’ 'na! Oeddan ni’n yna haf diwedda. Mae’n ardal yn brydferth

3 Likes

Heno!

Wel neithiwr oedd yn neis iawn i siarad cymraeg. Oedd pawb yn synnu i glywed bo’ fi wedi dysgu cymraeg am tua wyth mis ac unwaith eto wnes i awgrymu SSIW pan o’n i’n siarad efo dysgwr arall.

2 Likes

Dwi wedi bod yn gwrando ar “Hanes Yr Iaith” ar Radio Cymru ac wi’n wrth fy modd gyda’r rhaglen hon - lot o bethau diddorol am eiriau ac idiomau. Wi’n cael lot o ddiddordeb mewn etymoleg a hanes ac o’n i wastad yn moyn dod o hyd i rhywbeth fel “podcast” am eiriau Gymreig. Un unig problem gyda’r rhaglen hon yw bod ddim 'na digon o bennodau! Oes 'na unrhywbeth arall debyg (am hanes neu hanes yr iaith) a galla i wylio yn Belarus, tybed?

2 Likes

Dw i’n dathlu fy llwyddiant yn prynu tocyn ar gyfer y Parti SSiW yng Nghaernarfon ym mis Ebrill. Dw i’n edrych ymlaen at weld pawb arall sy’n mynd i fod yno. :smile: :smile:

1 Like

A fi hefyd… :slight_smile:

1 Like

Wel rhywbeth lyfli heddiw.

Yn wetherspoons…oedd gen i ddigon o hyder i siarad Cymraeg efo’r rheolwr.

Dim ond ychydig o frawddeg, ond oedd yn neis iawn i siarad efo fo. Dwi’n gwenu rwan!

2 Likes