SSi Forum

2020 Eisteddfod entries - Prose (Post-Beginner)


#1

A short story on the topic "Mewn Byd Rhyfedd”.

For the first time, there will be a “Celebrity Judge” (our own Catrin Lliar Jones!), besides “People’s Choice" - as always.

After the entries, there is a survey where you can choose your favourite.


#2

Y2 “Mewn Byd Rhyfedd” gan Larry

Roedd o’n dim ond saith mis yn ôl ond, mae o’n teimlo fel amser maith yn ôl. Pob wythnos, es i sawl gweithgareddig yn y nosweithiau neu yn y dydd, Roedd fy mywyd yn trefnu a wnes i gyfarfod fy ffrindiau, yfed coffi, cael sgwrs efo nhw, yn aml. Weithiau, wnes i yrru dros 200 milltir i weld rhai o’r teulu ac yn stoppio ar y ffordd am banad. Roedd pawb yn rhydd i wneud beth oedden nhw isio a pa bryd bynnag. Ers 24ed Mawrth, popeth wedi newid, achos Covid-19.

Dros nos, mae pawb cael eu cyfyngu –hunan-bellhau (2 m. ) gwisgo mwgwd; helpu rhwystro taeniad Covid-19. Roedd na cyfnod cloi i lawr trwy’r DU. Llawer o llefydd wedi cau – ysgolion, colegau a brifysgolion efo’r disgyblion cael eu ddysgu adre, trwy’r Rhyngrwyd. Pa mor rhyfedd ydy hynny? Roedd pobl yn poeni am eu cyflenwadau bywyd ac ati a rhai pobl yn dechrau yn prynu gormod. Felly, roedd rhai nwyddau yn prin. I’r gwrthwyneb, roedd na bobl hael iawn efo eu amser, neu bres, yn helpu trefnu cefnogaeth i gymuned lleol. Roedd y ddwy ochr cyfeillach wedi accenu wrth y pandemig. Roedd llawer o bobl aros adre i weithio, yn defnyddio’r Rhyngrwyd yn le o fynd i’r swyddfa fel arfer. Cafodd hen bobl neu bobl afiach ac ar risg, ( Bobl Archolladwy) aros adre tan mis- Awst. Cafodd bobl adnabod Covid -positif gorfod hunan-ynysu am gyfnod. Doedd neb yn gallu yn mynd i’r gwaith, heblaw Gweithiwyr Allweddol. Roedd Gweithiwyr Allweddol oedd gweithio yn GIG, neu cludiant, Heddlu, Diwydiant Bywyd er enghraifft. Cafodd llawer o weithiwyr gwisgo PPE trwy’r dydd a weithiau newid nhw yn aml. Roedd rhai ohonon nwh yn tebygu gofodwyr mewn miswrn a iwnifform gwyn. Bywyd rhyfedd, yn wir. Doedd na ddim ymweliadau at ffrindiau neu aelodau teulu. Nac yn mynd i ffwrdd ar wyliau. Roedd dim ond teithiau hanfodol yn posibl. Doedd neb yn symud.

O ganlyniad, roedd y trefydd, pentrefi a ddinasoedd yn wag. Yn edrych ar y teledu roedd o’n posibl i weld strydoedd Caerdydd, Llandudno a strydoedd yn Loegr a dramor. Roedd o’n yr un math o ddarlun; strydoedd yn wag, yn hollol. Doedd na ddim o bobl, ceir, bysiau; fel haeddiant tarmac neu goncrit. A, doedd na ddim anghenion am goffi, te, cacen a theisen , cwrw a greision. Felly, llawer o siopau o bob math gorfod cau., ac wrth cwrs, llawer o bobl , yn gwneud di-waith. Felly, roedd o’n rhyfedd i weld delweddau fel na. Mae’n rhaid ei bod hi’n rhyfedd, cerdded y strydoedd a gwybod eich bod chi’n ddi-waith.
Roedd bywyd yn rhyfedd am rhesymau arall. Roedd un ohonyn nhw, oherwydd trefydd yn wag, a ddistaw. Yn araf, roedd anifeiliaid dod tu allan o’r coedwigoedd, mynyddoedd a chaeau tu mewn i’r dre ac ardaloedd preswyl. Cafodd eu delweddau ar y teledu a mewn newyddiaduron – cangarw yn Awstralia, geifr yn Llandudno ( yn torri lawntiau a gwrychoedd), mochyn gwyllt, gwartheg ac ati. Roedd fel pe baent wedi dod i’n gweld; Ar Safari neu, math o sw; gwahanol a ryfedd.

Roedd rheswm 2 anhrefn. Mae’na pedair cenedl a roedd ‘na pedair set rheol. Roedd’na miloedd o ddehongliadau. Roedd rhai pobl ydym yn drysu.

Erbyn mis Gorffenhaf, roedd popeth yn dechrau newid achos roedd y nifer Covid -19 + yn mynd i lawr. Ond, roedd ‘na problem ( problemau?) arall. Sut i newid y sefyllfa? Roedd pawb isio cyfarfod eu teulu a ffrindia. Roedd siopau, bwytai, gwestiau angen i agor, eto. Felly, cafodd rheolau eu llacio ond, roedd rhai pobl ddim yn cadw at y rheolau a, ar ôl ychydig o wythnosau, “ Dyma ni’n mynd eto” Gweiddodd y firws. A rwan, mis Hydref, dan ni’n tystio yr ail ton, fel y rhagwelwyd. Rhyfedd neu beidio?


