Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

Pwy mae pwy wrth y bwrdd yn y llun uchod @Pete2?

1 Like

O’r chwith…
@Richmountart, gwraig @raymondkefford, @BronwenLewis, @adrianbotwright, @raymondkefford

1 Like

Dw’i n meddwl dim ond unig @raymondkefford!

Haha. Ei wraig o!!!

Na! Gwraig a @BronwenLewis! A te? Adrian a Raymond neu Raymond ac Adrian?

Mae’r llun o’r Jenga yn disgwl fel troi neu ‘twisted’, neu jest fi? Dwi ddim yn siŵr! Dwi ddim yn chwarae Jenga mewn amser hir!

O, dwi newydd ddechrau her undeg un, ond y heriau yn anodd iawn nawr :frowning: A bod yn onest, dwi’n teimlo i lawr amdani ond dal trio yn galed… wel yn galetach!

Wel newyddion.

Mae gen i swydd newydd. wel tan yr haf. Bydd yn neis iawn i fod mewn ystafell dosbarth eto. Dwi ddim wedi bod mewn ystafell dosbarth ers haf diwetha! Ond yn y cyfamser dwi wedi cael y cyfle i ddysgu cymraeg.

Ond heddiw dwi wedi blino’n lan. Pam? Wel, dweud y gwir, ddoe wnes i drio gwneud llawer o Gymraeg…efallai chwe awr ond neithiwr do’n i ddim yn medru cysgu! Gwaetha’r modd, dwi’n mynd allan heno. Wel, dwi’n edrych ymlaen ato i fod yn onest. Dwi angen dechrau yfed llawer o gaffein!

4 Likes

Hapus iawn i glywed dy newyddion @Pete2

Ar hyn o bryd dw i’n eistedd mewn fflat yn Beijing le bydda i’n aros am y trydydd nos heno cyn i fi fynd i Wuhan yfory.

Ddoe es i i’r amgueddfa menwod a phlant Tsieniadd a oedd bron yn wag er gwaetha’r adeilad gwich. Heddiw i’r Teml Lama. Dw i’n eitha hyderus am ddefnyddio’r metro ond llai hyderus am fwyta mas. Stim ots, dylwn i fwyta llai.

Yfory bydda i’n ar drên gyflym, 300 cm yr awr, i Wuhan lle mae fy mrawd a’i wraig yn byw. Bydd llai o bryder 'da fi am wythnos cyn fy nhaith nesa, wythnos nesa.

5 Likes

Amlosgfa @margaretnock , dwi’n siwr, dweud y gwir!

Yn wir? Pa mor hir fyddi di’n teithio? :wink:

Yn Thailand maen nhw’n cadw eu amlosgfeydd yn eu temlau a, siwr o fod, bydd rhai amgueddfeydd ynddyn nhw hefyd!

1 Like

Wel mae dy deithiau di’n swnio’n ddiddorol iawn. Cenfigennus? Wrth gwrs!

cilometr = kilometer

Dwi’n deallt rwan! Camgymeriad arall, fel arfer!

Mae’n wych i glywed dy newyddion @Pete2. @margaret dwi newydd orffen gwylio’r rhaglen “Wild China”. Oedd e’n ardderchog! Mae’n gwlad wahanol iawn! Mae’n anodd i gredu bod pobl yn byw yn ffyrdd mor wahanol dros yr un gwlad

1 Like

Mae’r wlad yn enfawr! Mae’r awdurdodau yn trio rheoli popeth a phawb ond mae’n amhosib i wneud popeth. A gyda chymaint o bobl, beth bynnag yr awdurdodau yn moyn, bydd pobl dewr yn herio’r “status quo” ar gyfer yr amgylchedd. Dydyn nhw ddim yn gallu darllen bob meddwl, hyd yn oed heb Facebook ac Youtube.

2 Likes

Ac mae’n ryfeddol bod gan yr wlad ddinasoedd modern a thecnoleg ffarmio traddodiadol.

Ges i fy ngwers canu cyntaf heno. Oedd e’n wych!! Mae’r athrowes (doedd y dyn ddim yn gallu fy nysgu i) yn gyfeillgar iawn! Mae hi’n gweithio fel cantores opera. Na i recordio fy hun yn fuan. Naeth hi fy recordio i heno ar gyfer gwneud cymhariaeth mewn cwpwl o wythnosau.

5 Likes

Rwan hyn, dwi’n gwenu.

Pam? wel dwi ddim yn mynd i ddweud dim byd.

Ond wnes i fwynhau heno. :slight_smile:

Pwy sydd yr un lwcus? :slight_smile:

Wel diwrnod hir heddiw.

Dwi wedi bod yn Llundain er mwyn gweld fy mam naturiol.

Yn anffodus, mae hi’n sal iawn iawn a felly mae hi’n mewn ysbyty. Wnaeth y offeiriad ymweld ata hi heddiw. Oedd yn anodd. Dwi’n gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd ond dweud y gwir, fydd hi ddim yn poen.

Dwi wedi cyfarfod cyfnitherod newydd ac yn y blaen.

Pam ydw i’n ysgrifennu hwn? Wn i ddim. Efallai dwi angen ysgrifennu rhywbeth er mwyn teimlo’n iawn.

Ond dwi’n gwybod bod hi’n mynd rhywle’n well.