Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

Gobeithio dw i wedi gorffen fy ffeil ail-ddisylu. Bydd fy nghyfeliad yfory i gadarnahu dw i’n gallu parhau fel nyrs. Dw i wedi clywed bod 15% o nyrsiau yn fe sefyllfa fi yn ystyried gadael yn lle llenwi cymaint o ffurflenni. Dw i’n gallu deall!

Fel damwain sgrifennais i yn google (yng ngoogle?) heddiw “weather yfory”

5 Likes

Pob lwc i ti Margaret! Dw i’n gobeithio bydd popeth yn mynd yn dda iawn i ti yn y cyfweliad.

Dw i’n cysgu ar y cyfrifiadur felly mae’n rhaid i fi fynd i’r gwely.

Pob lwc i ti @margaretnock.

Nos da pawb …

1 Like

Mae´r un beth wedi digwydd i fi hefyd weithiau … zzzz …

1 Like

Pob lwc, Margaret!

Pob lwc, Margaret!

Wedi gwneud popeth. Wedi cael fy nghyfweliad. Wedi pasio popeth. Gallu parhau am dipyn. Hapus.:whale2::whale2::whale2:

5 Likes

Llongyfarchiadau!! :tada: :star: :slight_smile:

Da iawn Margaret! Dw i’n deall bod y ail-gyfestriad yn gallu bod amser anodd!

Heddiw, dyn ni’n gadael Fienna. Naethon ni fwynhau Budapest mwy, ond mae’r ddwy yn arbennig!

Dwi’n meddwl ein bod ni wedi mwynhau Budapest mwy oherwydd ein bod ni wedi cerdded tua 60 milltir cyn i ni gyrraedd ac mae Fienna yn fwyaf na Budapest! Felly, roedd ein traed ni’n protestio!

Ond, gaethon ni’r coffi a chacen gorau yn y Byd, naethon no wrando ar buskers sy’n gallu canu’r fiolin fel cerddorion glasurol a gwelon ni’r Opera am ddim tu allan y Statsopera. Dw i’n dwlu am Ewrop! Fi’n gobeithio nid ydan yn gadael yr undeb (mae’n ddrwg gen i! Fydda I ddim yn siarad amdani yna).

1 Like

Neis iawn.

Heddiw dw i 'di bod yn gwylio Jamie Oliver.

Fel arfer oedd o’n defnyddio sudd lemwn, chili ac olew olewydd!

1 Like

Pedwar awr o ni! :slight_smile: Da iawn! Wel, dw i’n dychmygu wnaethoch chi’n trio Sacher cacen. Mae Sacher cacen wir heb siocled … jyst marmalêd bricyll…

Da iawn ti, @margaretnock! Llongyfarchiadau!

Beth dw i’n gweithio? Ddim byd os dw i’n onest … Dw i’n cael dannoedd ac dw i’n teimlo fel gwneud dim byd o gwbl. Mae’n gwrando ar cerddoriaeth yn anodd iawn hefyd.

1 Like

Llongyfarchiadau Margaret! Da iawn ti! :fireworks:

Diolch i bawb am eich dymuniadau dda.
Newydd ddihuno ar ol sawl oriau ar y soffa. Mynd i greu map o’r ffyrdd cerddais i o Orslas i Dy Dewi ym mis Mehefin ac ei hanfon i hanesydd.

Rwan, dw i’n gwrando ar radio pump…mae’r gêm yn diddorol iawn. A hefyd dw i’n coginio eto. Rendang cig eidion efo reis.

1 Like

Wedi bod yn ymarfer y darlleniadau Beibl yfory gyda ffrind Cymraes yng nghynnarach a nawr, edrych ar Last Night of the Proms.

1 Like

Aethon ni i’r Gwyl Bwyd ar yr amgueddfa Sain Ffagan. Roedd hi’n brysur iawn ond llawer o stondiniau diddorol.

Y nôl yn Cymru yn barod? WOW! Yn glou!

Os dw i’n dod nôl i Cymru un waith mwy, mae’n rhaid i fi mynd i Sant Ffagan i weld beth wnes i ddim yn gweld amser nôl eto

Dw i wedi gwirioni am Sain Ffangan! Mae’n amgueddfa yn wych! Dw i’n mynd yna’ aml iawn.

2 Likes

Mae @steve_2 yn gweithio yno.

1 Like