2021 Eisteddfod entries - Book Review

A short book review, for learners that are enjoying reading in Welsh and would like to share a favourite book with others.

To vote for the People’s Choice award in the Book Review category, go to
SSiW Online Eisteddfod - Book Review and scroll down to see the voting poll.

C13 Adolygiad gan Gorwel

‘Blasu’ - Manon Steffan Ros

Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers sawl blwyddyn, ond heb ddarllen llawer o lyfrau tan yn ddiweddar. Rwan, mae llyfrau’n mynd yn ôl ac ymlaen trwy’r post yn ein grŵp Zoom Sir Efrog, efo llawer o drafod sy’n dilyn wedyn.

Llyfr rydw i wedi’i fwynhau yn fawr yn ddiweddar yw Blasu gan Manon Steffan Ros. Nid yw llyfr i ddechreuwyr, ond mae’n posib i fwynhau stori bywyd Pegi rhwng 1930 a 2012 trwy pennodau byrion ac arsylwadau a phrofiadau amrywiol ei ffrindiau a’i theulu. Mae bob person yn ysgrifennu ei ran mewn arddull wahanol. (Mae hyn yn ychydig yn ddryslyd ar y dechrau, ond rydych chi’n dod i arfer ag ef yn gyflym.)

Mae’r stori yn digwydd yn yr ardal brydferth o amgylch Craig Aderyn ger Tywyn yn Eryri – mae fy hof ardal yn Nghymry, felly dw i’n tipyn bach rhagfarnllyd…! Mae’r holl straeon wedi’u cysylltu gan fwyd a blas. Mae rhai o’r profiadau hyn yn hapus, yn ddoniol, yn drist, yn syndod, yn ysgytwol, ond maen nhw i gyd yn realistig ac yn deimladwy iawn, ac maen nhw’n dangos pa mor bwysig ydy’r teulu a ffrindiau. Mae’n llyfr gwych os oes gennych ddiddordeb mewn ryseitiau Cymraeg, achos mae gan bob rysáit ar ddechrau pob pennod arwyddocâd arbennig i’r person sy’n siarad ar y pryd.

Byddwn i’n hapus iawn i ddarllen y llyfr hwn eto

C28 Adolygiad gan Hap y ddamwain

‘Trwy’r ffenestri’ - Frank Brennan/addasiad gan Manon Steffan Ros

Mae’r Trwy’r Ffenestri yw casgliad amrywiol o straeon. A phob stori yn mynd a ni i fyd wahanol trwy eu gymeriadau wahanol.

Dwi’n hoffi’r holl gymeriadau yn y llyfr. Y rheswm yw eu bod i gyd yn wahanol ac yn ddiddorol. Yn aml, maen nhw’n teimlo’n real. Mae’n anodd dyfalu’r plots felly mae’r diddordeb yn cael ei ddal tan y diwedd.

Yn y stori gyntaf rydyn ni’n cwrdd â’r flasu’r gwin Daniel Rowlands a’r cynhyrchydd gwin Monsieur Colbert. Mae stori’n mynd ymlaen gydag ambell i dro a thro. Y diwedd y stori eitha annisgwyl.

Yn yr ail gawn ni gyrru trwy strydoedd Mumbai ymhlith arbrofi arogleuon a diwylliant wahanol. Mae’r cymeriadau , newyddiadurwyr Desiree a awdur nyree Singh, yn troelli stori bach ddiddorol.

Mae’r trydydd stori yn mynd â ni i Arizona lle mae Arlo a Susie’r neidr yn rhannu eu bywyddau. Stori drist ydy hwn.

Yn y stori nesaf dyn ni ym Mhrydain gyda Cathy Page roedd yn ddall erioed

sy’n troi ei bywyd o gwmpas a sgwennu llyfr.

Yn y stori olaf dyn ni deithio i Singapore, tro 'ma efo Jamie ar ei gwrs i ddysgu aciwbigo.

Mae pob un yn ennyn llawer o emosiynau dynol.

Rwyf wrth y modd â’r amrywiaeth a leoedd a sefyllfaoedd y mae’r cymeriadau yn wynebu yn eu bywydau.

Mae llyfr hwn yn perthyn yn y cyfres amdani gyda lliw Goch. Fel y cyfryw mae’n addas i ddysgwyr sy’n cyrraed at y lefel canolrad.

Mae hwn yn hawdd i ddarllen oherwyd pump stori fer.

Dwi’n ei argymell o yn gryf i ddysgwyr Cymraeg.

C50 Adolygiad gan Siani Flewog

‘Wal’ - Mari Emlyn

Cofiant ffuglennol yw Wal ac mae sylwadau craff yr awdur yn bwerus iawn yn enwedig i

unrhywun sy wedi tyfu lan yn y saithdegau. Os ydych chi mewn dau feddwl a ddylech chi ddarllen neu beidio, wel yn bendant fe ddylech chi.

