Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

Wnes i ddim gwybod …

Wel heddiw dw i 'di bod yn teimlo’n hapusach. Dros y haf, o’n i’n teimlo bach yn isel a felly wnes i stopio ymarfer. Ond nes i gyfarfod @margaretnock a dw i wedi dechrau dysgu eto.

Yn anffodus, dw i’n methu esbonio pam ond dw i wedi gweld y meddyg ac unwaith eto dw i’n edrych ymlaen at dysgu mwy a mynd i mini bootcamp yn fuan.

Felly, heddiw dw i 'di bod yn dysgu eto. :smile:

2 Likes

Dw i’n meddwl bod mae hynny pam dyn ni’n cael Google Translate. Mae o’n am helpu ni hefo problemau fel hyn.

Paid â phoeni. O’n i isio rhywbeth lle mae pawb yn medru sgwennu yn Cymraeg.

Cyfle i ymarfer heb sgwennu popeth yn saesneg.

Dw i’n meddwl fod o’n bwysig i drio deallt be’ ti’n darllen a dysgu geiriau newydd.

Wel heddiw dw i wedi ffeindio allan bo fi ddim wedi gwneud y gwersi geirfa o’r hen cwrs. Felly dw i’n mynd i wneud nhw.

Ar hyn o bryd, dw i’n teimlo fel anghytuno efo popeth :wink:

1 Like

Naeth fy nghariad ddechrau swydd newydd ddydd llun. Ffisio ydi hi hefyd (os dach chi ddim yn gwybod, dw i’n gweithio fel ffisio). Dan ni’n gweithio i’r un Bwrdd Iechyd. Dan ni’n gweithio mewn ysbytai gwahanol, felly, fel arfer, dan ni ddim yn gweithio gyda gilydd. Heddiw, ro’n i’n ddigon lwcus i weithio gyda hi. Roedd hi’n od i weithio gyda gilydd, ond roedd hi’n hyfryd i ei gweld hi’n gweithio gyda’r plant.

4 Likes

Newydd fod yn nofio ar ol gweithio dros nos (yn gynnwys siarad Cymraeg a chleifion). Gyrru gatref yfory cyn i fi cysgu cyn i fi ddod yn ol i Caerfyrddin heno am SSIW.

3 Likes

Dysgu cymraeg heddiw. A dw i’n ystyried beth i goginio yn nes ymlaen.

Ddoe, o’n i’n gwylio “Food network”, felly dw isio trio rhywbeth gwahanol. Rwan, dw i’n mynd i’r siopau i brynu llysiau.

1 Like

Rwan hyn, dw i’n yfed coffi yn Saith Seren. :slight_smile:

Yn y Gymraeg y tro hyn gobeithio?

1 Like

Wel wnes i archebu yn y Gymraeg. Dw i’n meddwl bo’ ti’n gwybod be’ dw i’n dweud!

Ond coffi du a rol selsig efo creision. Yn iach.

Y bore 'ma dw i’n mynd i “banad a sgwrs” rownd y cornel o le dw i’n byw.

Dw i’n mynd i’r cyfarfod SSiW ym Manceinion fore 'ma, sydd yn digwydd yng nghaffi yr Oriel Celf yng nghanol Manceinion.

1 Like

Wel dw i newydd coginio rhywbeth am cinio. Dach chi medru gweld be’ dw i’n licio gwneud? Oh dw i’n licio bwyta hefyd!

Yfory cinio yn Saith Seren. Rol selsig arall!

Rwan hyn, dw i’n ystyried be’ i wneud nesaf. Cwrs mewn dosbarth neu dim ond ymarfer mwy. Beth bynnag. Dw i’n hyderus bydd fy iaith yn well a dw i’n gyffroes am mini bootcamp hefyd!

1 Like

Mae ‘na blatfform am bethe fel hyn, chimo’ ?

https://www.clecs.cymru/

Mae’n dawel iawn draw fanna. Mae’r peth angen eich cyfraniadau!

2 Likes

Syniad da iawn! Dw i’n hoffi Clecs ond dw i ddim wedi postio yna ers gormod o amser. Mae bach yn dawel yn anffodus - byddai pethau fel hyn yn helpu!

Ond mae’n iawn iddo fo gael un edafedd yma yn y Gymraeg, dwi’n siwr?

Wel dw i’n siwr bo’ ti’n gwybod bo’ fi’n trio helpu pawb ymarfer. Dw i wedi ystyried sgwennu yn saesneg yn unig, ond dw i’n licio sgwennu yn y Gymraeg hefyd.

Mi fedra i ddysgu mwy a hefyd dw i’n mwy yn hyderus. Dw i’n sylweddoli bod rhai pobl yn methu deallt ond mae’n bwysig i drio defnyddio geiriau newydd. Wel dw i’n meddwl hynna!

Sdim problem. O’n i’n jysd awgrymu Clecs achos bod neb arall yn ei defnyddio ar hyn o bryd. Mae 'na gyfle i ni gefnogi Clecs a chael rhywbeth sydd yn fwy addas at rannu negeseuon bach. Os yw pobol moyn aros yma, mae hynny yn hollol iawn. :slight_smile:

2 Likes

Diolch Rob, dwi’n dallt yn iawn. :+1:

Wnes i gymryd rhan mewn Parkrun heddiw, yn Erddig, Wrecsam. Maen nhw’n cynnal y gweithgareddau 'ma dros y byd felly bydd na un yn agos atoch chi os dach chi isio cymryd rhan hefyd. Maen nhw’n 5k ac yn dechrau 9 o’r gloch bob bore dydd Sadwrn. :blush: