2021 Eisteddfod entries - Prose (post-beginner)

A short story related to the theme: “Môr a Mynydd”

To vote for the People’s Choice award in the Prose (Post-Beginner) category, go to
SSiW Online Eisteddfod - Short Story and scroll down to see the voting poll.

C21

Gadael Cartref

gan Caitlin y Graig Wen

Aberdaron, Wales, 1886

Roedd y môr yn llwyd a gwyrdd gyda copaon bach gwyn. Anadlodd Jane ac roedd yr aer hallt oer yn gyfarwydd. Aeth yr anadl trwy ei phen, trwy ei hysgyfaint, a thrwy ei chorff. Roedd y gwynt yn oer ar ei thalcen a’i demlau. Eisteddodd ar y glaswellt, gyda’i phengliniau i’w brest, ac edrych allan dros Fôr Iwerddon.

Roedd tŷ gwyn y tu ôl iddi. Grepach oedd enw’r tŷ. Roedd wedi sefyll ers cyn iddi gael ei geni. Roedd fel hen coeden. Roedd wedi cael ei daro gan stormydd, ond yn dal i sefyll. Trwy fwy na thri degawd o’i bywyd, roedd wedi sefyll. Roedd Jane wedi byw yn y tŷ gyda Daniel ac roedden nhw wedi cynnal eu plentyn cyntaf, merch, yn y tŷ. Bob blwyddyn roedd ei bol yn mynd yn fawr ac roedd y tŷ yn croesawu bywyd newydd. Ac roedd y tŷ yno mewn amseroedd tywyll hefyd, pan gollodd ddau fab. Gwaeddodd hi y tu mewn i’r tŷ. Daliodd y waliau ei gwaedd.

Nawr, roedd newid yn dod eto. Roedd ei hail fab hynaf, John, yn gadael. Roedd wedi gweithio ar fferm am yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Ond nawr roedd yn gadael – nid dim ond gadael Aberdaron, nid dim ond gadael Penrhyn Llŷn. Roedd yn gadael Cymru. Roedd cyfle iddo fynd i America. Roedd yn lle roedd pawb yn siarad amdano. Byddaf yn ffeindio i waith yno, roedd wedi dweud wrthi. Gyda mewnfudwyr Cymreig eraill. Mae yna gymuned yn Efrog Newydd. Maen nhw’n sefydlu eglwysi ac ysgolion. Bydd gen i fywyd llewyrchus.

Siaradodd gyda goleuni yn ei lygaid. Nid oedd hi erioed wedi gweld y golau hwn o’r blaen. Roedd John yn 19 oed, bron yn 20. Roedd yn optimistaidd am fywyd a chyfleoedd. Roedd yn wir bod ei fywyd yng Nghymru wedi bod yn galed yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn. Roedd wedi cael damwain ar y fferm yn ddiweddar, gan golli ei fawd. Bu bron iddo farw oherwydd y gwaedu. Roedd y cynaeafau wedi bod yn wael, gyda sychder parhaus a chnydau wedi methu. Ac yn ei fywyd byr, roedd eisoes wedi profi colled. Roedd ei fam wedi colli dau fab. Ond roedd John wedi colli dau frawd annwyl pan nad oedd ond wyth oed. Roedd yn gyffrous am fywyd newydd yn America.

Caeodd Jane ei llygaid. Roedd hi’n gallu clywed rhuo’r cefnfor. Gallai hi deimlo dagrau yn dechrau dod. Pan ddywedodd John ei fod yn gadael y bore hwnnw, roedd hi wedi gwenu. Nid oedd hi am ei wneud yn drist. Ond y tu mewn, roedd hi’n teimlo ei bod hi’n boddi. Ni allai feddwl am golli mab arall. Byddai hi’n ei golli i America, nid i’r llawr. Ond nid oedd gwahaniaeth. Byddai’r môr yn cymryd ei mab i ffwrdd. Bob dydd byddai hi’n ei anghofio. Byddai hi’n ceisio ei gofio ond byddai’n ei anghofio yn araf.

