Yn trio gwneud rhestr o beth dan ni angen gwneud er mwyn symud tŷ yr wythnos hon…
Dwn i’m - dydd Gwener neu ddydd Sadwrn, efallai - isio bod efo amser i anadlu cyn i’r plantos gychwyn ar y dydd Llun…
[Ew, mae’n gas gen i pan mae pobl yn dileu sylwadau!].
Mae’n wir ddrwg gen i Aran, camgymeriad oedd o.
Roedd fy nghwestiwn … “Pryd bydd yr achlysur mawr yn digwydd yn union?”
Mwnci barfog gwirion…
Felly, mae gynnoch chi’r agoriadau er mwyn paratoi ar gyfer y symudiad(?)
Oes wir…
[Fel ddudodd Catrin - paid gadael iddi wybod bo ti ddim yn darllen ei stwff hi yn drylwyr: Catrin and Aran on the move] …
Do, mi wnes i ond doedd hi ddim yn dweud pryd yn union byddwch chi’n symud.
(ond ddudodd hi “then …” felly ar ôl paratoi.)
Geraint, wyt ti’n mynd i hwylio ar y mor heddiw?
Gad i mi feddwl am y peth … Ym, nac ydw.
Dan ni newydd ymweld yr synagog mawr yn Budapest. Roedd o’n ddiddorol iawn!
Ti’n gwybod bo’ ti isio!
Dw i’n sgwennu’r ebost wythnosol. Dw i’n gobeithio y bydd yr haul yn dod nôl fory!
Bydd. Achos byddwn ni’n cael glaw yfory a bydd hi ddim cynes iawn o gwbl.
Cymylog drwy´r dydd yma, ond o leia heb dim glaw. Ac yfory … pwy sy´n gwbod?
Ha lemmyn yn Kerneweg …
Kommoleg dres an jydh omma, mez dhe´n lyha heb glaw-vyth. Hag a-vorrow … piw a woer?
Dydi´r ddwy iaith ddim mor wahanol wedi´r cyfan
Dwi´n darllen yr erthygl ddiddorol ´ma :
Dwi’n meddwl yr rheswm i aros yn Saesneg ar y fforum ydy achos y ni’n isio pawb bod yn gallu joio yr atebion i cwestiynau am SSiW a dysgu. Dwi ddim yn gweld problem gyda sgwrs yn Gymraeg i ymarfer Cymraeg
Nawr am y gwaith caled o darllen yr atebion - dwi ddim yn gallu ysgrifenu nae darllen Cymraeg eto!
Heddiw, dan ni’n gadael Budapest. Dan ni wedi mwynhau’r tair dydd yma. Mae’n dinas arbennig gyda hanes diddorol ac adeiladau prydferth! Dan ni’n mynd i Fienna ar y trên yn fuan. Dwi methu aros at weld dinas hanesyddol arall!
Ŷch chi’n lwcus iawn Anthony! Dw i erioed wedi bod yn Budapest, neu Fienna, ond dw i’n gobeithio mynd yno yn y dyfodol. Joiwch eich amser!
Dw I wedi bod I Budapest llawer gwaith a dw i’n cytuno Anthony. Dinas prydferth a diddorol iawn. Enwedig Eglwys Sant Matthias - rhywbeth i gofio.
Diolch Dee! Mae Budapest yn wych!! Dw i’n gallu ei argymell fe!