Be' 'dach chi'n gwneud? - A topic to practise writing Welsh, open to all!

Thought i’d start a thread where we can just state what we’ve been doing in welsh…a means of expanding vocabulary and sharing interests. If you think its a good idea please contribute.

Felly, y bore 'ma dw i di bod yn coginio a dw i wedi paratoi bwyd am cinio heno.

Ond, yn cyntaf “hors d’ouvres”. Blinis efo eog, betys, cafiâr a creme fraiche.

Heno 'da ni’n mynd i gael macrell, cig oen a cacen gaws efo mafon.

13 Likes

Syniad da Peter. We usually try to keep this forum in English so everyone gets to read and understand all the threads but one simple thread in Welsh can’t do any harm, right?

Heddiw dwi 'di bod yn cysgu ar ôl gweithio trwy’r nos neithiwr. Yndw, dwi’n arwain bywyd anhygoel.

1 Like

Dim ond eistedd yn y tŷ yn aros i´r glaw beidio bwrw … ac yn aros …

2 Likes

Dw i’n cael fy ngyrru gatre ar ol wythnos yn y gogledd. Dw i’n teimlo eitha sal gyda ffordd troellog. Ond, o leiaf, dyn ni’n yn Sir Gar nawr. Hanner awr, gatre.

2 Likes

Wnes i cael ir sgwrs Cymraeg gyda Brigitte 15 munud nol. Dw i’n gwrando ar cerddoriaeth Slofeneg ar YouTube a chanu nawr … Dw i’n rhannu ar Facebook beth dw i’n gwrando … :slight_smile:

4 Likes

Sut mae´r tywydd acw yn Slofeni, Tati? Mae´n bwrw glaw yng Nghymru ac yng Ngheryw yll dwy, gwlyb, gwlyb, gwlyb. Dyna i chi ¨Haf ym Mhyrdain¨ :wink:

Mae hi’n heulog, 30 graddau. Iawn! Nid yn haf yn cwpla yn Slofenia eto. … :slight_smile:

1 Like

Ddoe, cerddon ni (fy nghariad a fi) rownd Budapest. Roedden ni’n siarad yn Gymraeg trwy’r dydd. Aethon ni i’r Palas Brenhinol, Eglwys Gedeiriol Sain Ioseph, Eglwys Matyas, Syrcas Bywd Stryd, a wedyn gaethon ni ormod i yfed yn y dafarnau adfail. Maen nhw’n tafarnau yn hen adeilad, gyda llawer o gelf a cherddoriaeth. Roedden nhw’n wych!

Heddiw, dan ni’n mynd i’r Tŷ Arswyd. Mae’n amgueddfa am ffasgaeth a’r amser Soviet.

2 Likes

Diolch pawb…mae’n neis i weld fod pobl yn mwynhau’r penwythnos.

Wrth gwrs, o’n i’n angen defnyddio’r geiriadur! Beth bynnag…rwan dw i’n gwybod pethau newydd.

Ar hyn o bryd, dw i’n gwylio cegin bryn ar BBC Iplayer. Mae’r bwyd yn edrych yn flasus iawn!

3 Likes

Heddiw, wedi bod i’r eglwys. Wedi casglu fy narlleniadau Cymraeg am wythnos nesa. Wedi cymryd fy nhabled wythnosol. Wedi cael banana am frecwast.

1 Like

Bwyd diafol!

1 Like

Ahhh … jyst rownd y gornel o fi. :slight_smile: ?? Da iawn achos mae tywydd yn dda iawn yn yr ardal. :slight_smile:

Wnes i jyst cael fyn nghoffi ail ac dw i’n mwynhau fe nawr.

Ydy! Mae’r tywydd yn braf iawn, poeth ond dim rhy boeth. Dwi’n hoffi’r ddinas. Mae’n ddiddorol iawn! Mae ei hanes yn drist iawn, ond mae’r bobl yn gyfeillgar!

Dwi’n meddwl ein bod ni’n dod i Slofenia blwyddyn nesa! Mae fy nghariad, fi a ychydig o ffrindiau

Ie, dw i’n cytuno.

Oo, da iawn! :slight_smile: Bendigedig! :slight_smile: Croeso.

Bwyd y nefoedd yn fy marn i. Maen nhw’n mor amlbwrpas … yr ychwanegiad hanfodol mewn smwddi ffrwyth.

1 Like

Dw i’n ymarfer gwrando yn Cymraeg. Ac rwan dw i’n meddri ymarfer darllen hefyd! (Dim Google Translate yma!)

1 Like

Heddiw dw i’n coginio eto. Bhajis.

1 Like

Dw i’n gweithio ar fy ailddilysu (revalidation). A hefyd dw i’n mwynhau y gwrthdyniadau (distractions).

1 Like

Yn trio gwneud rhestr o beth dan ni angen gwneud er mwyn symud tŷ yr wythnos hon… :slight_smile:

3 Likes