#3

Y3 “Mewn Byd Rhyfedd - Seiberfeirws” gan Y Fenyw Llawen

O’n i’n gyrru adre o gwaith pan nes i clywed y newyddion ar y radio. “Bydd feirws ofnadwy dod - math newydd o feirws. So fe’n ymosoda y corff, ond mae fe’n ymosoda beth i’n ni’n caru gorau, y peth mwyaf pwysig i bodau dynol - ein dyfeisiau ni!”
Nes i trodd y radio i ffwrdd. “Newyddion gwirion,” meddylais i. “Sut gallu seiberfeirws bod mor ofnadwy?”
Ond pan nes i cyrraedd gatre a gwylio y newyddion ar y teledu, nes i weld pobl yn y siopau yn barod prynnu pob dyfais mae nhw’n gallu cael. Ffônau symydol, cyfrifiaduron, iPad, hyd yn oed tamagochi - mae pobl yn ymladd drosodd popeth. Oedd panig wedi dechrau lledu.
Yn sydyn nath fy nheulu rhedeg i mewn i’r lolfa. “Beth sy’n digwydd?” gofynodd fy merch. “Mae’n anhrefn tu fas!”
“Mae pobl yn mynd yn wallgof,” cytunodd fy mab, “Does dim eisau i banig fel hyn!” “Paid â becso,” nes i rheswm. “Dw i’n siwr bod bydd popeth yn dda.”
Ond dros y dyddiau nesa, o’n ni’n gwylio mewn arswyd i weld y feirws ymestyn o gwpas y byd. O’n ni’n clywed ar y newyddion bod oedd e’n symyd agosach a agosach i ni. Oedd pobl ym mhobman cuddio mewn ei catrefi nhw, tra oedd yr ofn tyfi a tyfi.
Wedyn, un diwrnod nath e’n digwydd.
Nes i dihuno yn gynnar yn y bore. Oedd y tŷ yn dawel. Edrychais i mewn i stafelloedd wely’r plant, ond o’n nhw’n gwag. Nes i galw eu henwau nhw, ond dim byd. Nes i teimlo fy ngalon i ddechrau curo yn gloi. Nath codi ofn drwy fy nghorff i. Nes i gwybod e - oedd y seiberfeirws wedi cyrraedd.
Cerddais i lawr y staer yn araf, dal gafael ar y gobaith bod bydd popeth yn dda. Ond nath golwg ofnadwy cwrdd fy llygaid i.
O gwmpas yn y lolfa, nath ei dyfeisiau ni gorwedd cwympo ar y lawr, wedi torri a marw. Eisteddodd fy nheulu ar y cadeiriau, yn syllu i’r gofod. Nes i trio siarad gyda nhw, ond heb dyfeisiau, o’n nhw wedi anghofio sut i cyfathrebu.
Rhedais i tu fas a weld pobl ym mhobman o gwmpas y stryd, sefyll llonydd, yn syllu i’r gofod. Nath y rhannau toredig o ffônau symydol gorwedd ar y llawr, tra oedd y dwylo a llygaid y bobl yn wag.
Nes i cerdded iddi nhw, gweiddi, sgrechio, chwifo, ond does neb symyd. Oedd y feirws wedi dod, a does neb gallu byw heb eu dyfeisiau nhw rhagor. O’n i’n mewn byd rhyfedd.


#4

Y20 “Mewn Byd Rhyfedd” gan Lleucu Llwynog

Deffrais i ar y fainc yn y parc. Roedd y haul yn disgleirio ar fy wyneb. Roedd yn ddiwrnod braf yn yr hydref – oer, ffres a llachar. Ron i’n medru cylwed yr adar yn canu a phlant yn chwarae gerllaw. Edrychais i lawr. Roeddet ti’n gorwedd ar y fainc ar dy gefn efo dy ben ar fy nglin ac yn edrych i fyny ar yr awyr las glir. Roedd dy lygaid yn disgleirio ac roeddet ti’n gwenu tra ofyn “Fedrwn ni fynd rŵan?”
“Iawn! Awn ni!” atebais i a chodi ar fy nhraed.

Cerddon ni trwy’r parc. Roedd lliwiau’r coed yn anhygoel - melyn, coch, ac oren. Rhedaist ti i ffwrdd trwy’r dail ar y llwybr, chwerthin a chicio’r dial i fyny. Roedd hen gwpl yn cerdded tuag aton ni efo ci bach ciwt ar dennyn. “Bore da!” ddwedon nhw “mae’n fore hyfryd!”
Roedd wiwer ar y bwrdd bwyd adar efo’r adar bach. Roeddet ti’n wrth dy fodd i’w weld cymaint ohonyn nhw.

Cyrhaeddon ni giât y parc a daliais i dy law. Wnaethon ni’n gwibio ar draws y stryd yn pwffian chwerthin ac roedd clychau’r beiciau’n tincian. O flaen y siop ar ochr arall y stryd roedd rhesi o fasgedi ffrwythau a llysiau lliwgar a ffres. Bananas melyn, afalau gwerdd a choch, moron oren, winwins brown, bitrwt porffor. Estynnais i am fagiau papur i’w llenwi.

Aethon ni i fewn y siop i dalu. Roedd cath yn cysgu ar y cownter. “Bore da!” ddwedodd y siopwr. “Ddaethoch chi o hyd i bopeth oeddech chi ei isio?”
“Ga i mwytha eich cath, os gwelwch yn dda?” ddudest ti.
“Wrth gws! Mae hi’n hoffi ffys!”
“Mae o’n wrth ei fodd efo’r anifaeliad ac natur!” ddudes i.
“Wel, beth am rhywbeth i fwydo’r hwyaid yn y parc, 'te?” ddwedodd y siopwr wrth roi bag papur bach i ti.