Edrychodd dros ei hysgwydd. Roedd hi’n bell o Grepach. Ni fyddai unrhyw un yn ei chlywed. Trodd Jane i’r môr a chrio. Roedd pob rhan o’i chorff yn brifo - ei dwylo, ei breichiau, ei gwddf. Gwaeddodd hi dro ar ôl tro. Yna, dim ond ei chorff oedd yn crynu. Llyncodd y môr llwyd ei gwaedd. Yn y pellter, gallai hi deimlo cynhesrwydd Grepach. Estynnodd ei freichiau iddi. Byddai yno pan ddychwelodd. Byddai yno pan ddychwelodd John hefyd, fel hen ddyn. A phan ddychwelodd ei wyrion a’i or-wyrion. Byddai Grepach yno pan ddychwelodd ei or-or-wyres, Elizabeth, nad oedd hi yn adnabod ond un cartref – America.

Roedd yr haul yn machlud dros y gorwel. Cododd Jane. Roedd hi’n llyfnhau ei ffrog. Edrychodd ar y cefnfor un tro diwethaf, ac yna troi tuag adref.

C22

Llandudno, eto

gan Saeth a seren

Y seithfed o Hydref. “Dydd y Dilyw.” Dim yn swyddogol, ond does dim llawer o bobl ‘ma sy ddim yn ei alw o fel hyn. Dan ni i gyd wedi colli rhywbeth. Rhywun.

Dwi ddim yn licio’r diwrnod, ei drymder. Dwi ddim isio bod ar ben fy hun. Felly penderfynais i fynd â Gwenllian i’r man lle dwi’n arfer treulio’r diwrnod. Ninnau, dan ni efo’n gilydd ers mwy nag wyth mis erbyn hyn a, mewn ffordd, ddaru mi ei gwahodd hi hefyd er mwyn gwirio os medren ni fod mwy.

Medra i ddim anghofio rhywbeth a ddudodd hi, sawl wythnosau’n ôl, pan o’n ni’n gorwedd o flaen y wyntyll. “Yli, dan ni’n jest trio bod. Bod dwy genod mewn cariad yn ystod argyfwng parhaol. Dwi’m isio mwy na bywyd bach, normal, hyd yn oed os ydy’r byd ar dân.”

Dwi’n cytuno. Finnau hefyd, dwi isio bywyd bach, normal, ac mae Dydd y Dilyw yn rhan o’r normalrwydd ‘na.

Wrth inni fordio’r cwch ym Mae Colwyn, oedd Gwenllian yn edrych yn mwy nerfus fyth na fi.

“Dwi’m yn licio’r môr,” dudodd hi gan gwasgu ei sgrepan gyda’r brechdanau.

‘Mond amneidio nes i, gan syllu ar flodeuglwm cenhinen Bedr ar fy nglin.

Oedd y seithfed yn diwrnod braf, yr awyr yn las a’r môr yn dawel. Yn y gorffennol, doedd dim llawer o bobol a aeth am drip cwch ym mis Hydref, achos oedd yn rhy oer. Ond rwan, dan ni’n hapus bod poethder a stormydd yr haf drosodd a twymder y gwanwyn yn ôl.

Er hynny, oedd yn ddistaw iawn yn ystod y trip byr, fel doedd y teithwyr ddim yn meiddio siarad, neu hyd yn oed edrych at eu gilydd. Y ffaith amdani oedd bod sawl ohonyn nhw’n ymwrthod ag edrych ar yr arfordir. Edrych ar y gwacter lle buodd Llandudno.

Llandudno. “Ail Cantre’r Gwaelod”. “Tre gudd dan y môr”. Cartref nheulu. Lle hiraeth a galar.

Tuag deng mlynedd yn ôl, gadawodd y bobl olaf y dre. Dim yn hir wedyn, daeth y Dilyw a llyncu popeth, troi Llandudno yn Afon Llandudno. Erbyn hynny, roedd nheulu wedi cael ei ail-gartrefu i Mae Colwyn, ond oedd nain a thaid yn dal i isio dychwelyd. Weithiau, dwi’n meddwl eu bod nhw wedi marw o galon wedi torri.

Yn y blynyddoedd cyntaf ar ôl y Dilyw, aethon ni nôl i Afon Llandudno’n aml, ond y dyddiau ‘ma, fi sy’r unig person yn fy nheulu sy isio ymweld â’r lle. Ella bod fy rhieni ddim isio gweld y dre achos maen nhw’n difaru peidio gwneud dim byd pan daeth y rhybudd cyntaf yn 2020.

Pan cyrhaeddon nhw Porth Llandudno, sef yr hen Grand Hotel, edrychodd Gwenllian yn dipyn bach mwy ymlaciedig.

