EISTEDDFOD ENTRIES 2018 - Book Review - Post Beginner

A short book review, up to a maximum of 500 words, written in Welsh, for learners that are enjoying reading in Welsh and would like to share a favourite book with others.

1 Like

Yr Ynys - Lleucu Roberts gan I Fod Yn Onast

Mi wnaethon nhw goroesi mewn ogofau

Mae Yr Ynys gan Lleucu Roberts, fel Efa gan Bethan Gwanas, yn nofel gyntaf mewn trioleg ar gyfer arddegau wedi ei lleoli mewn byd ôl-apocalyptig. Yn wahanol i Efa, mae hi wedi cael ei ysgrifennu ar gyfer darllenwyr tipyn hŷn. (Mae ail lyfr y drioleg wedi ei gyhoeddi’r mis hwn, ond yn anffodus dydy o ddim ar gael fel e-lyfr ar hyn o bryd.)

Arwres Yr Ynys ydy Gwawr, merch yn ei hardeggau sy’n byw ar ynys yn yr Arctig lle wnaeth ei hynafiaid – grwp bach o wyddonwyr Cymraeg a Norweaidd – oroesi rhyfel niwclear a ddileuodd gweddill y byd. Mae Gwawr yn ddeallus, dewr, a phenderfynol (er bod hi hefyd yn fyrbwyll a difeddwl weithiau – sef, dim yn rhy berffaith). Yn y llyfr cyntaf dan ni’w dilyn hi ar taith efo ei chymdeithion yn ôl i’r “hen wlad” – i Gymru: ar diwedd y llyfr maen nhw’n cyrraedd Aberystwyth, a darganfod rhywbeth doedden nhw ddim yn ei ddisgwyl.

Ddidwn i bod Lleucu Roberts wedi mwynhau chwarae tipyn bach efo beth dan ni’n disgwyl am y fath llenyddol: diolch i ffilmiau fel The Day After Tomorrow neu hyd yn oed Daleks’ Invasion Earth dan i wedi arfer gweld Efrog Newydd ôl-apocalyptig, neu Llundain – felly, pam lai Aberystwyth? A sut fyddai Gwawr yn deall beth oedd pwrpas y petryalau bach “gyda llun afal a rhywun wedi cnoi hansh ohono.”

Yn ei nofelau Prism a Pluen mae Manon Stefan Ros yn dewis ysgrifennu y peth cyfan fel hanes person cyntaf, a felly mae’r dau lyfr wedi ei ysgrifennu’n hollol mewn Cymraeg ar lafar. Yn y llyfr hwn dydy Lleucu Roberts ddim yn gwneud yr un peth: mae hi’n siarad am Gwawr ac y lleill yn y trydydd person, a felly mae na wahaniaeth eitha’ fawr rhwng iaith y cymeriadau ac iaith yr awdures. Mae cymeriadau’r hanes yn siarad, wel, fel mae pobl yn siarad – er bod nhw’n siarad tafodiaith tipyn mwy hwntw na be’ dw i 'di dysgu, dydy o ddim yn anodd i’w ddeall o gwbl. Ond mae iaith yr adroddwr yn dipyn gwahanol, tipyn bach mwy ffurfiol. Dydan ni ddim yn siarad am y Beibl William Morgan, ond mae hi’n defnyddio pethau fel ‘teimlai’ (yn hytrach nag ‘oedd hi’n teimlo’, sef ffurf ber heb ragenw), a berfau a adroddiadau sy’n gorffen efo ‘-ynt’, ayyb. Ar y llaw arall, dydy hi ddim yn defnyddio llawer o eiriau anodd: os dwyt ti ddim yn nabod y geiriau ‘ogof’ neu ‘goroesi’ cyn darllen y llyfr hwn, byddi di’n eu nabod nhw’n fuan; a bydd ffrasau fel ‘ynfytyn ffasgaidd’, y mae hi’n dweud am y rhyfel niwclear, yn ddefnyddiol iawn os ti eisiau siarad am wleidyddiaeth cyfoesol. (Er bod ti angen ei newid yn ‘ynfyten’, os ti eisiau siarad am Katie Hopkins.)