Aethon ni yn ôl tryw’r parc. Eisteddais i ar fainc gyferbyn llyn bach tra roeddet ti’n bwydo’r gwyddau, hwyaid ac elrych efo’r plant arall. Ar ôl roedd dy fag di’n wag, dest ti i eistedd wrth fy ymyl. Ochneidiais i. Roedd fyn nghalon yn codi am y tro cyntaf ers oesoedd. Ron i’n teimlo mor hapus, fel bod mewn byd rhyfedd ac yn hardd. Roedd y byd yn rhyfeddol ac roedd popeth yn ei lle. Wnes i cau’r fy llygad a rhoddais i fy mhen yn ôl i deimlo’r haul y gaeaf ar fy wyneb.

Deffrais i ar y fainc yn y parc. Mae’r haul wedi mynd. Ron i’n medru clywed y traffig ar y ffyrdd ac yr awyren yn rhuo uwchben. Edrychais i lawr. Roeddet ti’n gorwedd ar y fainc. Don i ddim yn medru gweld dy wyneb oherwydd y mwgwd ond ron i’n gwybod nad oeddet ti’n gwenu.
“Awn ni” ddudes i a chodais ar fy nhraed. Yn araf ddilynest ti.

Cerddon ni trwy’r parc. Roedd popeth yn llwyd. Roedd y awyr llwyd ar y pafin llwyd ac y concrit llwyd lle roedd y coed yn arfer bod. Roeddet ti’n hongian ar fy mraich ac oedd rhaid i mi dy dynnu dy er mwyn osgoi y sbwriel a’r baw ci ar y llwybr. Roedd hen gwpl yn cerdded yn araf tuag aton ni efo eu llygaid i lawr. Sgrechiaist ti pan rhedodd llygod mawr ar draws y llwybr o dan ein traed.

Cyrhaeddon ni giât y parc a dalias i dy law yn dynnach tra oedden ni’n croesi’r stryd brysur. Roedd y traffig yn drwm, swnllyd a myglyd. O flaen y siop ar ochr arall y stryd oedd rhes o bobl yn gwisgo mwgwd ac yn aros i fynd i mewn. Roedd rhaid i ni aros am amser hir am ein tro. Ar y ffordd i mewn estynnais i am glanwaithydd dwylo cyn edrych ar y silfoedd diflas. Roedd popeth yn lapio mewn plastig erchyll. Roedd anodd i ddod o hyd i rwybeth iach i’w fwyta ac oedd popeth yn ddrud. Tra on i’n defnyddio’r peiriant i dalu roedd sŵn ci grac yn cyfarch a lleisiau estron yn gweiddi yng nghefn y siop.

Aethon ni yn ôl tryw’r parc. Eisteddais i ar fainc gyferbyn llyn bach mwdlyd. Edrychais i ar y poteli plastig yn arnofio yn y dŵr budr. Eisteddaist ti’n araf wrth fy ymyl. Ochneidiais i. Ron i’n boddi mewn trystwch fel bod mewn byd rhyfedd ac yn erchyll. Ron i’n hollol ddigalon. Roedd popeth yn y byd allan o’i le. Wnes i cau’r fy llygad a rhoddais i fy mhen yn ôl.


#5

Y37 “Mewn Byd Rhyfedd - Y Llygaid Hardd Hynny” gan Llygaid Hardd

Yn cerdded ar hyd y Stryd Fawr gwelodd Bethan rywbeth anarferol ar ochr arall i’r stryd. Oedd dyn gyda Bwrdd-Dwbl gyda’r geiriau ‘Mae’r Diwedd yn Agos’ ar y blaen a’r cefn. Fel arfer, y math o berson oedd yn gwisgo Bwrdd-Dwbl gyda’r geiriau hynny arno oedd hen dyn mewn hen dillad a hen esgidiau a gwallt budr. Fo oedd y math o ddyn sy’n siarad ag ei hun. Fo oedd y math o ddyn sy’n ychydig yn wallgof. Roedd o’r rheswm i chi aros ar eich ochr chi i’r stryd.

Croesodd Bethan y stryd i gael golwg well oherwydd nad oedd y dyn hwn yn hen, nid oedd yn gwisgo hen ddillad na hen esgidiau. Roedd dyn ifanc. Roedd yn gwisgo crys-t gwyn a jîns ac sy’n edrych yn dda iawn. Roedd ei wallt yn lân, frown ac yn gyrliog ac doedd o ddim yn siarad ag ei hun.

Gwenodd o arni. Wnaeth hi ddim gwenu yn ôl oherwydd nad oedd hi’n gwybod os oedd o ychydig yn wallgof ai peidio eto. Wnaeth hi esgus darllen ei arwydd.

“Ydych chi’n credu hynny?” gofynnodd hi.

"Ydych chi?" Roedd ei lais fel mêl.

"Gofynnais yn gyntaf," meddai, ond doedd hi ddim yn gallu helpu chwerthin.

“Wel,” meddai o, gyda chwinciad yn ei lygad, “gobeithio nad yw’r diwedd yn fuan. Ddim nawr, beth bynnag.”

Roedd ei lygaid yn brydferth.

"Bydda fi allai fynd ar goll yn y llygaid hardd hynny," meddyliodd.

Pa bai hi’n rhywun gwahanol, yn rhywun hyderus, byddai’n gofyn iddo allan, am goffi neu yfed, neu pizza. (Roedden nhw’n sefyll y tu allan i siop Pizza.)

Yn sydyn, daeth dynes fawr allan o’r siop Pizza a gweiddi ar y dyn ifanc,

“Ewch i ffwrdd. Rydych chi’n dychryn fy nghwsmeriaid.”

Gwenodd y dyn ifanc yn gwrtais.

“Rydych chi’n gwybod beth sy’n rhaid i chi ei wneud, os ydych chi am i mi fynd i ffwrdd, Mrs Jones.”