“Do’n i ddim yn gwbod beth i ddishgwl,” dudodd hi.

“Ti erioed wedi bod?” gofynnais yn syn.

“Naddo. Oedd tad yn deud na fasan ni’n ymweld â mynwent anferth. Ond dydy hi ddim yn mynwent, nag ydi?”

“Naci, siŵr. Hyd yn oed os nad ydy’n parc hamdden.”

Yn cyntaf, aethon ni i gylchfan cyn-North Parade, bellach Stryd Atgof. Yng nghanol y cylchfan, rhyw chwe deg llath i’r arfordir newydd, adeiladwyd cofeb fach. Fel cannoedd o bobl eraill, rhoddais i fy mlodeuglwm o ei blaen a deud gweddi fach.

Wedyn, cychwynnon ni am gyrchfan cywir ein trip: Pen y Gogarth.

Yn y gorffenol, oedd y car cebl a’r tramffordd, ond bellach, mae rhaid cerdded. Ond ‘sdim ots, rili. Dan ni’n arfer cerdded erbyn hyn. Mae defnyddio ceir yn rhy ddrud, wedi’r cwbwl.

Oedd yn dawel ar ben y mynydd, er gwaetha’r nifer mawr o bobl efo’r un syniad. Fel y ddwy onon ni, o’n nhw ar goll yn eu meddyliau.

‘Steddodd Gwenllian a finnau ar flanced ar y glaswellt a byta ein brechdanau gan sbio ar Afon Llandudno.

“Yli,” dudais i ar ôl gorffen fy mrechdan cyntaf, “dwi’n ysu am lamu i fyny a sgwennu ‘Cofiwch Landudno’ mewn llythrennau bras mawr ar y glaswellt. ‘Mond er mwyn atgoffa pobl o beth dan ni wedi colli achos na ddaru nhw wrando, fatha Seithenyn y meddwyn.”

“Ond ‘sdim rhaid i ti, cariad.”

“Pam?”

“Achos bod hyn oll yn atgof eisoes. Môr a mynydd. Afon Llandudno a’r Gogarth. Maen nhw’n cynrychioli popeth aeth ar goll - a popeth sy ar ôl. Ein gwytnwch. Dal i sefyll fama, ynghanol trychineb.”

“Detio bardd ydw i, ia?”

Gwenodd Gwenllian “Dwi’n dy garu di, hefyd, Alys.”

Ella y bydd pethau’n iawn, a medru ni oroesi am ychydig mwy o flynyddoedd. Efo’n gilydd, er gwaetha twpdra dyn. Yn optimistaidd, ia?

C32

Bywyd Rhwng Môr a Mynydd

gan Ceffyl Gwyn

Dw i yn y môr. Dw i wedi bod yn y môr am dair blynedd. Ond doeddwn i ddim bob amser yn y môr. Oeddwn i’n dwy flynedd ar ochr y mynydd.

Mi ges i fy ngeni ddiwedd y gwanwyn yn nyfroedd clir yr afon ar ochr y mynydd. Dyna le cefais fy magu a fy nysgu sut i hela gan eog eraill. Oeddwn i’n lliwgar efo smotiau glas a coch ar y pryd. Roedd llawer o beryglon tra roeddwn i’n ifanc. Byddwn i wedi gwneud pryd o fwyd braf i’r rhan fwyaf o anifeiliaid ac adar yn yr ardal. Roedd rhaid i mi ddysgu sut i gipio’n gyflym er mwyn osgoi cael fy lladd.

Yn y gaeaf redodd dŵr yr afon yn glir a chryf i lawr y mynydd. Weithiau roedd haen o rew ar wyneb y dŵr a bu bron i mi fethu gweld yr haul yn ystod y dyddiau byr. Llechu ar y gwaelod yr afon yn ddiog ac yn amyneddgar roedd fy modd o fyw yn ystod fisoedd y golau byr.

Ond yn raddol dychwelodd yr haul ac efo’r haul ciliodd y dŵr a dychwelodd y pryfed. Oeddwn i’n gallu gwledda trwy’r misoedd yr haf. Roedd bywyd ar ochr y mynydd yn braf. Ond yn sydyn yn fy ail haf mi ges i’r teimlad annisgwyl i nofio gyda’r llif. Ers hynny roedd well gen i nofio yn erbyn y llif. Oeddwn i’n llawn cyffro a heb feddwl am y peth gadewais fy nghynefin arferol ac oeddwn i ar fy ffordd i lawr yr afon.