Awdures yw Siân, y prif gymeriad ac wrth iddi ysgrifennu, daw toriad i’r trydan ac yn y tywyllwch mae bywyd Siân yn dechrau dadfeilio.

‘Mae’r gorffennol yn chwarae mig.

Mae’r gorffennol yn cuddio yn y

tywyllwch.’

Mae’r cymeriadau a’r berthynas rhyngddyn nhw â Siân yn cael eu gweld trwy lygaid plentyn. Mae’r stori yn cydio’r darllenwr ac rydych chi’n awyddus i ddarganfod beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn y pendraw. Mae arddull unigryw’r nofel hon yn dynwared fformat yr hen lyfrau Ladybird trwy ail-adrodd brawddegau syml a’u hehangu nhw.

Mae’r wal yn chwarae rôl bwysig ym mywyd presennol Siân, sef y wal hyll sydd wedi’i hadeiladu gan ei chymydog

‘Wal frics fawr.

Wal frics fawr, hyll.

Wal fric fawr, hyll yn graith rhwng dau gymydog.’

Mae hynny’n atgoffa Siân o’i phrofiadau anghyfforddus a ddigwyddodd yn ei phlentyndod ac agweddau cymdeithasol ar y pryd. Er bod rhan o’r nofel yn disgrifio themâu tywyll, mae pethau hyfryd yn digwydd hefyd. Am y tro cyntaf cafodd Siân ffrind gorau ac mae hi wrth ei bodd ‘yn sgipo gartre a’r haul uwchben yn un Haliborange mawr braf.’

Bydd Mari Emlyn yn swyno chi gyda‘i bortreadu o gymeriadau lliwgar:

‘Mam-gu Cenarth a’i danedd dodi a’i hoglau Coal Tar.’

‘Mae popeth am Anti Rita’n goch: ei char, ei minlliw, ei sgert, ei hymddygiad.’

Trwy lygaid merch ifanc mae llawer o bynciau yn parhau i fod yn ddirgelwch o safbwynt Siân ‘nid yw Siân yn gwybod beth yw compo neu pwy yw Distillers Biochemicals Limited’, a pam ‘mae Mam-gu Cenarth yn llefen bob tro y daw hi mas o Nazareth House’ ar ôl ‘mynd â theisen i’r plant amddifad,’ neu pam ‘mae mam Siân eisiau hedfan fel aderyn mewn balŵn Nimble.’

Mae’r awdur wedi ysgrifennu deialog gyda phytiau o ymadroddion Saesneg fel ‘Hostess Trolley’, ‘Green Shield Stamps’, ‘three day week’, a ‘Middle C’ sy’n creu delweddau cryf o’r oes benodol honno.

Prynwch gopi a’i ddarllen, heb os nac oni bai byddwch yn uniaethu â chynnwys y nofel unigryw hon.

C60 Adolygiad gan Cam Ceiliog

‘Geiriadur Cymraeg Cyfoes’ - Gareth King

Ar Goll Am Eiriau

Mae’r llyfr dw i wedi’i ddewis yn agos fy nghalon ond do’n i ddim yn meddwl amdano fe ar y dechrau. Dw i ddim yn gwybod pam, achos fod e’n llyfr anhygoel. Mae’n cynnwys themâu fel arian, celf a chrefft, chwaraeon, hanes, rhyfel, a throsedd. Yn yr ail hanner, mae pethau yn dod yn beryglus gydag anturiaeth ac arswyd. Mae’n llyfr da iawn ar gyfer dysgwyr. Yn gyntaf, mae’n dechrau gyda geiriau byr, hawdd – ar ôl y rhagarweiniad, ar dudalen 1, mae’r llyfr yn dechrau ‘a a a a’. Dylwn i roi teitl y llyfr, yn wir. Dw i wedi dewis ‘Geiriadur Cymraeg Cyfoes’, golygwyd gan Gareth King. Nawr, dw i’n gwybod fod e ddim yn llyfr darllen ond gadewch i fi esbonio pam taw’r llyfr hwn yw’r gorau dw i wedi’i godi.

Pan ddechreuais i ddefnyddio’r geiriadur hwn, ro’n i’n ei ddefnyddio fel geiriadur. Do’n i ddim yn gwybod gair a chwiliais i amdano fe yn y geiriadur. Dros amser, fesul tipyn, ro’n i’n dechrau datgloi trysorau’r geiriadur. Yn gyntaf, pethau bach, fel bonau’r berfau neu luosogion yr enwau, i’r dde o’r gair. Symbolau’r treigladau. Sut i ddefnyddio geiriau, y cyd-destun. Benywaidd neu wrywaidd. Cysylltair neu adferf.