Trodd y ddynes at Bethan.

“Rydych chi’n dod i mewn? Rydych chi isio pizza?”

Ysgydwodd Bethan ei phen, embaras. Efallai bod y dyn ifanc yn wallgof wedi’r cyfan.

“Edrychwch, mae’n iawn.” dwedodd o wrth a hi. “Nid wyf yn wallgof. Y merch honno” pwyntiodd o yn ôl at y siop Pizza, “meddai fod byddai hi’n talu i mi gerdded i fyny ac i lawr y Stryd Fawr hon am bythefnos gyda Bwrdd-Dwbl yn hysbysebu ei Chynnig Arbennig. Bu’n bwrw glaw trwy’r amser, ond gwnes i’r gwaith ac nawr enillodd peidiwch â thalu i mi. Felly dw i’n gwneud hyn. Dw i’n credu y bydd hi’n fy nhalu’n fuan,” gyda chwinciad yn ei lygad. “Fyddech chi ddim synniad faint o bobl sy’n croesi’r ffordd er mwyn osgoi cerdded heibio’r dyn gwallgof gyda’r Bwrdd-Dwbl gwallgof.”

Gwnaeth hyn i Bethan chwerthin. Efallai, roedd hi’n meddwl, pe bai’r diwedd yn agos iawn, byddwn yn ddigon dewr i ofyn iddo allan. Ond roedd hi bob amser wedi bod yn rhy swil er ei lles ei hun. Yn lle, ni allai hi hyd yn oed edrych arno.

"Pob lwc," mwmian wrth iddi gerdded i ffwrdd.

Yna daeth cloi i lawr. Yn ei hystafell fach roedd Bethan yn meddwl yn aml am y llygaid hardd hynny. Roedd hi hyd yn oed yn breuddwydio am y llygaid hynny. Nid oedd yn freuddwyd dda. Yn ei breuddwydion roedd hi bob amser ar goll, yn chwilio amdano i’w hachub rhag rhywbeth anhysbys, ond roedd bob amser yn rhy bell i ffwrdd.

Pan oedd y broses gloi drosodd, aeth hi yn ôl i’r Stryd Fawr. Dywedodd wrthi ei hun nad oedd hi’n chwilio amdano, ond pan welodd hi o neidiodd ei chalon. Roedd yn gwisgo’r un dillad ag o’r blaen. Ac roedd yn dal i wisgo Bwrdd-Dwbl. Roedd hi’n synnu pa mor siomedig oedd hi’n teimlo. Nid oedd unrhywbeth doniol, nawr, ynglŷn â cherdded i fyny ac i lawr y Stryd Fawr gyda’r geiriau ‘Mae’r Diwedd yn Agos’ mewn cyfnod mor ofnadwy â’r rhain. Rhedodd hi ato, yn ddig ac yn barod i ddweud wrtho am roi’r gorau i fod mor dwp.

Yna gwenodd. Ar o blaen y Bwrdd-Dwbl roedd enfys fawr. Ar y cefn roedd y geiriau 'Gwên. Mae heddiw yn ddiwrnod newydd ’

Edrychodd hi i mewn i’w lygaid hardd a phenderfynodd, yn y fan a’r lle, nad oedd amser fel y presennol.

“Bydda ti’n hoffi mynd allan efo fi?”

Roedd hi’n mynd i adael iddi hi fynd ar goll yn y llygaid hardd hynny.


#6

Y51 “Mewn Byd Rhyfedd: Daeth y Gwanwyn ar ôl yr Haf” gan Defaid a Choncro

[Rhybudd cynnwys: mae’r hanes 'ma 'n delio efo themâu salwch difrifol. Dydy diwedd yr hanes ddim yn un trist, dwi’n addo; ond dwi’m eisiau ypsetio neb.]

Ddechrau mis Medi, y diwrnod cyn pen-blwydd ein merch, wnaeth fy mhartner ddechrau teimlo’n dipyn sâl. Meddwl oedden ni fod o ddim ond rhyw fyg stumog, ond dros y deg diwrnod nesaf oedd hi heb lawer o archwaeth neu egni, ac felly aeth hi yn y diwedd i’r meddyg.

Wythnos wedyn oedd hi mewn ysbyty arbenigol yn Llundain, yn aros am drawsblaniad iau: mater o fywyd neu farwolaeth oedd o.

Oedd yr holl beth 'di bod yn mor sydyn. Doedd na’m rhybudd, na ddim rheswm pam, chwaith, ddywedon nhw: ’mond rhywbeth sy’n digwydd, weithiau, yn amlach i ferched nac i ddynion, yn arferol yng nghanol oed, yn amlach yn yr hydref. Pan wnaethon nhw fiopsi oedd mwyafrif y sampl wedi marw yn barod, ac felly dyna oedd hi, ar ben y rhestr trawsblaniad genedlaethol.

Buodd y penwythnos ‘na yn ofnadwy. Bore Sadwrn, cyn i ni fynd i aros efo’i brawd, yn Llundain, oedd y plant yn gwylio Dreigiau Berc yn swnllyd yn yr ystafell byw, a finnau’n paratoi brecwast yn y gegin a’r dagrau yn llifo yn ddistaw lawr fy wyneb. O’n i’n cuddio oddi wrthyn nhw faint o’n i’n poeni, ond tu mewn fy mhen o’n i’n cyfansoddi be’ i ddweud amdani at ei hangladd. Gyrhaeddon ni Llundain, ac mi wnaeth ei chwaer-yng-nghyfraith, sy’n nyrs, lwyddo i 'mherswadio byddai popeth yn iawn, mwy na thebyg, pan aeth popeth yn llawer gwaeth.