Roedd y daith yn anturus ac yn gyflym. Roedd rhywbeth yn fyn galw i i lawr yr afon a doedd na ddim peryglon yn mynd i fy rhwystro. Oeddwn i’n newid ac roedd blas y dŵr yn ei newid hefyd. Ehangodd yr afon tan oeddwn i’n methu gweld unrhyw lannau o gwbl. Cefais fy amgylchynu gan dŵr hallt. Oeddwn i mewn cynefin newydd, oeddwn i yn y môr.

Estynnodd y dŵr hallt ym mhob cyfeiriad. Roedd yn bosibl nofio am filltiroedd a milltiroedd a dyna beth wnes i. Roedd digon o fwyd yno ond roedd peryglon newydd hefyd. Roedd rhaid i mi osgoi cael fy nhal gan forloi neu siarcod ond dyna oedd fy ngreddf.

Dw i wedi bod yn y môr am dair blynedd a dw i’n eog mawr sy’n pwyso dros 60 pwys rŵan. Dw i’n lliw arian a glas anhygoel. Dw i wedi dod i arfer â bywyd yn y môr ond dw i’n ysu dychwelyd i’r mynydd. Mae gen i rywbeth pwysig i wneud. Mae’r dyddiau’n byrhau felly dw i’n gwybod y bydd digonedd o ddŵr yn yr afon i mi gyrraedd y mynydd lle ges i fy ngeni.

Wrth agosáu at y tir dw i’n medru blasu dŵr ffres lle mae afonydd yn ymuno’r a’r môr. Dw i’n medru blasu’r dŵr yr afon fy ieuenctid ac mae fy lliw yn dechrau newid. Llawn cyffro dw i’n nofio yn erbyn y llif a dechrau gadael blas yr halen yn ôl.

Mae’n anodd iawn deithio yn erbyn y llif a dw i angen gwthio yn erbyn yr eog eraill sy’n ar eu ffordd hefyd. Dw i’n neidio i fyny pob rhwystr. Dw i’n neidio, hedfan, plymio, straffaglu, gwthio, neidio eto tro ar ôl tro. Does gen i ddim awydd i stopio hyd yn oed i fwyta. Fy unig bwrpas ydy gyrraedd y dyfroedd clir ar ochr y mynydd. Dw i’n gallu arogla fy ffordd yno. Mae rhaid i mi osgoi rhwydi’r potsiwr, y dyfrgwn llwglyd, pob rhwystr yn y ffordd. Dw i’n cael clwyfau pan dw i’n taro yn erbyn y cerrig ond dw i’n benderfynol. Dw i angen cyrraedd dyfroedd fy ieuenctid.

Yn y diwedd, dw i’n ôl yn nyfroedd clir yr afon ar ochr y mynydd. Mae rhai eog eraill wedi cyrraedd hefyd, ond mae rhai wedi marw ar y ffordd. Yn y gwelyau graen dw i’n creu nyth fach trwy chwyddo fy nghynffon. Dw i’n dodwy fy wyau ac yn gweld bod llaeth y gwryw yn eu cyrraedd cyn i mi eu claddu nhw. Dw i wedi cwpla fy nhasg.

Dw i wedi blino’n lân. Mae fy mriwiau yn brifo. Dw i ddim yn gallu gwneud dim byd mwy. O’r diwedd dw i’n gallu rhoi’r gorau i bopeth. Dw i wedi sicrhau cenhedlaeth arall a does dim byd ar ôl i’w wneud.

Dw i’n marw ond bydd fy enaid yn fwy am byth yn y dŵr syn llifo o’r mynydd i’r môr.

