patrickjemmer

patrickjemmer

Rwy'n dysgu'r Gymraeg ers chwe blynedd erbyn hyn; enillais i wobr o'r enw "Tlws Rhyddiaith i Ddysgwyr" yn yr Eisteddfod Genedlaethol gwpl o flynyddoedd yn ôl. Rwy'n hunangyflogedig ac yn gweithio fel tiwtor preifat yn Abertawe o ble rwy'n dod yn wreiddiol, er fy mod yn gweithio yn Newcastle fel darlithydd mewn mathemateg am ddeuddeng mlynedd cyn hyn. Licwn i ennill peth o arian trwy helpu'r rhai sy'n dysgu Cymraeg, trwy brawfddarllen, a thrwy gyfieithu o hyn ymlaen. Y llynedd, nes i ennill Rhagoriaeth yn yr arholiad o'r enw "Tystysgrif Lefel Uwch mewn Cymraeg Ail Iaith: Defnyddio'r Iaith." Rwy newydd orffen y cwrs o'r enw "Graenus Ar-lein" wedi'i ddarparu gan Brifysgol Abertawe, ac rwy'n mynychu Ysgol Basg Lefel Hyfedredd eleni (2018). Ar hyn o bryd rwy'n ysgrifennu llawer o erthyglau dwyieithog ar gyfer y wefan ddwyieithog "Parallel.Cymru" ac yn cyfieithu erthyglau a ysgrifennwyd gan bobl eraill hefyd. Fe fyddwn i'n dwlu ar glywed oddi wrthoch chi er mwyn dysgu, astudio, neu rannu'r profiad o ysgrifennu rhyddiaith neu farddoniaeth yn y Gymraeg. Ta be, diolch yn fawr am ddarllen hyd yn hyn. HWYL FAWR! Patrick.