Mi gawson ni alwad oddi wrth yr ysbyty i ofyn i ni fynd i mewn am sgwrs efo’r meddygon. Wel, dydy neb yn gofyn i ti fynd i mewn yr adran gofal dwys yng nghanol pandemig os mae popeth yn iawn: dydy sut wahoddiad ddim yn arwydd da o gwbl. Aethon ni i’w gweld hi, mewn coma meddygol a pheiriannau o’i hamgylch yn anadlu ar ei chyfer ac yn hidlo ei gwaed: wnes i eistedd wrth ochr y gwely a dal ei llaw, ond doedd ganddi ddim amcan fy mod i yno. Ddywedodd ei brawd fod o’n hollol ofnadwy ei gweld hi fel 'na: o’n i’n teimlo fel na fyddai mor ofnadwy taswn ni’n gwybod bod hi ar y ffordd gywir, ond a dweud y gwir oedd yr holl beth yn dorcalonnus.

A doedd y newyddion ddim yn dda. Oedden nhw’n poeni am ei hanadl: oedd hi angen llawer o ocsigen, a ddywedon nhw bod hi’n rhy sâl i oroesi trawsblaniad. Oedden nhw’n gobeithio y byddai hi’n gwella, ond mi oedd hi â’r fantol yn ei herbyn, ddywedon nhw. Gweiddi a chrio o’n i, ac yn dychmygu sut wyneb byddai gan fy mab taswn i’n dweud wrtho fo fod o ddim yn mynd i’w gweld hi byth eto.

Ond, diolch byth, nid hynna beth ddigwyddodd.

Ar hyd y tri diwrnod nesaf, wnaeth hi wella’n ddigon i gael y llawdriniaeth. Ffeindion nhw iau addas mewn dim ond diwrnod ar ôl iddi gael ei hail-roi ar y rhestr. Tair wythnos ar ôl iddi ddechrau teimlo’n sâl oedd hi’n mynd i mewn theatr – ac oedd arna i ofn. O’n i 'di bod mor falch am gyrraedd y pwynt 'na, ond mae 'na wastad rhyw risg. Treuliais i’r noswaith yn siarad efo ffrindiau hi, ac yn y diwedd es i i wely dal yn poeni a fyddwn i angen dweud y gwaethaf wrth y plant yn y bore. Nos Fercher oedd honno: felly pan ges i alwad am dri o’r gloch y bore oddi wrth un o’r llawfeddygon i ddweud wrtha i bod popeth wedi mynd yn dda iawn, a bod ganddi iau newydd, dydd Iau oedd o.

Blynyddoedd yn ôl, pan o’n i yn y brifysgol, weles i gerdd mewn papur newydd o’r enw “Y Cwsb”. Oedd yn siarad am sut mae cychwyn y gaeaf a’i orffen yn edrych yn debyg i’w gilydd. Taset ti’n dod o blaned arall, meddai’r bardd, neu’n dychwelyd fel Lasarus o’r ogof, fyset ti ddim yn gwybod a oedd y gaeaf wedi gorffen neu newydd ddechrau. Ac felly, yn yr oriau mân ar ôl y llawdriniaeth, mewn gwely sbâr ei brawd, meddyliais i am ei gweld hi efo’r peiriannau o’i hamgylch, a be’ ddywedodd o; ac yn gorwedd yn y tywyllwch, wnes i ail-ddarllen y gerdd ar fy ffôn i. Dyma sut mae hi’n gorffen:

Mae’r clawdd yn goleddu i fyny, yn goleddu i lawr at y ffos.
Ai fyddai’n helpu taswn i’n dweud bod gan alaru ddiwedd?
Ai fyddai o bwys taswn i’n dweud wrthot ti mai gwanwyn ydy hwn?*

A gwanwyn ydy hwn, yn wir. Tair wythnos ar ôl ei thrawsblaniad daeth hi adref, a chanddi graith fawr a gwên fwy. Dan ni’n hunan-ynysu, wrth gwrs, a thu allan mae’r dyddiau’n dod yn dywyllach a’r dail yn troi a chwympo; ond serch hynny, gwanwyn ydy o, gartref.

Ac o dan fy mwgwd, dw i’n gwenu.

  • ‘The Cusp’, The Lotus Flowers, Ellen Bryant Voigt, 1987.