C56

Hiraeth

gan Crwban bach

Rwy’n teimlo’n rhyfedd iawn. Fel petai rhywbeth brys mae’n rhaid i mi ei wneud. Ond dimm byd am y mor, lle rwy’n byw. A dim byd am y tonnau, na’r llanw. Wel, efallai fel y llanw. Rwy’n teimlo tynnu tuag at cof. Rywle bod rwy’n teimlad yn fy nghalon.
Mae’r teimlad yn cryfhau ac yn gryfach bob dydd. Rhyd i mi nofio tuag at y teimlod hwn. Rhyd i mi nofio i ffordd o’r mor dwfn a tuag at lle sy’n fy ngalw gyda chân hyfryd.
Byddaf yn nofio tuag at croyw, dŵr sy’n blasus fel y cof am fywyd ei hun. Fi, eog, byddaf yn nofio tuag at gyrchfan sy’n ymwneud â bywyd newydd, adnewyddu, y dyfodol. Mae’n waith caled, ond does gen i ddim dewis. O’r môr i’r afon byddaf yn hedfan i fyny rhaeadrau fel peth gwyllt, byddaf yn nofio yn afon fynyddig hiraeth.
Dwi wedi cyrraedd. Rhaid i mi silio. Un diwrnod bydd fy mhlant yn nofio tuag at y môr hallt eto, ond fyddaf ddim yn mynd gyda nhw. Arhosaf yma, yn yr afon fynyddig hardd hon. Mae fy nhaith yn drosodd. Nid oes unrhyw le arall yr wyf am fod. Rwy’n fodlon.

C59

Cyngor Y Cewri

gan Neb

Amser maith yn ôl, roedd Cymru yn wlad wahanol iawn, yn dir gwastad, gwyn. Roedd bandiau o bobl yn crwydro ledled y wlad, yn hela ac yn ymgynnull. Roedd iâ yn gorchuddio popeth. Yng nghanol y wlad, roedd lle o’r enw, yn y dyddiau hynny, ‘Y Bogail’, dinas o adeiladau mawr, craig, yr unig ddinas yng Nghymru, ble roedd cewri yn byw. Doedd y cewri ddim yn bwyta cig na ffrwythau ond cawson nhw eu hynni nhw o’r nefoedd.

Un diwrnod, roedd heliwr yn chwilio am leoedd hela newydd pan ffeindiodd e’r ddinas. Cerddodd e’n agosach, ei waywffon e yn ei law e.

“Pwy dych chi, berson bach?” gofynnod llais uchel.

Edrychodd y dyn o gwmpas, a sgrechiodd e. Roedd cawres i’w chwith e. Ond, roedd hi’n gwenu ac yn ymddangos yn gyfeillgar. Roedd gwallt llwyd, pigog gyda hi ac roedd hi’n 30 metr o uchder. Dechreuodd hi grebachu nes ei bod hi’n 3 metr o uchder.

“Helô, ârrr!” ailadroddodd y gawres. “Glyder dw i. Croeso i’r Bogail!”

“Heriwr,” meddai’r dyn. “Heriwr yw fy enw.”

“O. Helô, Heriwr. Dych chi mor fach ag ysgyfarnog, neu wallt o’m mhen.”

“Pa mor dal dych chi?” gofynnodd Heriwr.

“Dw i’n dewis fy uchder.”

“Glyder!” gweddïodd llais uchel arall. “Glyder!”

Clywodd Her gamau hamddenol, yn uwch na tharanau. Cawr gyda gwallt porffor.

“Beth yw hyn?” meddai’r cawr.

“Dyma Heriwr,” meddai Glyder. “Heriwr, dyma Blorens, fy ngŵr.”

“Glyder, paid â siarad â’r dynion bach” meddai Blorens. “Maen nhw’n ymladd ac yn lladd ei gilydd a phopeth arall. Edrycha ar y peth yn ei ddwylo. Mae e’n beryglus.”

“Heriwr, dych chi’n beryglus?” gofynnodd Glyder i Heriwr.

Gostyngodd Heriwr ei waywffon e. “Nac ydw, Glyder, af i ar fy llw.”

“Mae e’n beryglus,” meddai Blorens unwaith eto.

“Na, nac ydy,” atebodd Glyder.

“Galwa i gyngor y cewri a phenderfynwn ni gyda’n gilydd. Dewch, ddyn bach, dewch.”

Gwthiodd Blorens Heriwr i mewn i’r ddinas, i’r canol, ble roedd maes gyda rhesi o feinciau cerrig o gwmpas yr ochrau, Blorens yn gweiddi ‘Cyngor!’ bob munud. Ymddangosodd cewri o bob math a maint, yn cerdded ac yn rhedeg ac yn sgipio tuag at y maes, yn eistedd ar y meinciau, yn edrych yn ddisgwylgar ar Heriwr yn y canol.

