EISTEDDFOD ENTRIES 2018 - Short Poem in Welsh

Poem, max 20 lines, written in free verse, on the topic “Dyna ddiddorol!”

1 Like

Er Gof am Stephen, Cymro gan Sian Gyrliog

Moehaw Mawr
Gafodd drechu chi
Gan Stephen a minnau
Mewn cwpwl o oriau
Dydd poeth un tro haf
Blynyddoedd yn ol…
Dyna ddiddorol!

A rwan ‘di dychwelyd
Heb cynnig her
Dim aflonyddwch
Dim amarch
I’r blaenoriaid Mawri
Sy’n nythu ar gopa chi;
Dim ond gwneud fy nghais
Am ychydig o wagle
Ar gyfer Stephen
Sy’n gorwedd yn gryno
Wrth droed chi,
Moehaw Mawr
Anrheg o Gymru.

Dyna ddiddorol gan Gobaith

Ddoe clywes i gerdd ar y radio
Roedd hi’n hyfryd dros ben
Ac wedyn enw yr bardd:

DY ODL DI AR Y RADIO!

Roedd 'na gystadleuaeth
A dyna ti sy’n ennill
Rhaid i ti deimlo’n falch,

YR YNOD YN ADRODD DY ADNOD!

Ond nid oedd yr odl gan ti
Ti’n gwybod hon iawn
Ti wedi dwyn linellau o fardd wedi marw

O DYLAN YN DOD ADRAN!

Yn ei fedd yn troi’r bardd o Laugharne
Oherwydd dy ddigywilydd-dra,
Ac hefyd oherwydd fy nghelfyddyd i,
Sef defnyddio, ar ben pob un pennill
Dim ond y llythrennau:

D-Y-N-A-D-D-I-D-D-O-R-O-L

Dyna Ddiddorol gan Molly Loli

Dyna Ddiddorol
Fy enw i ydy Molly
A dwi’n mwynhau dysgu
Pethau diddorol i fi .
Gallaf i findio pethau,
Ar teledu a llyfrau,
Hyd yn oed yn y siopau.
Pan dwi’n leiaf disgwyl,
Findio rhywbeth diddorol.
Fel gemau i bod doniol.

Darganfod pethau tu fas
Pan cerdded gyda arth glas.
Tra bwyta rhywbeth blasus,
Weithiau weld rhywbeth rhyfedd,
Fel tylwyth teg yn yr ardd.
Gwir, Arth a fi byth celwydd.
Amser nos mynd i gysgu,
Ac fy Teddi gyda fi.
Byd diddoral pan ti tri.

Dyna ddiddorol gan Celtaidd

Mae natur yn ddiddorol,
Yn cymryd bywyd
Ac yn rhoi bywyd,
Yn grac gyda drygioni,
Yn hapus gyda daoini,
Yn di-feddwyl
Ond yn cyd-deimladog,
Dieuog ar diwrnod heulog,
Euog ar ôl storm,
Disgleir bob bore,
Tywyllwch bod nos,
Doniol yn yr Haf,
Grac yn y Gaeaf,
Dim yn siwr bob Gwanwyn a Hydref,
Poeth ac oer,
Blinedig ac Egniol,
Awyrgylch da,
Ond weithiau grac,
Ond yn y diwedd,
Fel mam i bawb.

Dyna ddiddorol gan Morfydd

Scrownjar ydy Sara Jarman,
Sy’n gweithio dim ond am ei phlant.
Trwy Gredud Cynhwysol mae’n sgleman
Lladrad agored – yn llwyddiant!
Rhy ddrud ydy ei bodiant.

Sgwlcyn ydy Steffan Price
Sy’n cysgu ar y trothwy Spar.
Mae’n yfed, weithiau’n smygu Speis
I fwrw’r oer, yr ofn, afar.
Byddai fod yn well yn y carchar.

Parasit yw Pehr Sa’id
A theithiodd dros y byd a’r môr
Daeth hi am loches, daw o hyd
Trais, anhaeledd, cas di-dor.
Cau’r drws – dydy hi ddim brodor.

Ond chi – chi’n werth crewyn o reuedd.
Dyna ddiddorol, ond yw hi?
Chi’n blothiach o’r bru i’r bedd,
Nid oes digon o foeth i chi.
Helpwch eich hunan, ein meistri ni!

1 Like

Dyna ddiddorol gan y Tylwyth Teg

“Pam mae’r ddraig ar faner Cymru?”
Gofynodd y ferch i mi
"Wel dewch i’r byd hud a lledrith
I glywed y hen stori.

Amser maith yn ol ar y noson gwyllt,
Dwfn yn y goedwig fawr.
Gwisgodd y tri mewn clogyn du,
Y dewin, y gwrach a chawr mawr.

"Dyn ni’n angen amddifyn ein Cymru fach
A chadw draw y gelyn.
Gafael yn dyn i Gymru ein Gwlad
Ein hiaith, ein hanes, a thelyn.

“Does neb yn y byd fel Dewi y ddraig.
Mae’n ffyrnig, dewr, a ffyddlon
Dewi yr un i ymladd dros Gymru,
Gyda than yn ei geg a chalon.”

“Dyna ddiddorol” chwarddodd y ferch
“Ond dyw’r stori ddim yn onest”.
“Wrth gwrs” meddaf fi. “Lol na gyd”
Fel hedfanodd y gwrach wrth y ffenest.

Vote here

  • Er Gof am Stephen, Cymro - gan Sian Gyrliog
  • Dyna ddiddorol - gan Gobaith
  • Dyna Ddiddorol - gan Molly Loli
  • Dyna ddiddorol - gan Celtaidd
  • Dyna ddiddorol - gan Morfydd
  • Dyna ddiddorol - gan y Tylwyth Teg
  • No award

0 voters