#7

Y52 “Y Ffrind Newydd” gan Y Crawc Mawr

Roedd y feirws yn gwylltfilaidd. Bob dydd, aeth mwy a mwy o bobl yn froga. Pan ddigwyddodd hi i’r Prif Weinidog, penderfynodd Owen hunanynysu.
Doedd ‘na dim dewis, rili. Fel ffermwr pannas, dibynnodd Owen ar werthu pannas yn clybiau nos yr ardal (mae pobl yn prynu popeth pan maen nhw’n feddw). Ond oherwydd y feirws, aeth pobl ddim mas mwyach. Rhedon nhw i’r archfarchnad a dyna ni.
Y dydd cyntaf, roedd Owen yn cyfforddus yn ei tŷ e: digon o bannas i fwyta, digon o ffilmiau newydd ar Netflix, a tywydd heulog i ddarllen yn yr ardd.
Ond yn ôl un wythnos, aeth Owen yn bôrd gyda ffilmiau a darllen a ffonio hen ffrindiau sy wedi symud o’r cefn gwlad. Felly penderfynodd e tacluso ei dŷ e. Fel rheol, doedd dim llawer o amser gyda fe i wneud hyn, felly roedd ‘na mynyddoedd o sbwriel yn y tŷ: dillad ei wraig (adawodd sawl blynyddoedd yn ôl), teclynnau coginio ei fam (farwodd mwy na sawl blynyddoedd yn ôl), llyfrau TGAU, hen sigaréts ei dad (adawodd pan roedd e’n fachgen). Ac yn y diwedd, yn cornel bellach yr atig, daeth Owen o hyd bocsyn prennol ddoedd e erioed wedi gweld.
Yn chwilfrydig, aeth e â’r bocsyn i’r stafell fyw ac ei agorodd e. Ynddo, caeth e a hyd i lyfr trwm, bowlen metel a llen du. Agorodd e’r llyfr lle gaeth llyfrnod ei roi rhwng y tudalennau a darllenodd y pennawd: “I galw am ffrind”. Dwedodd y testun: “Ansoddwch eich hoff peth yn y byd ar y bowlen ac wedyn y bowlen ar y llen. Wedyn, dwedwch: Tyred, tyred, fy ffrind mawr. Tyred, tyred, anghenaf nawr.”
Gorwenodd Owen. Ie, roedd e angen ffrind ar hyn o bryd - roedd tacluso trwy’r dydd ar ben ei hunan yn diflas iawn. Penderfynu beth yw ei hoff peth yn y byd roedd yn hawdd iawn: pannas, wrth gwrs! Felly daeth Owen â panasen o’r gegin ac ei ansoddodd hi ar y bowlen ar y llen.
Gwenodd Owen a dwedodd e: “Tyred, tyred, fy ffrind mawr. Tyred, tyred, anghenaf nawr!”
Roedd ‘na tanchwa bach a-
“S’mae, s’mae, s’mae! Dai dw i! Shwt wyt ti? Yn iawn? Grêt! Nawr, be’ fyddwn ni’n ’neud?!”
Amrantodd Owen. Dyna, ar y bowlen, roedd yn dal y panasen. Ond nawr, roedd dau llygad, ceg, dau breichyn a dau coesyn arni hi. A siaradodd hi. Yn gyflym iawn.
“Oy! Ffrind mawr! Be’ sy’n ocyro?!” Bownsiodd y panasen o’r enw Dai ar y bowlen.
“Panasen wyt ti?” gofynnodd Owen, yn stwmp.
“Ydw!”
“Beth wyt ti’n gwneud yma?” Am gwestiwn twp, meddylodd Owen.
“Wel, wyt ti wedi galw am ffrind, on do? So dyma fi!”
“Ie. Ond … Wel, panasen wyt ti.”
“Ti ddim yn hoffi pannas?”
“Dw i’n eu caru nhw!”
“So be’ yw’r problem?”
“Wel …”
“Ha! Dw i’n rhy fach, on dydw? Nawr, gwranda—”
Ond doedd Owen ddim eisiau gwrando ar Dai yn gwichio. Cymerodd e’r llyfr trwm a darllenodd y tudalen deitl. “Celf ddu Cymru …?”
“Cywir!” gwichiodd Dai. “Pam, be’ meddyliaist ti? Cant a un rysait pannas? Na! Dyna llyfr a llen Anwyn Dewines Llys Du, gwraig Brenin—”
“Byddi di’n aros yma am byth?”
“Bydda. Ti angen ffrind, on dwyt? Wel, dw i’n dy ddeall. Mae’r holl sbwriel ‘ma’n rhedeg bob dynes,” chwarddodd Dai.
“Mae ‘na feirws tu allan,” dwedodd Owen. “Dyn ni ddim yn cael gadael y tŷ.”
“Dim problem. Dw i’n caru bod catref gyda paned a siarad, siarad, siarad.” Darweiniodd Dai ar y soffa. “Ty’d â baned. A gacen, ella?”
“Pam finnau?”
“Dw i ddim yn was. Panasen dw i.”
“Ac heblaw siarad, beth wyt ti’n gallu gwneud?”
“Wel … Canu, cellweirio, clapio, sylwadu, storïo … Yr hoff stori Anwyn roedd—”
“Wyt ti’n gallu tacluso?”
“Ydw. Ond dw i’n casáu gweithio. Mae’n well ‘da fi siarad.”
“A ti’n cysgu?”
“Dyma peth gorau am bod yn panasen byw: dim angen o gwsg!”
Ystyriodd Owen hyn am funud. Byw gyda panasen sy’n siarad trwy’r nos neu …
“Dere i’r gegin, Dai, dw i ddim eisiau cael sgwrs gan ysgegu.”
Tra roedd Dai dal yn siarad, berwodd Owen y dŵr ar gyfer y te mewn pot. Ond pan roedd e’n barod, cydiodd e Dai ac ei daflodd e yn y dŵr. Gyda gwên drist, gwrandawodd Owen ar y panasen yn coginio ac yn sgrechian. Wedyn, gyda selsig, aeth Dai’n cinio blasus iawn.
Ystyriodd Owen tanio’r llyfr clef ddu, ond wnaeth e ddim. Roedd hi’n bosib bod cyfaredd yn erbyn y feirws broga ynddo, wedi’r cwbl.


#8

Y62 “Mewn Byd Rhyfedd” gan Dirgelwch Bywyd

Roedd e’n un diwrnod wythnos ddiwethaf, pan o’n i’n cerdded i lawr y ffordd ar fy hunan, dim ond ymlacio yn y heulog a dweud y gwir, pan welais i olwg hynod o ryfedd. Yn y goedwig wrth ochr y ffordd, roedd hen ddyn bach, sefyll tu fewn y coed ar ei ben ei hunan. Roedd e’n edrych eithaf coll i fod yn onest.

Nawr, dw i’n eithaf trwynog, felly wnes i benderfynu ffindio mas beth roedd yn digwydd. Cerddais i ar draws y goedwig fach, i ofyn yr hen ddyn pam oedd e’n sefyll yna ar ei ben ei hunan.

“Esgusodoch fi” dwedais i “Ydych chi’n iawn”?