“Chwiorydd a Brodyr,” cyhoeddodd Glyder, “mae cwestiwn gyda ni. Mae ymwelwr gyda ni. Mae Blorens yn dweud bod pob dyn bach yn beryglus. Dw i’n credu fod e’n anghywir. Ddylwn ni groesawu ein hymwelwr, neu ei anfon i ffwrdd?”

“Dylen ni groesawu pawb,” meddai Idris, cawr gyda gwallt gwyrdd.

“Ond mae rhaid i ni ddiogelu ein hunain,” meddai Penni. “Byddwch yn gall!”

Parhaodd y ddadl am oriau ac oriau, yn dod yn fwy a mwy crac wrth i Heriwr eistedd yn gwrando.

Ar yr ail ddiwrnod, gadawodd cymuned Heriwr i ffeindio fe, pob un gydag arf. Tracion nhw fe i’r ddinas yn hawdd. Wrth iddyn nhw agosáu, clywon nhw’r lleisiau, yn gweiddi. Codon nhw eu harfau nhw.

Roedd Blorens yn siarad eto ar y pryd, yn dangos i’r cewri’r peth o’r enw ‘tân’. Roedd y tân yn llyfu ei fysedd e, wrth iddo fe siarad. Trodd ei lygaid e at y bobl gyda’u harfau a gwenodd e. “Dych chi’n gweld?” gofynnodd e, yn pwyntio. “Dyma’r bobl fach, yn dod i’n lladd. Wel, dim fi. Diogela i fy hunan.” A chododd Blorens ei law e a thaflodd e bêl tân at y bobl.

“Na!” gweddïodd Glyder, a chwythodd hi wynt cryf i ailgyfeirio’r bêl.

Gwnaeth Blorens pêl arall, wrth i Penni daflu ei phêl ei hun. Safodd pob cawr, yn gwneud peli ac yn eu taflu ac yn eu hailgyfeirio. Rhedodd y bobl i ffwrdd mor gyflym â phosib.

“Enillon ni!” meddai Blorens yn hapus.

Edrychodd Glyder o gwmpas, ar y rhyfel a’r difrod, yr adeiladau toredig, a gwelodd hi rywbeth arall. Roedd yr iâ yn toddi o dan eu troed nhw, afonydd o ddŵr yn llifo ym mhob cyfeiriad.

“Enillon ni ddim byd,” atebodd Glyder. “Does dim cartref ar ôl gyda ni. Ni sy’n beryglus. Rhaid i ni wahanu, neu dinistriwn ni’r byd.”

Edrychodd Blorens ar y niwed, a deallodd, a doluriodd. Gadawodd pob cawr Y Bogail, yn dilyn yr afonydd, yn ffeindio cartrefi newydd.

Diflannodd yr iâ’n llwyr. Heb yr iâ, doedd dim byd i adlewyrchu golau’r haul a’r lloer a, dros amser, roedd y cewri yn gwanhau. Yn olaf, roedd y cewri yn rhy wan i sefyll, ac eisteddon nhw neu gorweddon nhw ble roedden nhw, a symudon nhw erioed dim eto. A dyna’r stori am sut gwnaethpwyd y mynyddoedd.

C72

Yr Eryrod Môr

gan Natur

Roedd hi’n bwrw glaw eto ond ar ôl wythnos fel hyn, meddyliodd Megan basai hi’n mynd allan yn y car i weld y môr. Roedd hi’n flwyddyn ers i’w gŵr wedi marw ac mae hi wedi symud yma dri mis yn ôl. Roedd ei theulu a’i ffrindiau’n garedig iawn ond heb Aled, doedd hi ddim eisiau bod gyda neb ond hi ei hun nawr.

Stopiodd hi’r car ar lan y môr a gwyliodd hi y tonnau yn gwrthdaro ar y creigiau. Doedd e ddim yn hawdd i weld llawer achos y glaw ac yn sydyn, gwelodd hi adar mawr iawn yn hedfan dros y môr. Eryr y môr oedd e? Doedd Megan ddim yn siŵr ond roedd Aled wrth ei fodd yn gwylio adar ac, yn aml, aethon nhw ar wyliau yn yr ardal hon. Basai fe’n astudio’r adar tra basai Megan yn peintio y dirwedd. Y tro diwetha iddyn nhw aros ar wyliau yn agos at yma, roedd Aled wedi cyffroi achos ro’n nhw mewn ardal dda i weld eryrod môr a gwelodd e nhw ddwywaith. Arhosodd Megan yno am hanner awr ond gwelodd hi ddim yr aderyn mawr eto.

