A cover version of a modern song, giving it own interpretation, or an original composition by the participant. A solo, or any number of singers, in any style, and there is no limit on the number of accompanying instruments.
Geiriau gan Wyth ar Drigain
Miwsic gan The Stooges
Rhybudd, rhybudd Nid oes anifeiliaid anwes yn y gân hon Dim ond cŵn dynol
Mewn llanast llwyr, dwi isie ti yn fy stafell, dwi isie ti A nawr ni’n mynd i fod wyneb yn wyneb A gorwedd i lawr mewn glythineb Dwi am ddod yn gi i ti Dwi am ddod yn gi i ti Dwi am ddod yn gi i ti Dere ‘mlân Popeth da sy’n dod i ti Mae tennyn lledr gyda fi
Nawr rwy’n barod i fynd yn wyllt Nawr rwy’n teimlo’n orffwyll Nawr rwy’n barod i ddod yn gaeth A cholli’n nghalon yn fflamau’r traeth Dwi am ddod yn gi i ti Dwi am ddod yn gi i ti Dwi am ddod yn gi i ti Dere ‘mlân
C91 Y Dre Ger Y Lli
Miwsic a geiriau gan Blaidd ap Gododdin
Lle bynnag ti’n mynd, nei di adael beth ar ol Dyn ni i gyd gyda'n gilydd, ar y ffordd, ar yr un hen heol Ond rhaid i fi ddweud farwel ffrind nawr, i ti a’r dre ger y lli Ond bydd Aberystwyth wastad gyda fi
Mi gyrraeddais cyn yr haf, ond ar ol gwynt oer y gaef Pan o’dd y mor mor las a braf, welais i dolphin neu dri o leia ond mae’r ddinas yn galw nawr arna i, felly wela i di ond bydd Aberystwyth wastad gyda fi.
(Pont)
Cicio’r bar ar y prom tua machlud Wrth yr adar yn dawnsio dros y peer Yn teimlo yn oer a, fel y flwydden yn gysglud Yn cofio geriau hen gan gan Elin Fflur
Ni’n dod, ni’n mynd, ond mae ‘n straeon yn cario’n ymlaen Beth alla i ddweud wrthot ti, nad wi’ddim wedi dweud o’r blaen Ond yn eistedd fan hyn ar Consti, y mynydd dros y lli wi’n ffaelu aros ond wi’n ffaelu dy adael di ond bydd Aberystwyth wastad gyda ni.