Wnaeth yr hen ddyn o gwmpas, i edrych amdana i, oedd e’n crio……

“Mam bach!! Beth sy’n bod”? gofynnais i, yn teimlo’n ofnadwy erbyn hyn.

“Dw i wedi colli fy nghi Gelert” criodd e, llawer o ddagrau yn cwympo i lawr ei wyneb crychiog.

“Paid â becso” atebais i “Dw i’n hapus i helpu chi ffindio fe. Dewch ymlaen, gawn ni ddechrau edrych amdano fe. Pa fath o gi yw e?

“Diolch diolch” atebodd e drwy lygaid dagrau. “Maldwyn dw i. Sbaniel yw Gelert, mae fe’n frown a gwyn, a golygus iawn dw i’n meddwl. Mae e’n gwisgo coler glas.

“Byddwn ni’n ffindio fe, paid â becso nawr, oh gyda llaw Mair dw i”

Felly ro’n ni’n dechrau cerdded drwy’r goedwig yn galw, Gelert……Gelert…….Dim byd o gwbl. Dim sŵn, dim cyfarth, dim Gelert!

Wrth gerdded, dwedodd Maldwyn wrtha i am ei hamser yn y Rhyfel y byd dau. Roedd e’n ddyn diddorol iawn, a swyddog y fyddin gyda Montgommery. Wnes i benderfynu siarad mwy iddo fe yn y dyfodol. Hefyd dw i’n ddwli ar gŵn fy hunan, felly roedd e’n iawn yn fy llyfr.

Ar ôl tua chwarter awr o alw, Gelert….Gelert, clywais i rywbeth yn y pellter.

Wnes i alw eto….Gel……ert……….

Allan y coed, gallwn i weld ci yn rhedeg yn gyflym iawn tuag at Maldwyn a fi.

“Edrychwch Maldwyn” gwaeddais i “Galla i weld Gelert”

Pan roedd Gelert yn cyrraedd gyda Maldwyn, roedd e’n neidio lan ac i lawr fel ffynnon, a chyfarth a chrio fel babi. Roedd e’n mor gyffrous i fod yn ôl gyda fe, ro’n i’n mor hapus hefyd i weld Maldwyn yn gwneud ffwdan o Gelert.

Mae Maldwyn rhoi tennyn ar y ci ac roedd popeth yn iawn eto.

“Wel” dwedais i “Well i fi fynd nawr, dw i’n mor hapus mae Gelert yn ddiogel”

“Diolch o galon” atebodd Maldwyn “Dw i ddim yn gwybod beth y fyddan i wedi gwneud heb dy help heddiw. Diolch yn fawr iawn”

“Dim problem o gwbl. Dw i ddim yn gwneud un rhywbeth pwysig heddiw ta beth. A dweud y gwir Maldwyn, hoffwn i siarad mwy gyda ti am dy fyw di, a Rhyfel y byd dau os mae hynny yn iawn”?

“Wrth gwrs, ti’n groeso i ddod am baned unrhyw bryd. Dw i’n byw wrth ochr Y hen dafarn yn Llys Orsaf, ti’n nabod Y Llong?”

“Ydw” dwedais i gyda gwên. Ro’n i’n harfer yfed yna gyda fy ffrindiau yn fy ugeiniau.

Dyddiau hapus.

“Dewch unrhyw bryd” dwedodd Maldwyn. “Dw i’n meddwl bod Gelert eisiau bath nawr, ar ôl rhedeg o gwmpas y goedwig, bachgen drwg, mae fe’n fudr iawn” Roedd e’n chwerthin nawr, ei lygaid bach yn disgleirio.

“Byddaf yn bendant” atebais i, “rhaid i fi weld Gelert eto, a gwrando ar eich straeon diddorol hefyd. Wela i ti yn fuan Maldwyn…hwyl Gelert” Roedd Gelert yn wagio’i gynffon.

Ac i ffwrdd â ni ein ffyrdd ar wahân.

Es i ymweld â Maldwyn a Gelert sawl gwaith dros y blynyddoedd canlynol, roedd yn ddyn rhyfeddol, gyda llawer o straeon anhygoel i’w rhannu. Rhai doniol, rhai yn gyffrous a rhai yn drist iawn. Roedd e wedi colli ei wraig ychydig flynyddoedd o’r blaen. Roedd Gelert wedi dod o’r Elusen Cŵn lleol, ac wedi tyfu i fod yn gryfder iddo fe ers hynny.

Yn ddyn mor garedig hefyd, a wnaeth paned o de hyfryd iawn. Gyda chacen ffrwyth bob amser, a Gelert golygus yn gorwedd wrth y tân, yn cysgu’n dawel.

Dwi’n credu ei fod e’n hynod o anhygoel sut, mewn byd rhyfedd fel hyn, gallwch chi dal yn cwrdd â phobl fendigedig fel Maldwyn; a Gelert wrth gwrs!