Ar ôl yn y bwthyn, aeth Megan â llyfrau Aled a chwiliodd hi am luniau eryrod y môr. Ro’n nhw’n arbennig a roedd hi eisiau gweld yr aderyn mawr eto achos roedd hi’n sicr ei fod yn eryr môr nawr. Dros yr wythnos nesa, aeth hi yn ôl i’r yr un traeth ac welodd hi ddim unrhyw beth o gwbl ond ar y diwrnod diwetha, daeth e. Roedd y tywydd yn braf a roedd hi’n gallu ei ddilyn gyda’r ysbienddrych. Yn sydyn, gwelodd hi ail eryr y môr yn hedfan dros y môr a hedfanon nhw i’r mynydd gyda’i gilydd. ‘Os gallwn i beintio yr adar hardd hyn, bydda i wrth fy modd’, dwedodd wrthi ei hun.

Y diwrnod nesa, stopiodd hi’r car ar droed y mynydd a dechreuodd hi ddringo. Eisteddodd hi dan goeden ac edrych o gympas. Ar ôl ychydig, cafodd hi ei gwobr. Gwelodd hi’r ddau aderyn. Hedfanon nhw i goeden heb fod yn bell oddi wrthi hi. Eisteddodd hi yn dawel iawn a sylwodd hi ar nyth fawr rhwng cangen a’r graig. ‘Rhaid i fi eu peintio’ sibrydodd hi. ‘Maen rhaid i chi’ sibrydodd llais tu ôl i’w chefn. Trodd Megan yn araf ac roedd dyn yn sefyll yno. ‘Does dim pawb yn mynd i wneud lluniau. Mae wyau wedi dwyn yn y gorffennol’ dweddodd e. ‘Dw i’n byw yn agos a dw i’n cadw fy llygaid ar yr adar hardd hyn am flynyddoedd. Mae hi’n oer nawr. Dych chi eisiau paned? Mae caffi bach yn y pentre’. ‘Pam lai?’ atebodd hi.

C88

Trychineb yn y Siop

gan Cacen

Eluned: Beth wyt ti’n coginio am swper heno?

Mary: Dw i ddim yn siwr. Dw i eisiau coginio cawl.

Eluned: Bydd hynny’n neis

Mary: Bydd, ond mae un problem gyda fi. Gwnes i trio siarad Cymraeg yn y siop.

Eluned: Da iawn! Sut aeth e?

Mary: Ofnadwy! Gofynnais i am cennin – pedair ohonyn nhw. Ond rhoddodd y siopwr cennin Pedr i fi. Trychineb!

Eluned: Wel, o leiaf mae’r blodau’n edrych yn prydferth iawn.

Mary: Ie, ond does dim bwyd gyda fi.

C92

Un Diwrnod Braf

gan Jinks

Roedd o’n diwrnod prydferth. Ro’n i’n cerdded yn y cefnwlad efo fy ffrind gorau. Roedd r haul un ddisglair a roedd y dail yn y coedwig yn troi o wyrdd i felyn i oren. Fy hoff tymor, dw i wrth fy modd efo’r Hydref. Gwres yr Haf wedi mynd a’r glaw a’r gwynt oer y gaeaf heb cyrraedd eto. Roedd yr adar yn canu , gwiwerod yn casglu cnau, yn eu cadw ar gyfer pan fydd y tir yn rhewi.

Doedd fy ffrind ddim yn siaradus iawn heddiw, yn brysur chwilio am fadarch i wneud cawl.

Yn sydyn, mi wnes i sbio rhywbeth . Patshyn tywyll yn y gwair. “Be’ fedrai fod?” meddwles i . “Mi wna i drio darganfod be’ sy yno.” Roedd rhywun wedi bod yn palu yno! Roedd pentwr bach o faw o flaen fy nhrwyn. Ro’n i isio gwybod pwy oedd o. Pa greadur digywilydd wedi bod yn palu yn fy nghae. “Aros un munud,” meddwles i, “ Os pentwr o faw yma, rhaid bod twll gerllaw rhywle. Lle mae o tybed.” Mi edryches i o gwmpas…AHA! Mi wnes i sbio twll yn cuddio o dan y gwrych. Mi wnes i snwffian yr awyr. “Mae arogl rhyfedd” mi ddeudes i wrth fy un, “Be’ ydy o? O lle mae o’n dŵad?” Snwff, snwff…” Mae o’n debyg …Anifail…” snwff snwff… roedd y gwallt ar fy ngwddw yn codi rŵan…snwff…”MOCHYN DAEAR!!! Dw i’n medru arogli mochyn daear! Bydd rhaid i mi edrych yn agosach, gobeithio fod o’n ddal yma, yr anghenfil, yn palu yn fy nghae!. Hwmff!”

