Beth Am y Lydaweg?

Blwyddyn newydd hapus i chi i gyd,
Sa i’n siwr iawn y byddai’r y fforwm yn y lle gorau imi gyhoeddi’r neges yma, pan dw i newydd gyflawni’r her eithaf, ag y bydd fy nhanysgrifiad i’n gorffen yfory. Ond yma dw i, felly… amdani!
Dw i’n fyfyriwr ar y Lydaweg ac yn treulio (tybed ai’r gair da yw’r un yma?) y flwyddyn academaidd 'ma yn Aberystwyth i ddysgu’r Gymraeg.
On i eisoes wedi dechrau dysgu’r iaith cyn imi gyrraedd yng Nghymru (on i’n ymarfer gydag “Allwedd i’r Gymareag”, llyfr dysgu Llydaweg gan Risiart Hincks) ac on i’n ddigon da i ddeilio gyda’r iaith wedi’i hysgrifennu. Ond cyn gynted a galles i, nes i newid llety i allu byw mewn lle mae’r Gymraeg yn cael wedi’i siarad gyda phawb. Ac yna yw y dechreuodd y problemau : wedyn dau fis imi aros ym Mhenbryn, don i ddim hyd yn oed yn gallu deall neu siarad yn dda’r iaith.
Mis o’r blaen, gwnaeth un o’m hathrawon (sef y bardd Eurig Salisbury os ^ych chi yn ei nabod fe) ddweud wrtha i drio ymarfer fy iaith siarad gyda SSi Welsh. A dyma fy, dw i wedi wella fy Nghybraeg mwyaf dros y mis diwethaf na byth o’r blaen (a chymaint hyn gan fy mod i wedi aros yn ôl y tair wythnos gwyliau Nadolig yn Llydaw)! Wrth gwrs, llawer sydd yn aros imi ddysgu, ond on i’n mwyn ymddangos ichi 'm diolchgarwch am eich gwaith gwych!
A tra bo fi wrthi, on i’n mwyn gwybod os hoffech chi greu SSin Breton? Ac os ^ych chi, os daethoch chi hyd yn oed o hyd y rhai fydd yn eich helpu chi i’w wneud ef?
Fe bydden hoffi hefyd greu rhywbeth tebyg i ddysgu’r Lydaweg o’r Ffrangeg, gydag arfer rhan o’ch dulliau.
A ddweud popeth yn fyr, y bydden i’n hoffi wybod os byddai’n bosibl gwneud cyfarfod gyda staff SSi i rannu am ein profiad dysgu ieithoedd ni.
Os ^ych chi’n mwyn fy atebi ar ôl yfory y bydd yn well, fallai, fy e-bostio i yn syth.
Dyma fy nghyfeiriad e-bost : alan.kersaudy@gmail.com

Da bo am y tro!

3 Likes

I’m tagging @aran.

3 Likes

S’mae Alan, a llongyfarchiadau ar safon dy Gymraeg!

Dan ni’n gobeithio creu cwrs Llydaweg - mae’n bosib mai blwyddyn nesaf bydd hi - mae rhai ffrindiau ar gael i helpu, ond mae’n bosib byddai’n dda iawn i ni gael mwy o help - felly bydda i’n falch iawn i siarad efo chdi pan byddwn ni’n agosach at ddechrau ar y gwaith… :slight_smile:

1 Like

Swmae Aran,
diolch ichi… er sa i’n hoffi’r llongyfarchiadau, pan maen nhw’n ein gwyro heibio 'n hamcanion :wink:
Bydd yn bleser imi 'ch helpu chi tra na fyddech chi ddim yn gofyn imi siarad Saesneg hahaha!
Pan dw i’n byw yn Aber eleni, a gwelais eich bod chi hefyd rywle yng Ngheredigion, on i’n meddwl y gallai fod yn syniad da ini gwrs, imi allu gweld hefyd sut ydych chi’n dysgu Cymraeg yn eich “gwersau dwys” (5 day intensive courses).
Does dim yr un gwleidyddiaeth iaith yn Llydaw ag yng Nghymru, a dw i’n siŵr na ellir ddim achub y Lydaweg heb yr un math o fusnes, mwy neu lai, wedi’i addasu ar gyfer y Ffrangegwyr…
A ddweud y gwir, dw i o’r blaen yn meddwl rhoi gwersau Llydaweg y blwyddyn nesaf ifi ddianc rhag y brifysgol, lle na dw i’n teimlo fel gwneud digon ar gyfer fy iaith. Dyna pam dw i mor brwdfrydig i wneud cyfarfod gyda chi! :sweat_smile:
Da bo

3 Likes

Dwi yng Nghaernarfon, digwydd bod - ac wedi hen arfer efo Llydawyr Cymraeg yn gwrthod siarad Saesneg! :joy:

2 Likes

Opala, Cymraeg Gog eto!:scream:
Paid wneud jôc! mae’n anodd iawn ini siarad ieithoedd heb ddiddordeb…
Felly, ydych chi’n meddwl y byddai yn bosib ini wneud cyfarfod rywbryd yn y chwech mis nesaf, imi ddeallt sut ych chi’n gweithio? Neu na fydd ddim amser efoch chi?
Beth bynnag, fy mhenblwydd i yw heddiw, so’n bosibl i chi wrthod!

2 Likes

Penblwydd hapus (hwyr!) i ti, Alan. Byddwn i’n hapus iawn i gael sgwrs - wyt ti’n debyg o fod yng Nghaernarfon rhyw dro? :slight_smile:

1 Like

Gwych !
Dyna esgus o’r gorau imi fynd ar dro yng ngogledd y Wlad. Hyd yn oed, doedd ddim syniad teithio i’r gogledd gyda fi ond mynd i Benmaenmawr gydag ychydig o ffrindiau! ond mae Caernarfon yn edrych yn dda hefyd!
Wel, dw i’n credu bod y neges yma’n fy un ddiwedda ar y fforwm cyn imi ddechrau nôl dysgu’r Sbaeneg…
Dyna eto fy nghyfeiriad e-bost, gadwch imi wybod pryd gallaf fynd i’ch gweld chi yng Ngaernarfon : alan.kersaudy@gmail.com
A diolch yn fawr, un waeth arall, am eich gwaith gwych chi!

2 Likes

Hag a yllyn ni kavos moy dyskansow Kernewek y’n Bledhen Nowydh ma ynwedh, mar pleg?? :slightly_smiling_face:

1 Like

I hear there are recordings pretty close to being ready… :slight_smile:

2 Likes

Thanks, Aran, although that’s just what everyone’s been saying for several years now… :frowning: However, I’ll be at the annual Cornish Language Weekend just before Easter — Pol Hodge is always there, so I’ll see if he knows anything more about SSiCornish. (He has been involved with a lot of other Cornish language products in the last few years, I’m aware, including courses on Memrise.)

1 Like

Just been told by Ifan that the only bits missing are a few intros/outros, so really shouldn’t be long now :slight_smile:

3 Likes

:grinning: :grinning: :grinning:

3 Likes