#9

Y73 “Eisteddfod y Dreigiau” gan Hen Afanc

Ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, byd rhyfedd oedd Cymru. Roedd y Rhufeiniaid yn rheoli’r gwlad o’u caerau, roedd coedwigoedd ymhobman ac eithrio ar gopaon y mynyddoedd, ac roedd dreigiau yn rheoli’r awyr. Ymhlith y dreigiau oedd y ddraig enwog, Dafydd Goch, ddraig fawr a dewr. Os ydych chi eisiau gweld ei lun, mae o i’w weld ar y faner Gymreig. Roedd cartref Dafydd yn uchel yn y mynyddoedd ger Beddgelert, mewn ogof mawr ar ochr Moel Hebog. (Dywedir bod Owen Glyndwr yn aros yno ganrifoedd yn hwyrach). Amddiffyn Eryri rhag gelynion oedd swydd Dafydd, a’r gelynion mwya oedd y Rhufeiniaid. Fel mae’n digwydd, roedd Dafydd yn hoff iawn o Rufeiniaid; un diwrnod aeth o i lawr i Segontium a bwytodd hanner dwsin ohonyn am ei ginio. Teimlodd wedi blino ar ôl i’r tamaid bach’ma ac aeth o i gysgu

Cysgodd o wedyn am wythnosau, amser hir iawn, amser rhy hir. Caeth o syndod mawr pan ddaeth eryr er mwyn ei ddeffro efo neges bwysig oddiwrth Frenin y dreigiau:
“Pam wyt ti ddim wedi trefnu’r eisteddfod?” Sioc fawr oedd hon. Cofiodd llynedd caeth o ei apwyntio yn archdderwydd, ac rwan roedd dim ond un wythnos cyn noson hwyra’r flwyddyn pan ddylai’r eisteddfod gael ei chynnal. “Gwell hwyr na hwyrach!” adiodd yr eryr o gymorth.
Cyn i’r eryr hedfan i ffwrdd, gofynnodd iddo fynd â gwahoddiad i’r holl ddreigiau yn y pedair wlad ddod i Eryri yr wythnos nesa.

Wedyn aeth o allan ar frys i ffeindio maes da i’r eisteddfod. Doedd dim ddigon o le ar frig yr Wyddfa, a dewisodd y Glyder yn ei lle. Cliriodd ardal wastad, a defnyddiodd y meini i wneud cadair y bardd – mae hi’n cael ei henwi “Castell y Gwynt” heddiw. Yn olaf, marciodd o allan cwrs o’r Wyddfa tuag at ei ogof am y bencampwriaeth fwya arbennig.

Noson chofiadwy ac eithriadol oedd yr eisteddfod. Roedd yr awyr dros Eryri yn brysur efo dreigiau. Y llanciau oedd yn yfed gormod o ddŵr tân wrth gwrs, a gweiddi at ei gilydd dros y cymoedd, tra bod yr hen ddreigiau yn yfed cwrw Cymreig wrth eu gwylio gan anghymeradwyo.
Am hanner nos oedd popeth mewn drefn i’r eisteddfod ddechrau. Yr eitem gyntaf oedd yr emyn poblogaidd ‘Arwain fi o Arglwydd Dreigiau’. Naethon nhw fwynhau canu’r hen dôn bob amser. “Rhy dawel!” gweiddiodd yr arweinydd “ Uchel! Gorau po uchel” tan iddyn nhw glywed y sŵn yng Nghaergybi! Yn ystod y gytgan olaf ‘Tân o’r nefoedd’ siglodd y mynyddoedd hyd yn oed, mor uchel oedd y canu.
Dywedir bod, cannoedd o flynyddoedd wedyn, yr emyn yn cael ei canu unwaith eto yn eisteddfod y dreigiau ym Mannau Brycheiniog. Clywodd John Hughes y dôn a’i benthygodd gan roi iddi y geiriau newydd ‘Cwm Rhondda’. Does dim llawer o bobl sy’n gwybod hynny.

Digwyddiad terfynol yr eisteddfod oedd y bencampwriaeth chwythu tân. Digwyddiad poblogaidd a chyffrous dros ben oedd hi. Safodd y dreigiau ar gopa’r Wyddfa a chwython nhw dân dros y cwm tuag at yr ogof. Pwy allai daflu dân y pella? Daeth yr awyrgylch yn llawn mwg, roedd y cwm fel ffwrn. Prin y gallai’r beirnwyr weld ond o’r diwedd naethon nhw benderfynu bod Beinn McDdraig, y ddraig goch Albanaidd yn ennill. Dywedid bod gan yr Albanwyr y dymer boetha yn wastad!

Cyflwynwyd y wobr gan y prif weledydd, brawd y Brenin. Yn eu araith meddai fo:
“Yn fy meddwl mi wela i ddraig rhyfedd, ddraig o haearn efo tân un ei fol. Mae hi’n methu hedfan, mae hi’n dringo’r mynydd ar lwybr o haearn, ac mae llawer o bobl yn reidio ar ei chynffon hyd at gopa’r Wyddfa!”
“Malu awyr ydy o!” meddai pawb, “Mae o’n dwp!”

Erbyn hyn roedd hi’n dechrau torri’r gwawr, rhaid i’r eisteddfod orffen. Canwyd “Mae hen wlad y dreigiau” am y tro ola cyn i bawb fynd adre. Hedfannodd Dafydd ar ei ben ei hun at ei ogof. Ar ei ffordd caeth o syndod mawr, oedd ei holl gwm yn ddu. Pam? Wrth gwrs! Roedd y bencampwriaeth wedi llosgi’r goedwig yn ulw. Felly byth ers hynny mae’r lle yn cael ei alw yn ‘Rhyd Ddu’. Ydych chi yn ei nabod?


#10
  • Y2 “Mewn Byd Rhyfedd” gan Larry
  • Y3 “Mewn Byd Rhyfedd - Seiberfeirws” gan Y Fenyw Llawen
  • Y20 “Mewn Byd Rhyfedd” gan Lleucu Llwynog
  • Y37 “Y Llygaid Hardd Hynny” gan Llygaid Hardd
  • Y51 “Mewn Byd Rhyfedd: Daeth y Gwanwyn ar ôl yr Haf” gan Defaid a Choncro
  • Y52 “Y Ffrind Newydd” gan Y Crawc Mawr
  • Y62 “Mewn Byd Rhyfedd” gan Dirgelwch Bywyd
  • Y73 “Eisteddfod y Dreigiau” gan Hen Afanc

0 voters