Ro’n i isio rhoi gwers iddi fo ar gyfer gwneud tyllau, adeiladu bryniau, achosi trafferth…

Ro’n i wedi colli fy ffrind erbyn hyn. Roedd hi wedi cerdded i fwrdd a ro’n i ar fy mhen fy hun. Am ffrind. Hwmff.

Paid a phoeni, ro’n i’n gwybod be’ i wneud. Yn cyntaf, ro’n i angen gwneud y twll yn fwy er mwyn ffeindio’r peth drewllyd. Doedd gen i ddim rhaw ond ro’n i’n medru rhoi un troed yn y twll. Taswn i’n medru palu ychydig mwy o bridd, mi faswn i’n medru rhoi fy mhen tu mewn. Yn ofalus wrth gwrs, do’n i ddim isio i’r diawl ymosod arna i.

CIC CIC CIC

Iawn. Ro’n i wedi taflu’r baw tu ôl i fi a gwneud twll mwy. Dim digon yn mawr eto. “ Dw i angen dwy droed” meddwles i, “ Ie, dwy droed a…” CIC CIC CIC…

Roedd cymaint o faw tu ôl i fi rŵan, ond ar diwedd ro’n i’n medru rhoi fy mhen ac ysgwyddau tu mewn i’r twll. “Mi wna i ddal di, greadur cas!”

“Peggy! Peggy! Lle wyt ti Peg?” Roedd fy ffrind yn galw i fi. Dim ots “ Lle dw i?” Be’ am “ Le wyt ti wedi bod?” Hwmff.

Mi wnes i weiddi yn ôl a thrio dringo allan o’r twll. SOWND!! RO’N I’N SOWND YN Y TWLL!

“Help, help! Helpa fi!” Mi weiddes i.

“Peggy! Be’ sy’n digwydd yma? Be’ ti wedi bod yn gwneud? O hogan gwirion wyt ti Peg, wyt ti’n edrych mor ddoniol fel ‘na!” Roedd hi’n chwerthin arna i . Am ffrind. “Helpa fi!” mi wnes i weiddi unwaith eto. “ Dw i’n sownd yn y twll ‘ma a mae arogl ofnadwy!”

“OK ,OK, dw i’n dŵad, “ atebodd hi, “ Cadwch yn llonydd Peg, bydd rhaid i mi dy dynnu di allan.”

Ar ôl pum munud ro’n i allan. Roedd fy ffrind yn rholio o gwmpas yn chwerthin. Do’n i ddim yn meddwl fod o’n ddoniol o gwbl. Roedd mwd yn fy nghlustiau, trwyn, llygaid a bysedd traed. Heb sôn am yr ogla. Ych-a-fi.

Roedd fy ffrind yn helpu fi yn llnau fy wyneb ,pan

ddaeth sŵn crafu o dan fy nhraed. “Y mochyn daear! Tyrd yma Snichyn , hen ast!”

“Oh Peggy, edrycha !” dwedodd hi wrtha i, “Am ciwt!”

Mi wnes i weld o. Yn fach, du, trwyn fel seren a thraed enfawr. Roedd o’n edrych yn hurt.

“Twrch daear, am hydref.”

Twrch, mochyn daear, mae’r un peth i fi.

Mi wnaethon ni edrych o’r twrch daear, i’r twll, i’r pentwr o faw. Dim mor fach rŵan. Ro’ni wedi taflu’r pridd i gyd ar ben pan o’n i’n palu.

“Wel Peggy, wyt ti wedi gwneud môr a mynydd yna! Tyrd yma, dy gi bach gwirion di!” A mi wnaeth hi roi cusan mawr ar ben fy nhrwyn brwnt iawn. Am ffrind .

To vote for the People’s Choice award in the Prose (Post-Beginner) category, go to
SSiW Online Eisteddfod - Short Story and scroll down to see the voting poll.

Winners announced!

1 Like