Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

Un??? Ges i dim ond un???

Wel, (tynnu allan o’r awyr) : Trysor gan Yr Eira. Pam? Achos mae’n “riff” yn y pennill bod jyst “blows my mind” :wink: Mae’n gneud i mi wenu pob tro.

2 Likes

Wel, mae’n ddiddorol dy fod ti’n dweud hynna. Do’n i ddim yn meddwl y galla i ganu chwaith cyn imi fynd ar bwtcamp. Ar ôl yr wythnos 'ma dechrais i feddwl “efallai dylwn i ffeindio mas”. Felly, nawr dwi’n cael gwersi canu!

Cwestiwn anodd wir! Wyt ti (neu chi i gyd) yn clywed “Cariad Pur” gan Catrin Hopkins? https://soundcloud.com/can-i-gymru-2015/cariad-pur-catrin-hopkins

Cân hyfryd!

1 Like

Ohhhh dewis da!!

Yr cân mod i’n hoffi canu y mwyaf yn y car (cwestiwn arall efallai?) yw “Un Funud Fach” gan Bryn Fôn

1 Like

Dwi wedi newid fy newis ar gyfer rhif 2. Dwi’n gwylio “Selma” ar hyn y bryd. Mae’n ffilm am y dref yn Alabama a Martin Luther King. Alla i ddim dechrau dychmygu beth oedden nhw’n wynebu. Felly, hoffwn i siarad â Dr King a gofyn am bobeth iddo fe.

O’n i’n wrth fy modd pan ges i dawnsio i cyngerdd Calon yn Gaerdydd heno. Wnes i deall tipyn o ‘banter’ llwyfan a dysgu geiriau newydd, ‘diwylliant’ [culture]. Ond fy nhawnsio ddim yn ddigon da i enill y gwobr am y dawnswyr gorau o caws defaid :O(

1 Like

Diolch i ti am hyn! O’n i byth wedi clywed y gân 'na. Dw i’n ei hoffi hi yn fawr iawn!

O’n i byth wedi clywed y gân 'na, chwaith, a dw i’n ei hoffi hi hefyd. Bydda i’n gwrando ar fwy o ganeuon gan Yr Eira.

Dw i’n hoffi Sŵnami ac Yws Gwynedd… Sa i’n deall y geiriau i gyd, ond mae “Sebona Fi” yn gwneud i fi wenu!

(Dw i’n siŵr mod i’n gwneud cangymeriadau…dw i’n moyn gwybod, os bydd unrhywun yn moyn gweud wrtha i! :slight_smile: )

Alla i ddim gweld un rhywbeth i’w newid, mae dy gymraeg di yn wych :smile:

Yr unig peth gallwn i ddweud yw gallet ti ddweud “tasai rhywun” yn lle o “os bydd”. Ond mae 'na’n rhywbeth bach iawn, a sa i’n credu bod “os bydd” yn anghywir! Felly, da iawn :smile:

1 Like

Anodd i ddewis! Dwi wedi bod yn gwrando ar bopeth gan Gwilym Bowen Rhys a dwi’n licio “Bugail Hafod-Y-Cwm” yn fawr iawn. Y fersiwn o’i albwm “O Groth Y Ddaear”. Mae rhaid i mi ei chanu pob tro dwi’n ei chlywed.

Ond rhaid i mi ddweud bo’ fi’n caru “Gethsemane” yn Gymraeg, canwyd gan Gwydion Rhys.

Mae’r perfformiad jyst mor dda…

(tro cyntaf yn postio yma, dwi bach yn nerfus! :blush:)

6 Likes

Da iawn @Novem a chroeso i’r parti :smile:

Dwi erioed wedi clywed Gwilym Bowen Rhys neu Gethsemane chwaith. Diolch yn fawr am eu rhannu nhw :smile:

Na i wrando arnyn nhw nes ymlaen.

1 Like

Am rhyw reswm, wnaeth hynna wneud i fi feddwl am y cerddor bach arbennig hwn, y welais i Nos Calan diwethaf…


Dw i ddim yn siŵr pwy yw e, a does dim llawer ar You Tube, ond mae’n werth ei wylio.

2 Likes

Roedd e arfer ennill popeth yn yr eisteddfodau yr Urdd! Sa i’n siwr pa oed yw e nawr, dwi’n meddwl eich bod chi’n gallu cystadlaethu tan chi’n 25. Felly, mae’n debyg bydd e’n ennill popeth am ychydig o flynyddoedd eto!

2 Likes

@AnthonyCusack Diolch yn fawr iawn! :slight_smile:

1 Like

Shwmae pawb!! Gobeithio’ch bod chi’n iawn!

#4 tasech chi’n gallu gweithio fel un rhywbeth (faswch chi ddim angen poeni am arian), beth baswch chi’n wneud?

(Dwi’n hapus i gael fy nghywiro :smile:)

Ges i dipyn o gyngor gyrfa (careers advice) amser maith yn ôl wrth y Brifysgol Agored. Ar ôl i fi ateb cant neu fwy o gwestiynau dweudon nhw roedd y swydd gorau i fi, gyda 81% boddhad, ffisiotherapydd. Yr ail oedd, gyda 78%, oedd nyrs. Fel ro’n i’n nyrs yn barod, dychwelais i i’r ward.

1 Like

Newydd weld beth mae’r plant yma yn dysgu. 44 llythyr yn yr egwyddor.

2 Likes

Fe faswn ni’n hapus i dy gael di :smile:

1 Like

Beth ydw i’n gwneud rwan? Brigdonni (surfing) ar y fforwm 'ma ! :smiley:

Dwi newydd wylio’r rhaglen Tudur Owen a’r Cwmni Seidr. Naeth grwp o bobl drio creu cwmni seidr yng Nghonwy. Ar y diwedd o’r rhaglen, dwedodd Tudur bod wythdeg o gant cwmniau newydd yn dod i ben yn y 18 mis cyntaf!

Yn meddwl am neithiwr, ymlacio ar ôl cerdded o gwmpas Llanberis ag yn aros i fwyta pryd o fwyd Tsieineaidd yn ein carafan.

2 Likes

Bydda i’n ateb dy neges testun pan ga i signal! Dydi o ddim yn digwydd yma yn aml…:wink:

1 Like