Efo ei chymysg o iaith ar lafar ac iaith lenyddol, dw i’n meddwl bod y llyfr hwn yn eitha hawdd i ddarllenwyr uwch, ond dim yn rhy anodd i ddarllenwyr canolradd. Mae’r hanes a chymeriadau yn ddiddorol: mwynhauais i fo’n fawr iawn, a dw i’n edrych ymlaen i ddarllen y llyfr nesaf.

Cyffesion Saesnes yng Nghymru gan Saesnes Siriol

Mae Sarah Reynolds wedi ysgrifennu ei hail nofel a chaeth e ei gyhoeddi eleni. Gaeth y gyntaf, Dysgu Byw, ei gyhoeddi yn 2016, cyn iddi hi gyrraedd rownd derfynol Dysgwyr y Flwyddyn. Phrynais fy nghopi’r ail lyfr yn y Sioe Frenhinol. Mae’r cwmni cyhoeddi, Atebol, wedi rhyddhau cyfres o lyfrau am ddysgwyr, pob un gyda lliw ar y cefn i nodi’r lefel y llyfr. Mae coch yn uwch, uwch yn goch.

Yn y stori mae Katie yn cwrdd a phriodi’r dyn o’i breuddwydion mewn mis. Rydyn ni’n ei dilyn hi’n dod 'nôl i fywyd go iawn. Fel hap a damwain mae hi’n byw gyda’i theulu newydd i gyd, ac nid dim ond gyda Dafydd, a phob un ohonyn nhw yn siarad Cymraeg. Ar ôl ddechrau’n lletchwith iawn, mae hi’n dod aelod gwerthfawr y teulu a’i chymuned, yn derbyn cyfrinachau ei theulu newydd, ac yn datrys, gyda’i sgiliau blaenorol, rhai o’u problemau.

Yn ystod y stori rydyn ni’n darllen bod Katie’n dysgu Cymraeg, ond, fel dysgwr, i fi, does dim digon o sylw at sut oedd hi’n gwneud hon/hwn. Mae’r iaith Katie yn defnyddio yn naturiol iawn, a dw i’n teimlo bo hi wedi dysgu’r mwyafrif o’i theulu yn Sir Gar a dim lot o wersi traddodiadol. O gymorth i ddysgwyr yw rhestrau bach o eiriau ar y gwaelod y tudalennau, ac ar y cefn y llyfr yw’r geiriau i gyd. Wnes i ddim eu defnyddio nhw, maen nhw’n torri ar draws fy narllen, a wnes i ddeall tua 90%. Dw i’n gwneud llawer o ddarllen yn y bath a gorffennais y can tudalen Cyffesion mewn tua thair awr.

Mae Sarah Reynolds yn ysgrifennu yn ysgafn ac yn ddoniol iawn. Dw i’n gwybod bo hi a’i phrif gymeriad yn rhannu rhai elfennau yn eu bywydau., ac mae’n anodd anwybyddu manylion hunangofiannol. Felly dw i’n deall yn hollol pam mae hi’n defnyddion ffug enwau, er mwyn amddiffyn y diniwed a’r euog! Mae Cymru yn fyd bach ac mae pawb yn nabod pawb!

Gallai ‘Cyffesion Saesnes yng Nghymru’ bod amdana i. Dw i wedi gwneud bron pob camgymeriad yn y llyfr – wedi dod i Gymru heb ddeall am ei iaith – heb wybod dim byd am ei hanes neu ei bobl.

Byddwn i argymell y llyfr hwn at bawb sy wedi cyrraedd lefel canolradd neu uwch ac sy’n moyn llyfr sefydlwyd mewn byd adnabyddadwy. Does dim ofn, dim dagrau, a nawr ac yn y man, mae’n rhaid chwerthin un uchel.

1 Like

Vote here

  • Yr Ynys - Lleucu Roberts - gan I Fod Yn Onast
  • Cyffesion Saesnes yng Nghymru - gan Saesnes Siriol
  • No award

0 voters