Wedyn, un dydd, yn ymlafnio gyda blwyddyn, blynyddoedd, a blynedd, troais i at y geiriadur a ffeindiais i un o’r esboniadau mwy. Mae tua thudalen am y pwnc, yn esbonio ac yn rhoi llawer o enghreifftiau. Aeth fy nryswch. Yn fy marn i, y bocs gorau yw’r bocs ‘bod’, dros ddwy dudalen. Yn y bocs, mae’n esbonio pob rhan o ‘bod’, sut mae ‘bod’ yn rhedeg, beth yw ystyr pob amser, popeth yn yr un lle, yn hawdd ei weld.

Yn ogystal â’r gramadeg gyda’r geiriau, mae adran o flaen y geiriau sy’n cwmpasu popeth, o’r wyddor i dreigladau i drefn geiriau, a llawer am ramadeg cyffredinol. Yng nghefn y geiriadur, mae termau gwleidyddol a rhestri daearyddiaeth, er yn anghyflawn.

Dyna’r un broblem gyda’r geiriadur hwn – mae’n rhy fyr a does dim digon o eiriau ynddo fe. Mae geiriau o’r cyrsiau Dysgu Cymraeg neu ar-lein ar goll weithiau, mae termau gramadeg ar goll yn aml, ac mae rhyw eiriau yn un adran yn unig, fel anturiaeth ac arswyd yn y Saesneg yn unig. Fodd bynnag, mae’n broblem fach. Gorau prinder, prinder geiriau. Mae ‘Geiriadur Cymraeg Cyfoes’ yn llyfr gramadeg cymaint â geiriadur, yn ffrind i ddysgwyr, a baswn i’n ei argymell yn frwd.

1 Like

C61 Adolygiad gan Mynd a dod

‘60’ - Mihangel Morgan

Dw i newydd orffen darllen ’60’ gan Mihangel Morgan. Os nad ydych chi wedi darllen unrhyw beth gan yr awdur hwn, (ac yma mae’n awdur yn hollol ddarllenadwy), dw i’n wir argymell y dylech chi roi gynnig arno.

Mae’r stori hon yn cael ei gosod mewn stryd fawr mewn tre rhywle yng Nghymru. Efallai yn Aberystwyth, ond does dim cyfeiriad at enw’r dre. Mae’r nofel i gyd yn digwydd mewn un awr, o un ar ddeg i hanner dydd, a dyna pam mae’r gloch fach ar ben pob pennod ac mae ei bysedd yn symud ymlaen fesul munud. (Mae’r penodau yn fyr, peth da i ddysgwyr!) A phob munud dyn ni’n cael ein cyflwyno i gymeriad newydd, sy’n mynd i’r stryd fawr. (Wedi dweud hynny, dyn ni’n cwrdd ag ychydig o gymeriadau mwy nag unwaith, ond eithriadau ydyn nhw.) Mae’r caffe Coffi Anan (jôc?) yn hwb y dre yn y nofel, a dyn ni’n cwrdd â llawer o bobl yn mynd a dod i’r caffe. Dyn ni’n clustfeinio ar eu sgyrsiau, eu meddyliau, eu gobeithion, problemau, gofidiau, dymuniadau. Dyna fenyw yn straffaglu gyda’i phlant, Orig, sydd yn y dre i fynd i’r optegydd, yr hen hen athro sy’n mwynhau eistedd yn y dre yn y bore i wylio pobl. Y ‘fenyw’ lliwgar dros ben sy’n cerdded fel dyn, Jewe£a, sy’n berchen ar y gampfa, sy wedi newid ei hunaniaeth i fod yn ‘posh’. A Deirdre, yn fenyw digartref sy’n eistedd bob dydd o flaen swyddfa’r post yn chwarae ei hen chwibanogl i drio ennill digon o arian i brynu pryd o fwyd poeth. Mae llawer mwy o bobl, gormod i grybwyll at bob un, ond does dim beirniadaeth o gwbl gan yr awdur ar ei gymeriadau, a dyn ni i gyd yn gwybod pobl fel rhai ohonyn nhw – ac fel ni, mewn gwirionedd.

Beth yw’r pwynt o’r stori hon? Wel, mae’r gloch yn tician, ac, ar y un pryd, mae ein diddordeb yn y bobl y tyfu. Ond bydd rhywbeth yn digwydd am hanner dydd. Beth? PEIDIWCH â darllen y tudalennau olaf yn gyntaf!

Mae sawl cyfeiriad at 60 yn y nofel. Mae 60 munudau mewn awr. Efallai bod yna 60 o gymeriadau, dydw i ddim wedi eu cyfri nhw. Dw i’n credu roedd Dr Morgan 60 oed pan ysgrifennodd e’r llyfr. Ydych chi’n gallu dod o hyd i rywbeth arall?

To vote for the People’s Choice award in the Book Review category, go to
SSiW Online Eisteddfod - Book Review and scroll down to see the voting poll.

Winners announced!

1 Like